Bydd ‘BlasCymru/TasteWales 2021 yn fwy ac yn well nag erioed’: Lesley Griffiths

Dros £6.2m o gytundebau busnes newydd a £22 miliwn o fusnes newydd posibl wedi’i greu ar ôl digwyddiad 2019.


Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cyhoeddi y bydd prif arddangosfa fwyd a diod Cymru, BlasCymru/TasteWales yn cael ei chynnal ar 10 a 11 Mawrth 2021 yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru (ICC) yng Nghaerllion.

Gan adeiladu ar lwyddiant digwyddiad eleni, a wnaeth greu dros £6.2 miliwn o gytundebau busnes newydd a gwerth bron £22 miliwn o fusnes newydd posibl, dyma fydd y trydydd digwyddiad o’i fath, ers ei gychwyn yn 2017 a sioe lwyddiannus eleni yn y Celtic Manor yng Nghasnewydd.

Mae BlasCymru/TasteWales yn denu prynwyr cenedlaethol a rhyngwladol a chynhyrchwyr bwyd a diod Cymru at ei gilydd i arddangos y cynnyrch o’r radd flaenaf sydd gennym ac i helpu i agor marchnadoedd newydd a chreu cytundebau masnach rhyngwladol. Bydd y digwyddiad hefyd yn rhoi diwydiant bwyd a diod Cymru ar y llwyfan rhyngwladol ac yn hyrwyddo Cymru yn lleoliad allweddol ar gyfer cynhyrchu bwyd a diod o safon.

Aeth dros 190 o brynwyr masnach i’r sioe eleni a chael y cyfle i rwydweithio â thros 100 o gynhyrchwyr bwyd a diod Cymru. Gwnaeth y digwyddiad ddenu ymwelwyr a phrynwyr rhyngwladol o 18 o wledydd ledled Ewrop, Gogledd America, y Dwyrain Canol a’r Dwyrain Pell.

Bydd BlasCymru/TasteWales 2021 yn anelu at adeiladu ar lwyddiant y ddau ddigwyddiad blaenorol, gan gryfhau a chodi ein proffil rhyngwladol ymhellach.

 

Dywedodd y Gweinidog Lesley Griffiths,

“Dw i’n falch i gyhoeddi y bydd BlasCymru/TasteWales yn dychwelyd yn 2021. Mae’n sector bwyd a diod yn enwog yn fyd-eang ac yn enghraifft wirioneddol o lwyddiant Cymru. Roedd y digwyddiad eleni yn llwyddiant ysgubol gan greu bron £22 miliwn o gyfleoedd busnes newydd ac adeiladu ar y busnes gwerth £16 miliwn a gafodd ei sicrhau yn nigwyddiad 2017.”

“Gyda Brexit ar y gorwel, mae’n bwysicach nag erioed i’r sector arddangos yr hyn sydd ganddo i’w gynnig. Fel y dangosodd ymweliad masnach Prif Weinidog Cymru i Japan ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd, mae archwaeth mawr am fwyd a diod o Gymru ac mae’n rhaid i ni wneud popeth gallwn ni i sicrhau bod ein cynnyrch yn cyrraedd marchnadoedd ledled y byd.”

“Byddwn ni’n gweithio’n galed i sicrhau y bydd BlasCymru/TasteWales 2021 yn fwy ac yn well nag erioed gyda hyd yn oed mwy o fusnesau a phrynwyr masnach yn bresennol a hyd yn oed mwy o gytundebau’n cael eu llunio.”

 

Share this page

Print this page