Gallai criciaid a chwilod gael eu gweini ar ein platiau yn amlach, diolch i ymchwil academaidd newydd.

Mae pryfed yn rhan gyffredin o ddietau bob dydd pobl mewn gwledydd ar draws y byd, megis Mecsico, Ghana a Tsiena.

Mae bwydydd o bryfed yn cynnig ffynhonnell protein fwy amgycheddol-gyfeillgar na llawer o fwydydd eraill, a gallent gynorthwyo bwydo poblogaeth gynyddol y byd.

Ar ran Cymru, mae Prifysgol Aberystwyth yn cyfrannu at brosiect rhyngwladol, ‘ValuSect’, sy’n anelu at wella cynhyrchu a thechnegau prosesu pryfed yn gynaliadwy.

Mae ValuSect, sy’n golygu ‘Pryfed Gwerthfawr’, yn gonsortiwm a gydlynwyd gan Brifysgol Thomas More yng Ngwlad Belg a gefnogir gan grant €2,08m o raglen INTERREG Gogledd-Orllewin Ewrop.

Mae gwledydd megis yr Iseldiroedd a Gwlad Belg ar y blaen i eraill yn Ewrop pan ddaw hi at gynhyrchu a phrosesu pryfed. Caiff canfyddiadau ymchwil eu rhannu gyda busnesau bwyd ac amaeth ar draws gogledd Ewrop.

Fel rhan o’r prosiect, gall busnesau Cymru sydd â diddordeb mewn cynhyrchu a phrosesu pryfed ar gyfer bwyd geisio am gymorth gwerth hyd at €40,000 mewn gwasanaethu. Mae ceisiadau yn cau ar ddiwedd y mis hwn.

Mae Prifysgol Aberystwyth a BIC Innovation, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, yn cydweithio gyda phartneriaid o 6 gwlad arall yn rhanbarth Gogledd-Orllewin Ewrop.

Wrth sôn am y prosiect, dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: “Mae’n newyddion ardderchog bod Cymru yn chwarae ei rhan yn y prosiect ymchwil ac arloesi hwn. Mae ein partneriaid Cymreig yn dod â rhagoriaeth academaidd mewn amaethyddiaeth gynaliadwy ac arbenigedd masnacheiddio er mwyn sicrhau bod ein cadwyn cyflenwi bwyd-amaeth yn cymryd rhan lawn yn y maes pwysig hwn. Un o nodau syflaenol Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yw ‘Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang’ ac mae amcanion y prosiect hwn yn cyd-fynd yn llwyr gyda’r nod hwnnw. Yn yr un modd, mae’r ffaith bod Cymru yn cymryd rhan yn tanlinellu ein hymrwymiad at berthnasau rhyngwladol a chydweithio wrth i ni, yn sicr, barhau ar agor i fusnes, er gwaethaf yr heriau presennol.”

Ychwanegodd Yr Athro Alison Kingston-Smith, o Athrofa y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth:

Gyda phoblogaeth sy’n cynyddu, mae angen rhagor o ffynonellau bwyd cynaliadwy ar y byd. Gallai pryfed fod yn un o’r rheina. Mae’r prosiect hwn yn cynnig cyfle arbennig i amaethyddiaeth a’r sector bwyd yng Nghymru i arallgyfeirio i mewn i farchnadoedd newydd. Mae’r talebau, gwerth degau o filoedd o Euros mewn cymorth, yn agored i fentrau a gweithredwyr o’r gadwyn gyflenwi gyfan.

“Mae’r ymchwil hwn yn gweddu’n dda gyda Chanolfan Bwyd y Dyfodol y Brifysgol ar ein Campws Arloesi. Does dim amheuaeth bod protein pryfed yn derbyn sylw cynyddol yn y sector bwyd, a bydd ein hymchwilyr yn rhan o’r datblygiadau cyffrous hynny.”

Dengys ymchwil fod tua 30% o gwsmeriaid yr UE yn fodlon bwyta bwyd a wnaed o bryfed. Mae ValuSect yn anelu at gynyddu’r nifer hwn drwy wella ansawdd cynhyrchu a phrosesu pryfed, cynnal profion blasu cwsmeriaid, a lleihau ei effaith amgylcheddol. Canolbwyntia’r ymchwil ar allyriadau nwyon tŷ gwydr, yr effaith ar swbstradau, diogelwch bwyd ac ar oes silff ein cynnyrch bwyd sy’n dod o bryfed.

Bydd y prosiect yn defnyddio rhywogaethau sydd wedi gwneud chais am ganiatâd yn unol â rheoliad bwyd newydd yr UE eisoes.

Dywedodd Linda Grant, Cyfarwyddwr Prosiectau Bwyd yn BIC Innovation: Rydyn ni wrth ein boddau cael bod yn rhan yn y prosiect hwn. Rydyn ni’n gweitho gyda busnesau bach a chanolig sy’n ymwneud ag ymchwil a datblygu ar draws nifer o sectorau, ac mae amaethyddiaeth gynaliadwy yn elfen allweddol o’r gwaith hwn. Er mai marchnad arbenigol yw cynnyrch bwyd o bryfed o hyd, mae nifer cynyddol yn derbyn y bydd yn rhan o ddeietau cynaliadwy y dyfodol ac sy’n gallu bwydo poblogaeth gynyddol y byd wrth i adnoddau amaethyddol brinhau. Bydd y prosiect yn cynorthwyo busnesau bach a chanolig Cymru gydweithio gydag arbenigwyr arweiniol ledled Gogledd-Orllewin Ewrop, ac arloesi a masnacheiddio nwyddau newydd gan sicrhau mynediad at y farchnad newydd hon.

Dr Geoffrey Knott, a astudiodd ym Mhrifysgol Aberystwyth, yw Rheolwr Gyfarwyddwr a Chyd-sylfaenydd HOP, busnes sy’n cynhyrchu byrbrydau protein criciciaid. Ychwanegodd:

”Cenhedaeth HOP yw rhoi i unigolion rhagor o reolaeth dros ei iechyd a lles tymor hir, a hynny drwy’r bwydydd maen nhw’n eu bwyta. Ar hyn o bryd, mae HOP yn gwerthu cynnyrch maeth chwaraeon a wnaed o griciaid. Rydyn ni’n defnyddio criciaid gan eu bod yn darparu protein o ansawdd well na phlanhigion ac yn cael eu ffermio’n fwy cynaliadwy a moesegol na ffynonellau anifeiliaid traddodiadol. Lansiwn ni ein bar protein criciciaid ar ddiwedd 2019 ac mae wedi derbyn ymateb cadarnhaol ymysg pobl chwaraeon anturus ac eco-gyfeillgar.

Rydw i wedi dechrau cwmni arall o’r enw edibl sy’n adeiladu ffermydd pryfed bwytadwy er mwyn darparu bwyd sydd wedi ei ffermio’n foesegol sy’n lleol, ansawdd uchel a chynaladiwy. Rydyn ni’n defnyddio pryfed i drosi bwyd gwastraff lleol i mewn i faetholion gwerthfawr, gan gychwyn gyda pheilot ym Mharth 2 yn Llundain.

 

 

Share this page

Print this page