Bu dirprwyaeth o gwmnïau o Gymru yn ymweld â Japan yn ddiweddar, wrth i’r diwydiant barhau i dargedu agor marchnadoedd newydd ar gyfer ei gynnyrch bwyd a diod.
Foodex Japan yw arddangosfa fwyd a diod fwyaf Asia, gyda Llywodraeth Cymru yn cefnogi presenoldeb nifer o gynhyrchwyr o dan faner Cymru/Wales.
Mae’r ymweliad yn rhan o ddigwyddiadau ehangach sy’n cael eu cynnal fel rhan o ‘Cymru a Japan 2025’, sef ymgyrch blwyddyn o hyd gan Lywodraeth Cymru i ysgogi partneriaethau economaidd a diwylliannol newydd rhwng y ddwy wlad, gyda’r nod o ddod â manteision hirdymor i’r ddwy wlad.
Mae gan Gymru gysylltiadau economaidd hirsefydlog â Japan, yn enwedig oherwydd mewnfuddsoddiad gan gwmnïau o Japan i Gymru ers y 1970au, ac mae’n gartref i 70 o gwmnïau o Japan ar hyn o bryd.
Roedd y ddirprwyaeth o Gymru yn Foodex yn cynnwys stamp eki pwrpasol ar eu stondin arddangos. Stampiau inc rwber casgladwy a geir mewn llawer o orsafoedd trên yn Japan yw stampiau eki, ac maent yn fath o gofrodd sydd â chynlluniau sy'n cynnwys tirnodau, masgotiaid, neu nwyddau lleol. Fel rhan o ddathliadau ‘Cymru a Japan 2025’, mae’r darlunydd Cymreig Jonathan Edwards wedi creu cyfres o bum cynllun unigryw sy’n dathlu diwylliant y ddwy genedl.
Ymhlith yr arddangoswyr Cymreig yn Foodex Japan roedd Hybu Cig Cymru (HCC), Aber Falls, Café de Manha, The Lobster Pot a Morning Foods.
Cynhaliodd HCC hefyd ddigwyddiad ‘Dathlu Cig Oen Cymru’ ar y cyd â Llywodraeth Cymru mewn bwyty yn Tokyo, sy’n arbenigo mewn cig oen. Mae’r cogydd Kazuhiro Kikuchi yn hyrwyddwr cig oen adnabyddus, ar ôl cyhoeddi Tokyo Lamb Story, a chyflwyno bwrdd cogydd o gig oen Cymreig i brynwyr a darpar gwsmeriaid.
Mae’r ffigurau diweddaraf ar allforion bwyd a diod o Gymru yn dangos bod eu gwerth wedi codi £243m – neu 43% – ers 2019. Roedd allforion bwyd a diod o Gymru i wledydd y tu allan i’r UE werth £202m yn 2023, sy’n gynnydd o £63m ers 2019, gyda gwerth nwyddau a allforiwyd i Asia ac Ynysoedd y De yn ystod 2023 yn £46m, sy’n gynnydd ers £34m yn 2019.
Dywedodd Dirprwy Brif Weinidog Llywodraeth Cymru sydd â chyfrifoldeb dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies,
“Mae Foodex Japan bob amser yn ddigwyddiad pwysig i gwmnïau bwyd a diod o Gymru, wrth i ni barhau â’n hymgyrch i agor marchnadoedd newydd a dangos yr hyn y gallwn ei gynnig ar raddfa fyd-eang.
“Mae’n arbennig o bwysig eleni wrth i ni ddathlu’r cysylltiadau diwylliannol ac economaidd cyfoethog rhwng Cymru a Japan. Mae’n gyfle i ddatblygu a chryfhau ein perthnasoedd, ac rwy’n siŵr y bydd y cwmnïau sy’n chwifio’r faner dros Gymru yn gallu adeiladu partneriaethau newydd ac ystyrlon sydd o fudd i’r ddwy wlad.”
Yn ddigwyddiad pedwar diwrnod a gynhelir yn Tokyo Big Sight, mae Foodex Japan yn croesawu dros 2,500 o gwmnïau bwyd a diod o fwy na 60 o wledydd a rhanbarthau. Mae’n ganolbwynt i brynwyr bwyd a diod o bob rhan o Asia, yn ogystal â Japan, ac mae’n rhoi cyfle allweddol i hyrwyddo ac adeiladu ar enw da bwyd a diod o Gymru a chysylltu â chwsmeriaid newydd ar draws y rhanbarth.
Un o'r cwmnïau yn y ddirprwyaeth yw'r cynhyrchydd wisgi, Aber Falls. Wrth siarad am yr ymweliad, dywedodd y Rheolwr Gyfarwyddwr Edward Williamson,
“Rydyn ni’n awyddus i dyfu ein hallforion ac yn ddiolchgar iawn am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i allu mynychu digwyddiadau fel y rhain.
“Yn fwyfwy, mae gan wisgi o Gymru stori wych i'w hadrodd, gyda nifer o ddistyllfeydd, gan gynnwys ein un ni, yn sicrhau statws PGI (Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig) clodwiw. Mae hyn yn dangos pa mor unigryw yw ein cynnyrch, gyda blas na ellir ei ailadrodd yn unman arall yn y byd. Mae’r cyfle i godi ymwybyddiaeth o’r stori hon mewn marchnad wisgi mor bwysig â Japan, ac Asia yn fwy cyffredinol, yn wych, ac rydyn ni’n bwriadu gwneud y gorau ohono.
Cwmni arall sy’n awyddus i ehangu eu harlwy dramor yw The Lobster Pot o Ynys Môn. Gyda hanes o gyflenwi cimychiaid Cymreig sy’n cael eu dal mewn potiau yn dyddio'n ôl i 1946, mae'r cwmni'n obeithiol y bydd y daith yn helpu i agor marchnadoedd newydd. Dywedodd Julie Hill o The Lobster Pot,
“Mae digwyddiadau fel Foodex yn rhoi cyfle i ni ddangos yr hyn sydd gan gynnyrch Cymreig i’w gynnig i’r byd.
“Rydyn ni’n gallu rhoi cynnyrch gwych i’n cwsmeriaid, sef pysgod cregyn o safon, o ffynonellau cynaliadwy. Fel allforwyr profiadol i Japan, rydyn ni’n obeithiol y bydd yr ymweliad yn helpu i adeiladu ar ein perthnasoedd presennol, yn ogystal ag agor cyfleoedd newydd yn y wlad, a gweddill Asia.”
I gael rhagor o wybodaeth am sut y gall Llywodraeth Cymru helpu eich busnes i gyrraedd marchnadoedd newydd drwy ddigwyddiadau masnach, ewch i https://businesswales.gov.wales/foodanddrink/cy/tyfu-eich-busnes/digwyddiadau-masnach
I gael rhagor o wybodaeth am sut y gall Llywodraeth Cymru gynorthwyo eich busnes gydag allforio, ewch i https://busnescymru.llyw.cymru/allforio/