Blas ar fwyd a diod newydd o Gymru

O bryfed a bwydydd sy’n seiliedig ar blanhigion i feddyginiaethau naturiol ac arferion iechyd amgen

Bydd cynhyrchwyr bwyd a diod Cymreig yn arwain y ffordd unwaith eto yn un o’r digwyddiadau bwyd, iechyd a maeth cynaliadwy pwysicaf. Mae Food Matters Live, sy’n cael ei gynnal ddiwedd y mis (19-20 Tachwedd), yn arddangos cynnyrch newydd ac yn amlygu’r datblygiadau diweddaraf, a bydd eto’n dangos bod arloesedd ac ansawdd wrth galon chwyldro bwyd a diod Cymru.

Bydd y tîm o gwmni llwyddiannus Bug Farm Foods yn Sir Benfro, sy’n cynhyrchu cynnyrch arloesol ac unigryw sy’n cael eu gwneud gyda phrotein pryfed, sy’n cynnwys Cwcis Criced a Bisgedi Byfflo, powdrau pryfed, a phryfed cyfan, yno.

Bydd y sylfaenwyr, yr entomolegydd Dr Sarah Beynon a’r cogydd llwyddiannus Andy Holcroft yn arddangos bwyd protein pryfed a phlanhigion newydd sydd wedi cael ei ddatblygu i fynd i’r afael â gordewdra mewn plant. Gellir defnyddio VEXo mewn ffordd debyg i friwgig, gan leihau braster dirlawn o 70-80%.

Dywedodd Dr Sarah Beynon: 

“Mae llawer o faetholion mewn pryfed ac maen nhw’n amgylcheddol gynaliadwy i’w cynhyrchu. Mae nifer o bryfed yn cynnwys cymaint o brotein cyfatebol â chig eidion a gallan nhw gynnwys pob un o’r naw asid amino hanfodol. Gellir ffermio pryfed mewn ffermydd sy’n gwir ystyried lles, nid oes angen llawer o fwyd, dŵr na lle arnyn nhw, a phrin iawn yw’r nwyon tŷ gwydr maen nhw’n eu hallyrru.”

“Gofynnodd Llywodraeth Cymru ac Innovate UK inni, o dan brosiect Menter Ymchwil Busnesau Bach (SBRI) i ddod o hyd i ffordd o ddefnyddio’r maetholion sydd i’w cael mewn pryfed a’u cyflwyno nhw mewn ffordd sy’n dderbyniol i’n chwaeth orllewinol ni” meddai Andy.

Yn ymuno â nhw ar stondin Bwyd a Diod Cymru bydd y cwmni newydd, Alchemy Gold, cwmni crefftus sydd wedi datblygu diod tyrmerig cryf, iach o ddim. Ar ôl blynyddoedd o ymchwilio a datblygu’r rysáit orau bosibl o ran blas a gwerth maethol, bydd Alchemy Gold ar gael o fis Rhagfyr 2019.

David Dunn yw sylfaenydd (a Phrif Alcemydd!) y cwmni, ac mae wedi bod yn defnyddio meddyginiaethau naturiol ac arferion iechyd amgen ers amser maith. Bu datblygu arthritis yn ei 40au yn her a wnaeth David yn fwy a mwy agored i ddefnyddio meddyginiaethau naturiol a dulliau gwella hynafol er mwyn lliniaru’r symtomau. Aeth hyn ag ef ar daith ddarganfod a arweiniodd at greu Alchemy Gold. Y canlyniad yw diod â chic, sy’n flasus a chryf iawn gyda naws sinsir, sitrws a sbeisys cynnes.

Mae’r rysáit wedi ei seilio 100% ar dystiolaeth ac mae’n defnyddio astudiaethau ymchwil gwyddonol gorllewinol cyfoes sydd wedi dylanwadu ar ba gynhwysion a ddefnyddiwyd a’u cryfder.

Dywed David Dunn, y sylfaenydd,

“Mae Alchemy Gold yn bodoli oherwydd fy mod yn chwilio am rywbeth i helpu gydag arthritis – oedd yn cael effaith fawr ar fy mywyd. Treuliais lawer o amser yn ymchwilio i fuddion tyrmerig a chynhwysion naturiol eraill a chefais gyngor gan wyddonwyr maethol cymwys ac ymarferwyr Ayurveda. Yn y pen draw, rydw i wedi creu elicsir euraidd naturiol sydd â’r potensial i helpu gyda phob math o glefydau a chyflyrau. Rydw i’n credu ym mhŵer Alchemy Gold a bod angen i bob un ohonon ni fuddsoddi yn ein hiechyd presennol a’i hiechyd yn y dyfodol. Gwneuthurwr dodrefn ydw i wrth fy ngalwedigaeth ac rydw i wrth fy modd â fy nghrefft – rydw i’n gobeithio parhau â hi tan i mi ymddeol. Er mwyn gwneud hyn, roedd rhaid i mi ddod o hyd i feddyginiaeth ar gyfer y chwydd yn fy nghymalau ac mae Alchemy Gold yn ganlyniad tair blynedd o brofi a methu. Nawr rydw i eisiau ei rannu gyda chynifer o bobl â phosibl a allai hefyd gael budd ohono.”

Hefyd yn y sioe bydd y brand bwyd a diod sy’n seiliedig ar blanhigion, Gut Instinct. Datblygodd Gut Instinct o ddyhead i helpu prynwyr i gael iechyd corfforol a meddyliol cryf gyda deiet a maeth iawn ac, ar yr un pryd, lleihau ein ôl troed carbon. Mae’r cynnyrch yn cynnwys Barista Oat Edition (crëwyd ar gyfer coffi); Oatstix Dairy Free Milk Alternative (dognau 10ml unigol) a Vegan Mayo (heb wy; dognau 9g unigol).

