Wrth i Ddydd Gŵyl Dewi agosáu, bydd rhai o gynhyrchwyr bwyd a diod gorau Cymru yn glanio yn Stryd Lamb, Marchnad Spitalfields, Llundain, penwythnos yma (2-3 Mawrth 2024) ar gyfer dathliad o fwyd a diod o Gymru.

Bydd gwledd go iawn yn disgwyl ymwelwyr a phobl sy’n mynd heibio a byddant yn cael y cyfle i flasu amrywiaeth eang o fwyd arbenigol Cymreig, o’r pice ar y maen traddodiadol i charcuterie sydd wedi ennill gwobrau, gan adlewyrchu tirwedd, diwylliant a threftadaeth amrywiol Cymru.

Un o brif uchafbwyntiau’r digwyddiad yw’r gegin wib, gyda’r arbenigwraig bwyd a diod enwog a’r cogydd teledu Nerys Howell. A hithau’n adnabyddus am ei sgil a’i hangerdd am fwyd Cymreig, bydd Nerys yn coginio gwledd, gan gyflwyno arddangosiadau coginio byw sy’n addo eich ysbrydoli.

Mae’r cynhyrchwyr sy’n gwerthu eu cynnyrch yn y farchnad wib yn cynnwys Distyllfa Aber Falls, Alfie’s Coffee, Deli Caerfyrddin gan Albert Rees, Cawl & Co, Cwmfarm Charcuterie Products, Drop Bear Beer, Grounds for Good, Rachel’s Dairy, Radnor Preserves, The Blaenafon Cheddar Co. a The Rogue Welsh Cake Company.

Bydd Côr Meibion Gwalia yn diddanu ymwelwyr a phobl sy’n cerdded heibio dros y penwythnos wrth iddynt berfformio 2 x 20 munud yn Sgwâr yr Esgob gerllaw am 12:15 a 12:55.

Mae’r digwyddiad yn cyd-fynd â dathliad blynyddol Wythnos Cymru yn Llundain, a hefyd yn ffurfio rhan o ymgyrch bwyd a diod ehangach #CaruCymruCaruBlas #LoveWalesLoveTaste, sy’n arddangos y gorau o fwyd Cymru ar draws y DU.

Mae’r farchnad yn fwy na dim ond dathliad – mae’n brofiad diwylliannol cyflawn, sy’n amlygu’r blasau cyfoethog a’r lletygarwch cynnes y mae Cymru’n enwog amdanynt.

Dywedodd Joanna Morgan, Cyfarwyddwr Radnor Preserves, “Yn Radnor Preserves rydyn ni’n credu bod pob jar yn adrodd stori. Mae ein cyffeithiau crefftus yn dal hanfod Cymru.

Rydyn ni’n edrych ymlaen at groesawu ymwelwyr i flasu’r cariad a’r traddodiad sy’n mynd i mewn i bob jar, o’n marmalêd arobryn i’n siytni moethus, mae Radnor Preserves yn dod â sleisen o hud Cymreig i’ch bwrdd.”

Yn y cyfamser, ychwanegodd Carole Jones, Rheolwr Cyffredinol Distyllfa Aber Falls, “Rydyn ni’n paratoi’n eiddgar i arddangos ein detholiad o wirodydd premiwm wedi’u creu â llaw yng nghanol Llundain. Bydd y farchnad yn fwy na chasgliad o werthwyr; mae’n ddathliad o gynnyrch, traddodiad ac arloesedd Cymreig. Edrychwn ymlaen at rannu ein jins a wisgis arobryn gyda Llundeinwyr craff, gan eu gwahodd i flasu hanfod gogledd Cymru ym mhob llymaid. O’n jins botanegol i’n wisgi brag sengl aeddfed, mae Distyllfa Aber Falls yn dod â blas o’n tirwedd garw i strydoedd prysur Spitalfields.”

Mewn cyfnod sydd wedi bod yn un o dwf i ddiwydiant bwyd a diod y wlad, dywedodd Gweinidog Llywodraeth Cymru dros Faterion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, Lesley Griffiths:

“Mae’n wych gweld ein cynhyrchwyr bwyd a diod yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi ac yn hyrwyddo cynnyrch gwych Cymru yn Llundain.

“Mae ymrwymiad y diwydiant i gynhyrchu bwyd a diod arloesol o safon uchel yn amlwg i’w weld a byddwn yn annog pawb i dreulio amser yn cwrdd â’n busnesau, rhoi cynnig ar eu cynnyrch a mwynhau penwythnos arbennig iawn yn y calendr Cymreig.”

Mae Dydd Gŵyl Dewi, neu wledd Dewi Sant, yn ddathliad o dreftadaeth a diwylliant Cymru. Mae’r digwyddiad hwn yn dal hanfod y dathliad, gan gynnig llwyfan i gynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru arddangos eu cynnyrch, wedi’u hysbrydoli gan dirweddau, diwylliant a phobl Cymru.

Manylion y Digwyddiad:

Lleoliad: Stryd Lamb, Marchnad Spitalfields, Llundain, E1 6EA

Dyddiadau ac Amseroedd: Dydd Sadwrn, 2 Mawrth 2024, 10am - 6pm; Dydd Sul, 3ydd Mawrth 2024, 10am - 4pm

Share this page

Print this page