Cynigiodd rhaglen Sgiliau Bwyd a Diod Cymru gyfle i ddisgyblion o dair ysgol yn ne Cymru brofi’r grefft o goginio ym Mhencampwriaeth Goginio Ryngwladol Cymru 2025. Cafodd y gystadleuaeth hon ei chynnal yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru (ICC) yng Nghasnewydd.
Cafodd y myfyrwyr gyfle i brofi bwrlwm Pencampwriaeth Goginio Ryngwladol Cymru wrth i’r cystadleuwyr ymgiprys yn y gystadleuaeth fawr hon a ddaw â chogyddion artisan, cigyddion artisan a staff blaen tŷ ynghyd am dridiau o gystadlu.
Er mwyn annog disgyblion i droi eu hangerdd am fwyd a diod yn yrfa lewyrchus a dysgu mwy am gyfleoedd gyrfa, cafodd amrywiaeth o siaradwyr a gweithgareddau eu trefnu ar eu cyfer. Dyma flas ar y pynciau:
Trosolwg o dirwedd bresennol y diwydiant bwyd a diod yng Nghymru;
Pwysigrwydd a gwerth Cymreictod;
Sesiwn ffotograffiaeth bwyd gyda Katka Photography;
Technoleg bwyd a phrofi bwyd yn synhwyraidd gyda’r ganolfan diwydiant bwyd ym Mhrifysgol Metropolitan Cymru, Zero2Five;
Technegau gwerthu gan Puffin Produce;
Y prosiect GI;
Gyrfaoedd yn y diwydiant bwyd môr.
Cafodd y digwyddiad ei drefnu gan Gymdeithas Goginio Cymru a’i gynnal rhwng 20 a 22 Ionawr.
Dywedodd Arwyn Watkins OBE, Llywydd Cymdeithas Goginio Cymru:
Roedd yr arddangosfa hon o letygarwch a barodd dridiau yn llwyddiant mawr eto eleni. Gwerthfawrogwn gydweithrediad rhaglen Sgiliau Bwyd a Diod Cymru i annog ysgolion i ddod i’r digwyddiad. Dyma ffordd wych i’r disgyblion weld â’u llygaid eu hunain y gwahanol gyfleoedd cyffrous sydd gan y diwydiant i’w cynnig yma yng Nghymru.
Un o brif nodau’r digwyddiad yw arddangos y diwydiant fel un hyfyw a bywiog i fod yn rhan ohono – a phwy a ŵyr, efallai mai un o’r disgyblion hyn a ymwelodd â ni yn ystod y tridiau fydd y ‘Cogydd Cenedlaethol’ nesaf yng Nghymru.
Ar ôl derbyn gwahoddiad gan raglen Sgiliau Bwyd a Diod Cymru, mynychodd Ysgol Uwchradd Fitzalan, Ysgol Uwchradd Casnewydd, ac Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr.
Dywedodd Elen Rebeca Jones, Rheolwr Ymgysylltu Sgiliau Bwyd a Diod Cymru:
“Roedd sioe deithiol i ysgolion yn llwyddiant mawr! Fe welson ni’r myfyrwyr yn dangos diddordeb ac yn cymryd rhan, gan greu awyrgylch o gyffro a brwdfrydedd tuag at y gweithgareddau.
Gobeithiwn y bydd y llwyddiant hwn yn ysbrydoli myfyrwyr i ystyried gyrfaoedd yn y diwydiant bwyd a diod, gan danio eu diddordeb a’u hangerdd am y cyfleoedd sydd gan y sector deinamig hwn i’w cynnig.”Cynigiodd rhaglen Sgiliau Bwyd a Diod Cymru gyfle i ddisgyblion o dair ysgol yn ne Cymru brofi’r grefft o goginio ym Mhencampwriaeth Goginio Ryngwladol Cymru 2025. Cafodd y gystadleuaeth hon ei chynnal yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru (ICC) yng Nghasnewydd.
Cafodd y myfyrwyr gyfle i brofi bwrlwm Pencampwriaeth Goginio Ryngwladol Cymru wrth i’r cystadleuwyr ymgiprys yn y gystadleuaeth fawr hon a ddaw â chogyddion artisan, cigyddion artisan a staff blaen tŷ ynghyd am dridiau o gystadlu.
Er mwyn annog disgyblion i droi eu hangerdd am fwyd a diod yn yrfa lewyrchus a dysgu mwy am gyfleoedd gyrfa, cafodd amrywiaeth o siaradwyr a gweithgareddau eu trefnu ar eu cyfer. Dyma flas ar y pynciau:
Trosolwg o dirwedd bresennol y diwydiant bwyd a diod yng Nghymru;
Pwysigrwydd a gwerth Cymreictod;
Sesiwn ffotograffiaeth bwyd gyda Katka Photography;
Technoleg bwyd a phrofi bwyd yn synhwyraidd gyda’r ganolfan diwydiant bwyd ym Mhrifysgol Metropolitan Cymru, Zero2Five;
Technegau gwerthu gan Puffin Produce;
Y prosiect GI;
Gyrfaoedd yn y diwydiant bwyd môr.
Cafodd y digwyddiad ei drefnu gan Gymdeithas Goginio Cymru a’i gynnal rhwng 20 a 22 Ionawr.
Dywedodd Arwyn Watkins OBE, Llywydd Cymdeithas Goginio Cymru:
Roedd yr arddangosfa hon o letygarwch a barodd dridiau yn llwyddiant mawr eto eleni. Gwerthfawrogwn gydweithrediad rhaglen Sgiliau Bwyd a Diod Cymru i annog ysgolion i ddod i’r digwyddiad. Dyma ffordd wych i’r disgyblion weld â’u llygaid eu hunain y gwahanol gyfleoedd cyffrous sydd gan y diwydiant i’w cynnig yma yng Nghymru.
Un o brif nodau’r digwyddiad yw arddangos y diwydiant fel un hyfyw a bywiog i fod yn rhan ohono – a phwy a ŵyr, efallai mai un o’r disgyblion hyn a ymwelodd â ni yn ystod y tridiau fydd y ‘Cogydd Cenedlaethol’ nesaf yng Nghymru.
Ar ôl derbyn gwahoddiad gan raglen Sgiliau Bwyd a Diod Cymru, mynychodd Ysgol Uwchradd Fitzalan, Ysgol Uwchradd Casnewydd, ac Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr.
Dywedodd Elen Rebeca Jones, Rheolwr Ymgysylltu Sgiliau Bwyd a Diod Cymru:
“Roedd sioe deithiol i ysgolion yn llwyddiant mawr! Fe welson ni’r myfyrwyr yn dangos diddordeb ac yn cymryd rhan, gan greu awyrgylch o gyffro a brwdfrydedd tuag at y gweithgareddau.
Gobeithiwn y bydd y llwyddiant hwn yn ysbrydoli myfyrwyr i ystyried gyrfaoedd yn y diwydiant bwyd a diod, gan danio eu diddordeb a’u hangerdd am y cyfleoedd sydd gan y sector deinamig hwn i’w cynnig.”