Mae Pythefnos Bwyd Cymru eleni wedi cynnig cyfle lansio rhithwir ar gyfer busnesau bwyd a diod yng Nghymru wrth iddyn nhw obeithio am fwy o fasnach byd-eang yn 2021.

Mae Pythefnos Bwyd Cymru yn rhan o Wythnos Cymru Fyd-eang, arddangosfa flynyddol o weithgareddau a digwyddiadau sy'n dathlu ac yn hyrwyddo popeth sy'n wych am Gymru ar lwyfan rhyngwladol.

Mae'r ŵyl fel arfer yn cael ei chynnal ar draws 20 o wledydd, ond oherwydd cyfyngiadau Coronafeirws, roedd yn golygu ffocws mwy rhithwir i weithgareddau eleni, pan gynhaliwyd cyfres o arddangosiadau coginio, sgyrsiau a chystadlaethau wrth i'r gorau o fwyd a diod Cymru gael ei arddangos i gynulleidfa fyd-eang rhwng 20 Chwefror a 7 Mawrth 2021.

Wrth sôn am yr ystod eang o ddigwyddiadau sy'n digwydd er gwaethaf yr amgylchiadau anodd, dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog Llywodraeth Cymru dros yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig:

"Mae'n bwysicach nag erioed ein bod ni’n parhau i gefnogi busnesau bwyd a diod Cymru gan fod llawer wedi wynebu heriau aruthrol o anodd dros y flwyddyn ddiwethaf.

"Rwy'n falch iawn o weld ystod mor eang o wahanol weithgareddau yn cael eu cynnal i hyrwyddo ein diwydiant ffyniannus i gynulleidfa ryngwladol. Mae gennym ni draddodiad hir a balch o gynhyrchu bwyd a diod rhagorol, gyda digonedd o adnoddau naturiol a chynhwysion bwyd, a ffocws ar y cyd ar ddatblygu technolegau newydd ac arloesedd wrth gynhyrchu bwyd."

Sefydlwyd digwyddiadau Pythefnos Bwyd Cymru, o dan arweiniad Cynnyrch o Gymru, ym mis Mai 2020 oherwydd bod y diwydiant digwyddiadau wedi cau o ganlyniad i’r pandemig. Cafodd yr holl ddigwyddiadau a gweithgareddau eu cynnal a'u ffrydio'n fyw ar lwyfan ar-lein Cynnyrch o Gymru, gan gynnwys llwyfan byw gyda hyd at 100,000 o wylwyr ynghyd â ffrydio byw i dudalen Facebook Cynnyrch o Gymru a Pythefnos Bwyd Cymru; sesiynau byw a sesiynau wedi'u recordio gan gynnwys arddangosiadau, sgyrsiau a theithiau byw.

Ymhlith y gwledydd a gyrhaeddwyd roedd y DU, UDA, yr Emiraethau Arabaidd Unedig, India, yr Eidal, Portiwgal, Ynysoedd y Philipinos, Iwerddon, yr Almaen, Algeria, Sbaen, Canada, Awstralia, Hwngari, Japan a Seland Newydd.

Wrth sôn am lwyddiant y digwyddiad rhithwir 16 diwrnod, dywedodd y trefnydd Davina Carey-Evans o Cynnyrch o Gymru,

"Fel Partner Wythnos Cymru Fyd-eang, cydlynodd Cynnyrch o Gymru weithgareddau gartref a thramor ar gyfer y dathliadau eleni – 16 diwrnod rhithwir lle mae Cymru'n cwrdd â'r byd a phan fydd y byd yn dathlu Cymru.

"Roedd yn rhoi llwyfan i sefydliadau yng Nghymru i hyrwyddo eu cynnyrch a'u gwasanaethau a datblygu cynulleidfaoedd, partneriaethau a chysylltiadau rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol newydd."

Mae Aber Falls yn fusnes sydd wedi cefnogi pob digwyddiad. Wrth siarad ar ran Aber Falls, dywedodd y Rheolwr Gyfarwyddwr James Wright,

"Mae digwyddiadau rhithwir yn newydd i ni i gyd, mae'n rhaid i ni i gyd ddysgu masnachu heb deithio. Yn Nistyllfa Aber Falls rydym ni’n canolbwyntio ar un cynnyrch, yn rhoi arddangosiad naill ai'n fyw neu'n cyflenwi fideo o sut y gellir ei ddefnyddio ac yn rhoi cynnig arbennig i annog gwerthiant. Mae bythau Cynnyrch o Gymru yn hawdd i'w defnyddio ac rydym ni’n gwerthfawrogi'r ymdrechion maen nhw’n eu gwneud i baru prynwyr â chynhyrchwyr."

Roedd partneriaid a noddwyr y dathliad eleni yn cynnwys Cynnyrch o Gymru, Bwyd a Diod Cymru, Cywain, Menter a Busnes, Hybu Cig Cymru, Village Bakery, clystyrau Bwyd a Diod Cymru – y clwstwr Bwyd Da, y clwstwr Bwyd Môr a’r clwstwr Mêl, Porth i’r Plât a Byd Dewi Sant.

Daw’r gweithgaredd yn dynn ar sodlau lansio gweledigaeth strategol i'r diwydiant ddod yn geffyl blaen wrth gynhyrchu bwyd a diod cynaliadwy.

Gan weithio'n agos gyda'r diwydiant, gweledigaeth Llywodraeth Cymru yw ceisio gosod arferion cynaliadwy wrth wraidd adferiad y diwydiant ar ôl Covid. Gan ganolbwyntio ar feysydd fel twf a chynhyrchiant, effaith amgylcheddol, gwaith teg a chodi safonau drwyddi draw, drwy gydweithio, y gobaith yw y gall y llywodraeth a'r diwydiant greu un o'r cadwyni cyflenwi mwyaf cyfrifol yn amgylcheddol ac yn gymdeithasol yn y byd.

Daw'r cyhoeddiad yn dilyn gwaith paratoi helaeth sydd wedi bod yn mynd rhagddo yn ystod y blynyddoedd diwethaf i adeiladu'r sylfeini ar gyfer y weledigaeth strategol ‘egin gwyrdd' sy'n deillio o'r tarfu a achoswyd gan Brexit a Covid-19.

Share this page

Print this page