Bydd glasbrint ar gyfer gweithredu’n ddiogel a chynhyrchiol gan gynhyrchwyr yn ystod cyfnod COVID-19 yn rhoi hyder i’r diwydiant bwyd yng Nghymru i fedru addasu i’r dull gweithredu normal newydd fel y dechreuwn ddod allan o’r pandemig ac y gosodir y diwydiant ar y ffordd i welliannau mewn cynhyrchiant a chyfnewidiadau.
Mae’r glasbrint a gyflwynwyd gan Ganolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch (AMRC) Prifysgol Sheffield a Llywodraeth Cymru yn adeiladu ar y profiad o droi AMRC Cymru yn gyfleuster ar gyfer cynhyrchu gwyntiedyddon meddygol fydd yn achub bywydau a hynny gan gonsortiwm Medical Challenge UK. Mewn llai na pythefnos cafodd y sefydliad radd flaenaf ei rhwygo allan er mwyn caniatau i 88 o weithwyr weithio ar yr un pryd tra’n cadw pellter cymdeithasol a chaniatau amser i ffwrdd rhwng sifftiau ac amser cinio.
Mae hyn yn adeiladu ar y Canllawiau Gweithle a gynhyrchwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru a ddylunwyd i helpu holl fusnesau sicrhau eu bod yn gweithio’n ddiogel ac yn ymdopi â sialensau a gyflwynir gan COVID – 19.
Dywedodd Leslie Griffiths AC, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig Llywodraeth Cymru ‘’Rydym yn gwybod fod cwmniau cynhyrchu bwyd yn cael eu gorfodi i ail-edrych ar weithdrefnau gweithredu a rheoli diogelwch gweithwyr a’u bod yn edrych ar gyfleoedd dyfeisgar ermwyn parhau i weithredu’n gynhyrchiol. Roedd y Gweinidog eisiau helpu gweithgynhyrchwyr ar y daith honno.’’
Ychwanegodd Jason Murphy, Cyfarwyddwr Gweithredu AMRC Cymru: ‘’ Mae’r sialensau a wynebir er mwyn paratoi ein safle ar gyfer y gwaith gwyntiedyddon wedi golygu ein bod wedi gwneud defnydd go iawn o’n medrusrwydd modelu a’n medrusrwydd gwneud efelychiadau. Yr hyn rydym am ei wneud nawr yw helpu gweithgynhyrchwyr bwyd sy’n wynebu llawer o’r un sialensau fel y gallant drawsnewid eu busnesau yn llwyddiannus i’r “normal newydd”.’’
‘’Rydym eisiau i weithgynhyrchwyr fod yn gynhyrchiol ond yn ddiogel yn ystod y cyfnod annodd hwn ac rydw i yn meddwl y bydd y ddogfen hon yn eu helpu i gyflawni hynny. Yn ogystal, bydd yn gam cyntaf i greu gweithrediad sydd yn wytnach, yn fwy ystwyth ac yn cael ei alluogi’n ddigidol llawer gwell.’’
Mae peirianwyr yn AMRC Cymru, Brychdyn, Gogledd Cymru wedi ymuno â Bwyd a Diod Cymru er mwyn cynhyrchu canllaw sy’n cynnwys llawer o gyngor gwerthfawr ar bethau fel llif y ffatri, addasu safleoedd gweithio, addasu amser toriadau, ail – ddylunio cyfleusterau toiledau, trefniadau parcio a sut i drefnu danfoniadau yn ddiogel.
Yn ogystal, mae’r ddogfen gynhwysol a elwir The New Normal, yn tanlinellu llawer o’r posibiliadau a’r cyfleoedd o gyflawni technolegau newydd er mwyn mynd i’r afael â’r sefyllfa bresennol a chreu gweithrediad llawer mwy gwydn. Ar y dechrau, anfonir y canllaw at gwmniau bwyd, cwmniau diod a chwmniau pacedu yng Nghymru. Fodd bynnag, mae posibilrwydd y gall y canllaw ffurfio sail ar gyfer canllaw i fusnesau ardraws y DU.
Dywedodd Bobby Manesh, Arweinydd Technegol Bwyd a Diod AMRC Cymru ‘’Y gobaith yw y bydd y ddogfen yn darparu canllaw clir ar gyfer rheolwyr a staff i ail-gychwyn gwaith cynhyrchu bwyd yn ddiogel tra ar yr un pryd yn cadw at reolau caeth y llywodraeth; ond rydym eisiau agor meddyliau pobl i’r cyfleoedd technolegol sydd ar gael ar hyn o bryd.
Cyn cychwyn cynhyrchu dau o is-rannau allweddol i’r gwyntiedyddon, fe wnaethom ni redeg meddalwedd modelu Discrete Event Simulation (DES) a arweiniodd i ni ddefnyddio toriadau amser cinio cyfnodol a lleihau amser segur i’r llinell gynhyrchu. Mewn safleoedd eraill, profwyd fod clustffonau Autanomous Guided Vehicles (AGV) a Microsoft Holohens Augmented Reality (AR) yn hynod werthfawr yn y broses o gynhyrchu’r dyfeisiadau hyn sy’n achub bywydau.
Manylir ar bopeth a ddefnyddiwyd gennym i helpu i weithgynhyrchu’r gwyntiedyddon yn y ddogfen The New Normal ac yn hollbwysig gall unrhyw fusnes eu gweithredu.’’
Agorwyd AMRC Cymru ym mis Tachwedd 2019 gyda chefnogaeth buddsoddiad o £20m gan Lywodraeth Cymru a dyma Ganolfan Gatapwlt Gweithgynhyrchu Uchel ei werth gyntaf yng Nghymru.
Mae AMRC Cymru yn gweithredu ardal ymchwil mynediad agored 2,000 metr sgwâr gyda Airbus y tenant cyntaf mwyaf gyda modd i ddatblygu y math newydd nesaf o dechnolegau i gynhyrchu eu hadenydd sydd yn gyflin â’r rhaglen ‘Wing of Tomorrow’.
Dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Cludiant a Gogledd Cymru: er nad yw AMRC Cymru yn cael ei ddefnyddio fel yr oeddem yn rhagweld y byddai’n cael ei ddefnyddio pan y’i agorwyd y llynedd, rydym yn hynod falch o sut mae’r cyfleuster yn rhan o’r ymdrech genedlaethol i drechu COVID-19.
‘’Yr hyn sydd angen i ni ei wneud nawr yw dysgu gwersi gan y gwaith arbennig hwnnw, dychwelyd i’r gwaith pan ganiateir gan y cyfyngiadau a defnyddio hwn fel springfwrdd i edrych ar gyfleoedd newydd.’’
Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi mwy o ganllawiau yn yr wythnosau nesaf ar gyfer y gweithle i leoliadau penodol gan gynnwys, manwerthu, labordai a chyfleusterau ymchwil, y diwydiant adeiladau a gweithio y tu allan.