Mae Black Mountains Smokery yn dathlu ar ôl ennill un o wobrau mwyaf mawreddog y diwydiant bwyd a diod.
Yn seremoni wobrwyo Gwobrau Great Taste, sy’n cael eu hadnabod fel Oscars y byd bwyd, gwelwyd Brest Hwyaden Fwg y cwmni o Grucywel, yn cipio gwobr y Golden Fork o Gymru.
Mewn buddugoliaeth arall i Gymru, enillodd Absinthe Distyllfa Dà Mhìle o Geredigion hefyd Wobr Treftadaeth Nigel Barden am dynnu sylw at ddulliau cynhyrchu traddodiadol a threftadaeth.
Mae Gwobrau Great Taste, a drefnir gan y Guild of Fine Food, yn feincnod cydnabyddedig ar gyfer y sector bwyd a diod arbenigol. Yng ngwobrau eleni, dyfarnwyd 3-seren i Black Mountains Smokery am eu Brest Hwyaden Fwg, yn ogystal ag 1-seren am eu Eog Puprog wedi’i Rostio â Derw.
Mae Black Mountains Smokery yn fusnes teuluol adnabyddus sydd wedi'i leoli ger Crucywel. Maen nhw’n arbenigo mewn cynhyrchu amrywiaeth eang o fwydydd mwg derw blasus, gan gynnwys eog, pysgod, cigoedd a chawsiau mwg yn ogystal ag anrhegion bwyd a hamperi Cymreig moethus. Mae eu cynhyrchion yn cael eu creu gan ddefnyddio dulliau traddodiadol a'r cynhwysion gorau, sy’n sicrhau blas ac ansawdd eithriadol.
Mae eu Brest Hwyaden Gressingham Fwg wedi'i halltu'n ysgafn a'i mygu'n boeth dros dderw Cymreig a dyma'r cynnyrch sy'n gwerthu orau ganddynt. Disgrifiodd y beirniaid y cynnyrch fel “brest hwyaden dew, ddeniadol sydd â gwrid pinc hyfryd ac arogl mwg derw amlwg. Mae cydbwysedd yr halltu a’r mygu’n graff ac yn cyfoethogi blas glân yr hwyaden. Mae hyn yn dangos gallu go iawn. Mae’n wych - yn syml, yn bur a'r hwyaden yw’r seren.”
Mae Jo Carthew o Black Mountains Smokery yn hynod o falch o’u llwyddiannau,
“Rydyn ni wrth ein bodd gyda’n llwyddiant Great Taste eleni. Mae cael 3-seren ar gyfer ein Brest Hwyaden Fwg ac 1-seren ar gyfer ein Eog Puprog wedi’i Rostio â Derw yn gamp enfawr ond mae cael ein henwi’n Golden Fork o Gymru yn anhygoel.
“Mae’r gwobrau’n adlewyrchiad o ymroddiad y tîm cyfan i ansawdd ac angerdd dros greu cynhyrchion bwyd mwg eithriadol, crefftus. Rydyn ni’n falch o allu galw ein hunain yn gynhyrchwyr Great Taste.”
Mae Distyllfa Dà Mhìle yn ddistyllfa organig sydd wedi’i lleoli ar fferm ger Llandysul, Ceredigion. Wedi'i sefydlu yn 2012, mae'n adnabyddus am gynhyrchu amrywiaeth o wirodydd organig o ansawdd uchel, gan gynnwys wisgi, jin, rym, a gwirodlynnau.
Gyda ffocws ar gynaliadwyedd a thechnegau distyllu traddodiadol, gan ddefnyddio dim ond cynhwysion organig o'u fferm a'r ardaloedd cyfagos, mae gan eu Absinthe 3-seren, sydd wedi'i grefftio â llaw, liw gwyrdd-cynnes naturiol a blas umami. Yn ogystal â'i Absinthe, enillodd y ddistyllfa hefyd 1-seren ar gyfer ei Dark Skies Rum, a hefyd ei Apple Brandy.
Gan gadw crefftwaith creu gwirodydd, mae John Savage-Onstwedder, sylfaenydd Dà Mhìle yn credu bod eu hymagwedd yn adlewyrchu parch dwfn at y gorffennol tra’n cynhyrchu gwirodydd llwyddiannus eithriadol.
“Mae’n wir anrhydedd i ni dderbyn Gwobr Treftadaeth Nigel Barden am ein Absinthe. Rydyn ni wedi ymrwymo i ddefnyddio dim ond dulliau traddodiadol yn ein proses gynhyrchu i sicrhau'r ansawdd a'r blas gorau. Trwy ddefnyddio hen dechnegau distyllu a chynhwysion organig, rydyn ni’n cynnal y dilysrwydd a'r blasau cyfoethog.
“Hoffen ni ddiolch i’r tîm cyfan yn Dà Mhìle am eu gwaith caled. Rydyn ni wrth ein bodd!”
Wrth eu llongyfarch ar eu llwyddiant, dywedodd Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies,
“Hoffwn longyfarch Black Mountains Smokery a Distyllfa Dà Mhìle ar eu llwyddiant yng Ngwobrau Great Taste. Mae’n enghraifft wych o ragoriaeth ac arloesedd ein cynhyrchwyr bwyd Cymreig.
“Mae diwydiant bwyd a diod Cymru yn rhan hanfodol o’r economi ac mae gweld cymaint o gynhyrchion o bob rhan o Gymru yn cael eu cydnabod yn y gwobrau hyn yn profi bod gan fwyd a diod o Gymru enw haeddiannol am ansawdd a blas. Rydyn ni’n falch o gefnogi ein cynhyrchwyr a dathlu eu llwyddiannau ar lwyfan mor fawreddog.”
Mewn arddangosfa ryfeddol o allu coginio, roedd 149 o gynhyrchion o bob rhan o Gymru yn fuddugol yn y gwobrau eleni gyda 97 o gynhyrchion yn ennill 1-seren, 45 yn derbyn 2-seren a 7 yn ennill y stamp aur o gymeradwyaeth gyda 3-seren.
Great Taste, a drefnir gan y Guild of Fine Food, yw cynllun achredu bwyd a diod mwyaf a mwyaf dibynadwy’r byd sy’n profi bwyd a diod. Mae'r gwobrau'n cael eu cydnabod yn fyd-eang fel arwydd o ragoriaeth ac maen nhw’n bwysig iawn i gynhyrchwyr a phobl sy'n hoff o fwyd. Cafodd pob cynnig ei flasu’n ofalus iawn gan banel beirniad arbenigol y Guild of Fine Food o dros 500 o feirniaid bwyd, cogyddion, crewyr ryseitiau, prynwyr, manwerthwyr, ac arbenigwyr eraill ym maes bwyd a diod. Dadansoddwyd ceisiadau yn ystod 92 o ddiwrnodau beirniadu, pob un yn derbyn adborth manwl, p'un a oeddent wedi ennill gwobr ai peidio.
Gall enillwyr Gwobrau Great Taste nawr arddangos y logo eiconig Great Taste du ac aur fel symbol o ansawdd rhagorol.
Mae rhestr lawn o enillwyr eleni a ble i’w prynu ar gael yn www.greattasteawards.co.uk.
I gael rhagor o wybodaeth am Black Mountains Smokery ewch i Smoked Salmon, Meat, Cheese, Gourmet Food Gift Hampers (smoked-foods.co.uk).