Chris Joll y sylfaenydd sy’n egluro cefndir y cynnyrch,

“Gut Instinct yw fy nhaith ddarganfod bersonol i, ar ôl i mi gael fy llethu gan Flinder Cronig yng nghanol fy ugeiniau. Dysgais dros y blynyddoedd mai gwell dealltwriaeth o fwyd oedd yr allwedd i wella fy iechyd. Rydw i’n credu mai cydbwysedd a chymedroldeb yw’r prif gynhwysyn er mwyn bod yn iach ac mae maeth sy’n seiliedig ar blanhigion yn dod yn ganolbwynt i arferion bwyta bob dydd.

 “Mae prynwyr yn dechrau dod yn fwy ymwybodol o effaith amgylcheddol arferion ffermio masnachol ac o’r herwydd, maen nhw’n dewis pethau ‘amgen’ yn lle. Mae lles anifeiliaid yn rheswm arall pam fo prynwyr yn newid i ddeiet sy’n seiliedig ar blanhigion. O’r diwedd, mae iechyd y perfedd yn cael y sylw mae’n ei haeddu ac o’n profiad ni, dyna’r allwedd i iechyd cyffredinol. Mae bwyta bwyd o safon sy’n cynnwys bacteria a rhagfiotigion llesol yn lle da i gychwyn er mwyn bod yn iachach ac yn hapusach!”

Ymhlith y deunaw cwmni o Gymru, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, sy’n mynychu Food Matters Live mae The Parsnipship, Bug Farm Foods, Prima Foods UK, Flawsome! Drinks, Human Food, Rogue Preserves, Just Love Food Company, Peak Supps Ltd UK, Cradoc’s Savoury Biscuits, Welsh Gluten Free Bakery Products, Gut Instinct, Alchemy Gold, DrNashGlycoHealth, Montgomery Natural Spring Water Company, Express Contract Drying, Pennotec, 9Brand Foods Ltd ac Arloesi Bwyd Cymru.

Dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths,

“Mae arloesi a pharhau i ddatblygu cynnyrch yn allweddol wrth roi hwb i gwmnïau. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynorthwyo ein cynhyrchwyr, gan roi cefnogaeth iddyn nhw ddatblygu cynnyrch newydd drwy groesawu technoleg newydd a’r cynnydd mewn ymchwil a datblygu.”

Ymysg yr arddangosfeydd a’r cynnyrch eraill fydd yn cael eu lansio ar stondin Bwyd a Diod Cymru eleni

  • Bydd Cradoc’s Savoury Biscuits yn hyrwyddo eu byrbrydau Beer Bite mewn jar – byrbryd wedi ei bobi o safon uchel sy’n berffaith i’w rannu
  • Mae Rogue Preserves wedi lansio 2 farmalêd newydd – Espresso Martini Marmalade a Dark and Stormy Marmalade
  • Bydd Flawsome! Drinks yn arddangos eu hamrywiaeth o suddion pefriog sy’n 60% o ffrwythau wedi eu gwasgu o ffrwythau sbâr a di-siâp, heb unrhyw fath o siwgr ac yn cydymffurfio â rheolau ysgolion
  • Bydd Just Love Food Company yn arddangos eu cacen siocled fegan – a lansiwyd ym mis Ebrill 2019 – y gacen ddathlu fegan gyntaf ar y farchnad
  • Mae Montgomery Water yn lansio 3 chynnyrch newydd – Stretton Hills, dŵr lleol naturiol mewn poteli sydd wedi eu gwneud o ddeunydd y gellir ei ailgylchu 100% ; AquaPlus – dŵr mwyn â CBD; AquaRoma, dŵr mwyn â blas naturiol
  • Bydd The Parsnipship yn arddangos eu pecynnau manwerthu newydd ar gyfer eu cynnyrch fegan fydd yn cynnwys Beetroot Bomb, Tandoor Mash-Up, Thai Mash-Up, Mushroom & Peanut Roast, Moroccan Cashew & Walnut Roast
  • Bydd Human Food yn lansio eu 3 Organic Daily Nutrition Bars, sydd wedi eu creu’n arbennig i gyd-fynd â deiet sy’n seiliedig ar blanhigion

Bydd tîm o arbenigwyr profiadol Arloesi Bwyd Cymru hefyd wrth law i gynnig cymorth, rhoi cyngor, cefnogaeth dechnegol, syniadau arloesol ac arweiniad ar faterion cymhleth rheolaethol a deddfwriaethol.

Daw Food Matters Live â thraws-sector o arbenigwyr bwyd a diod ynghyd â’r bwyd a diod newydd mwyaf cyffrous mewn digwyddiad ysbrydoledig tridiau o hyd. Mae disgwyl i dros 16,000 o bobl broffesiynol ddylanwadol ddod i arddangosfa eleni, sy’n cynnwys dros 800 o sefydliadau pwysig – gyda’i gilydd maen nhw’n amlygu’r rôl bwysig mae pob rhan o’r sectorau bwyd, diod a maeth yn ei chwarae wrth ddatblygu cynnyrch iach sy’n ‘well i chi.’

Dewch draw i stondinau G60-H60 Pafiliwn Bwyd a Diod Cymru yn Food Matters Live o 19-20 Tachwedd 2019 i weld amrywiol gynnyrch newydd ac arloesol.

 

Share this page

Print this page