Mae cimychiaid o Gymru yn gobeithio sefyll allan wrth i gynllun ‘bandiau bodiau wedi’u brandio’ gael ei lansio.

Ar ôl dal cimychiaid, caiff bandiau rwber eu gosod ar eu bodiau i'w hatal rhag anafu eu hunain a'r rhai sy'n eu trin. Mae'r cynllun newydd yn golygu bod bandiau’n cael eu gosod ar gimychiaid i ddangos yn glir eu bod wedi cael eu dal yn nyfroedd Cymru gan bysgotwyr o Gymru.

Cydlynwyd y cynllun bandiau wedi’u brandio ar gyfer cimychiaid gan Glwstwr Bwyd Môr Cymru, prosiect a arweinir gan Cywain sy'n annog ac yn hwyluso cydweithio ymysg busnesau ac unigolion yn y sector bwyd môr.

Cyn pandemig COVID-19, roedd dros 90% o gimychiaid Cymru’n cael eu hallforio i'r cyfandir. Er bod y farchnad hon wedi'i tharo yn ystod y misoedd diwethaf, mae pysgotwyr Cymru wedi bod yn ystyried ffyrdd o godi proffil eu pysgod cregyn yn nes adref ers tro.

Datblygwyd y bandiau bodiau wedi’u brandio yn dilyn ceisiadau gan bysgotwyr yng Ngogledd Cymru, a oedd yn teimlo y byddai gallu dangos yn glir bod y cimychiaid yn dod o Gymru yn helpu i gynyddu ymwybyddiaeth ac ychwanegu gwerth at yr hyn maen nhw’n ei ddal.

Dywedodd Siân Davies, Rheolwr Clwstwr Bwyd Môr (Gogledd Cymru),  "Mae hon yn enghraifft wych o gydweithio gan aelodau'r Clwstwr.

"Maen nhw'n ceisio tyfu marchnad y DU, ac mae'n fraint cael gweithio gyda nhw ar y prosiect hwn. Rwy'n edrych ymlaen at weld mwy o fwyd môr gwych, cynaliadwy, yn dod yn fwy amlwg mewn marchnadoedd yn y dyfodol agos.

"Rwy'n annog unrhyw fusnesau bwyd môr a fyddai'n hoffi bod yn rhan o'r Clwstwr i gysylltu â mi, a helpu i godi proffil bwyd môr Cymru."

Mae'r pysgotwr cimychiaid, Brett Garner, wedi bod yn pysgota o Borth Neigwl am dros 30 mlynedd.

Meddai, "Cawsom y syniad am y Bandiau Cimychiaid ymhell cyn y sefyllfa sydd ohoni nawr gyda’r coronafeirws.

"Mae wedi cymryd 15 -18 mis i'r bandiau ymddangos, ond fel popeth mae'n cymryd amser.

"Yr holl syniad yw hyrwyddo cimychiaid Cymru fel cynnyrch o safon a dangos o ble mae’r cimwch yn dod - yn enwedig gan ein bod yn ceisio hybu gwerthiant yn y wlad hon.

"Bydd pobl yn talu mwy am gynnyrch o safon, felly bydd y bandiau hyn yn dangos yn glir mai cimychiaid o Gymru yw’r rhain."

Mae pysgota am bysgod cregyn yn draddodiad teuluol i Siôn Williams, sydd â brawd a pherthynas arall hefyd yn pysgota o Borth Colmon ym Mhen Llŷn.

Meddai, "Mae'r hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd yn dangos ein bod mewn sefyllfa fregus iawn yn y farchnad fyd-eang.

"Fodd bynnag, mae prosiect y ‘Bandiau Cimychiaid’ yn mynd law yn llaw â'r hyn yr hoffem ei wneud yn y dyfodol - hynny yw, gwerthu mwy yn y DU a gwneud pobl yn fwy ymwybodol o gimychiaid Cymru ac ychwanegu gwerth at ein pysgod cregyn.

"Mae'r bandiau nid yn unig yn wych ar gyfer marchnata a dangos i ddefnyddwyr o ble maen nhw’n dod – sy’n rhywbeth y mae galw amdano, ond mae'r hashnod yn eu helpu i ddarganfod mwy am fwyd môr Cymru ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol."

Meddai Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, "Rydym ni’n benderfynol o helpu i gefnogi pysgotwyr o Gymru mewn unrhyw fodd posibl yn ystod y cyfnod anodd hwn.

“Rydym ni’n ffodus iawn yng Nghymru o gael digonedd o arfordir gyda physgod a physgod cregyn anhygoel. A gwyddwn fod bwyd môr o Gymru’n frand pwysig iawn, ar lefel rhyngwladol yn ogystal ag yn y wlad hon.

“Gyda’r argyfwng diweddar wedi arwain at lai o alw o’r Cyfandir - un o’r cronfeydd cwsmeriaid pwysicaf ar gyfer bwyd môr o Gymru - rydym ni’n awyddus i hyrwyddo busnesau pysgota o Gymru, ac i annog cwsmeriaid Cymreig i brynu cynnyrch o Gymru lle bynnag bo hynny’n bosibl.”

I gyd-fynd â lansiad y Bandiau Cimychiaid, paratowyd cyfres o ryseitiau a gwybodaeth am goginio gyda chimychiaid gan Ellis Barrie, cogydd bwyty Marram Grass yn Ynys Môn.

Esbonia Siân Davies, "Efallai fod gan rai pobl ddiffyg hyder a'r sgiliau i baratoi a choginio cimychiaid, ond bydd y cyfarwyddiadau cam-wrth-gam a ryseitiau Ellis Barrie yn dangos pa mor gyflym a syml yw paratoi cimychiaid Cymreig blasus gartref."

Dilynwch y linc i weld rysetiau cimwch Ellis Barrie: https://www.youtube.com/watch?v=-hA53QjVtF0

https://www.youtube.com/watch?v=7ebItMaGcK8&t=188s

 

Share this page

Print this page