Mae arolwg diweddar wedi datgelu bod busnesau Cymreig yn y sector bwyd a diod yn perfformio’n well na’r cyfartaleddau cenedlaethol a byd-eang o ran boddhad gweithwyr.

Comisiynodd a chynhaliodd Rhaglen Mewnwelediad Bwyd a Diod Llywodraeth Cymru, mewn partneriaeth â Sgiliau Bwyd a Diod Cymru, arolwg a oedd yn ymchwilio i wahanol feysydd yn y gweithle gan gynnwys boddhad swydd, llesiant, diwylliant sefydliadol, adborth rheolwyr, cyfleusterau, hyfforddiant ac ymgysylltu â gweithwyr.

Roedd canfyddiadau’r arolwg yn hynod gadarnhaol, gan gynnwys busnesau Cymru yn cyflawni sgôr ymgysylltu o 73%, gan ragori ar gyfartaledd y diwydiant o 71%. At ddiben yr ymchwil, mae ymgysylltu’n cael ei ddiffinio fel cyfranogiad a brwdfrydedd gweithwyr yn eu gwaith, gyda gweithwyr sy'n ymgysylltu ac yn hapus yn fwy cynhyrchiol a phroffidiol.

Yn ogystal, roedd 81% o’r ymatebwyr yn cytuno bod byw yng Nghymru yn gwella ansawdd eu bywyd a’u cydbwysedd bywyd a gwaith, gyda rhwyddineb cael mynediad at natur y tu allan i oriau gwaith yn sgorio’n uchel fel un o’r ffactorau ar gyfer hyn.

I Huw Irranca-Davies AS, sydd newydd ei benodi’n Ysgrifennydd y Cabinet Llywodraeth Cymru dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, mae canfyddiadau’r arolwg yn galonogol iawn ac yn dangos bod Cymru’n lleoliad deniadol ar gyfer busnesau bwyd a diod.

Meddai, “Rydyn ni wrth ein bodd gyda chanlyniadau’r arolwg, sy’n dangos bod busnesau bwyd a diod Cymru yn arwain y ffordd o ran boddhad gweithwyr.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i fentrau sy’n hybu’r sector bwyd a diod ac yn cyfrannu at les gweithwyr. Mae’r mewnwelediadau o’r arolwg hwn yn allweddol i feithrin meysydd gwelliant parhaus a datblygu sgiliau.”

Mae prosiect Sgiliau Bwyd a Diod Cymru wedi bod yn bartner allweddol yn y gwaith, wrth gynllunio’r prosiect, a’r bwriad i ddefnyddio’r canfyddiadau i helpu i wella datblygiad sgiliau o fewn y diwydiant bwyd.

Dywedodd Nerys Davies o Sgiliau Bwyd a Diod Cymru, “Rydyn ni wrth ein bodd gyda chanlyniadau’r arolwg, sy’n dangos bod busnesau bwyd a diod Cymru yn arwain y ffordd o ran boddhad gweithwyr.

“Fodd bynnag, er bod y canlyniadau’n hynod gadarnhaol, maen nhw hefyd yn arf amhrisiadwy i’n helpu i nodi meysydd allweddol i’w gwella a bylchau yn y ddarpariaeth sgiliau. Mae rhaglen Sgiliau Bwyd a Diod Cymru yn edrych ymlaen at weithio gyda busnesau a phartneriaid i gefnogi’r diwydiant i ddod yn lle gwell fyth i weithio.”

Wrth esbonio pam y gwnaethon nhw gymryd rhan yn yr arolwg, dywedodd Osian Deiniol o Blas ar Fwyd yn Llanrwst, “Roedden ni’n awyddus i gymryd rhan yn yr arolwg hwn, gan ein bod yn credu bod boddhad gweithwyr yn chwarae rhan bwysig mewn llwyddiant busnes.

“Mae’n wych gweld bod y diwydiant yng Nghymru ar y trywydd iawn, ond yr un mor bwysig yw’r ffaith bod yr arolwg hefyd yn rhoi mewnwelediad gwerthfawr i ni ar sut y gallwn barhau i wella a datblygu fel cyflogwr da. Edrychwn ymlaen at weithio gyda Sgiliau Bwyd a Diod Cymru ar y meysydd hyn dros y misoedd nesaf.”

Yn y cyfamser, wrth fyfyrio ar y canfyddiadau dywedodd Doreen Donovan o WorkL, a gynhaliodd yr arolwg, “Dangosodd ein cyfweliadau â’r busnesau fod pobl sy’n dewis gyrfa ym maes bwyd a diod o Gymru, ar y cyfan, yn fodlon iawn â’u gwaith, gyda’r sgoriau’n rhagori ar gyfartaleddau byd-eang.

“Roedd y sgôr ymgysylltu’n arbennig o gadarnhaol, sy’n newyddion da iawn i fusnesau gan fod ymchwil yn dangos yn gyson bod cwmnïau â gweithwyr sy’n ymgysylltu mwy yn nodweddiadol yn fwy llwyddiannus a phroffidiol.”

I gael rhagor o wybodaeth am brosiect Sgiliau Bwyd a Diod Cymru, ewch i https://menterabusnes.cymru/sgiliau-bwyd-a-diod-cymru/

Share this page

Print this page