Mae Budweiser Brewing Group UK & I a’u Bragdy Magwyr yn rhoi cymorth i’r gymuned gofal iechyd leol trwy gynhyrchu hylif diheintio dwylo a diheintydd, sy’n cael eu pecynnu a’u dosbarthu i’r gwasanaethau iechyd lleol.

Mae’r bragdy ym Magwyr, sy’n bragu dros 1 biliwn peint bob blwyddyn fel arfer, yn dal i weithredu, gan wneud yr hyn y gallan nhw i roi cymorth i’r rheiny mewn angen yn y gymuned leol yn ystod y pandemig coronafeirws presennol.   

Mae Bragdy Magwyr wedi darparu 485 litr o hylif diheintio dwylo i Heddlu Gwent, 30 litr i Dîm Achub Mynydd y Bannau Canolog, yn ogystal â busnesau lleol eraill fel Meddygfa Cas-gwent, Clinig Dewi Sant, Cartref Gofal Lougher, Cymorth Cymunedol Sir Fynwy a Meithrinfa Appletree. Mae’r bragdy hefyd mewn trafodaethau gyda Chyngor Sir Fynwy i ddarparu hylif diheintio dwylo i’w gweithwyr allweddol.

Agorwyd Bragdy Magwyr The Budweiser Brewing Group yn 1979. Heddiw, mae’r bragdy’n cyflogi dros 390 o staff, ac yn bragu dros 1 biliwn peint bob blwyddyn.

Dywedodd Lloyd Manship, rheolwr Bragdy Magwyr,

“Dechreuais fy ngyrfa fel prentis yn y bragdy hwn yn 1999, a gan fy mod wedi cael fy magu yn yr ardal roeddwn i eisiau chwarae fy rhan a rhoi rhywbeth yn ôl i’r gymuned. Mae mor bwysig ein bod ni’n gwneud popeth y gallwn ni i ofalu am ein gilydd yn ein cymunedau lleol.

“Rydyn ni fel bragdy’n falch iawn o chwarae rhan wrth ddosbarthu hylifau hanfodol fel hylif diheintio dwylo a diheintydd i’r rheiny sydd eu hangen yn ystod y cyfnod heriol hwn. Gwaith tîm ar ei orau!”

Hefyd, dywedodd Paula Lindenberg, Llywydd Budweiser Brewing Group UK&I,

“Mae’r galw am hylif diheintio dwylo ag alcohol wedi parhau i dyfu yn y DU, ac mae prinder yn barod.

“Rydyn ni yn Budweiser Brewing Group mor ddiolchgar am ymdrechion arwrol gweithwyr rheng flaen ein cymunedau lleol, ac yn y cyfnod anarferol hwn rydyn ni eisiau troi’n golygon at roi cymorth i ymdrechion iechyd cyhoeddus a sicrhau bod y bobl o’n cwmpas yn cadw’n ddiogel ac yn iach.”

Mae’r bragdy hefyd yn cefnogi’r sector Tafarndai. Mae Save Pub Life yn fenter sy’n cynnig cyfle i gyhoedd y DU gefnogi tua 40,000 o fusnesau tafarn sydd o dan fygythiad oherwydd lledaeniad coronafeirws. Mae’r cynllun yn annog pobl sy’n mynychu tafarndai i brynu talebau i’w defnyddio yn eu tafarndai lleol pan fyddan nhw’n ailagor, a bydd Budweiser Brewing Group yn dyblu cyfanswm y rhodd, gan addo cyfrannu’r un swm â gwerth y cerdyn hyd at gyfanswm cyfunol o £1m. Mae ugain tafarn yng Nghymru wedi cofrestru ar gyfer y cynllun hyd yn hyn, ac mae croeso i ragor ymuno.

Dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig Llywodraeth Cymru, Lesley Griffiths:

“Mae hon yn enghraifft wych o sut mae cwmnïau mawr a bach yn cydweithio er lles eu cymunedau lleol yn y cyfnod heriol a phryderus hwn. Mae’n wych gweld sut mae ein cwmnïau bwyd a diod ledled Cymru yn darparu nwyddau hanfodol ar gyfer gweithwyr allweddol sydd angen y gefnogaeth.”

Mae Bragdy Magwyr yn un o dri bragdy Budweiser Brewing Group yn y DU, mae’n defnyddio’r cynhwysion naturiol gorau, ac yn cynnig brandiau cwrw a seidr premiwm, gan gynnwys y brandiau byd-eang Budweiser, Corona a Stella Artois; y brandiau rhyngwladol Bud Light, Beck’s, Leffe a Hoegaarden; a’r ffefrynnau lleol Bass a Boddingtons.

 

 

 

 

 

 

Share this page

Print this page