Mae cydweithio a chymorth sy'n rhoi hwb i forâl yn helpu cwmnïau bwyd a diod yng Nghymru i oresgyn sialensiau Covid-19 ac i gynnal eu ffyrdd llwyddiannus.

Er gwaethaf chwe mis cythryblus, mae llu o gynhyrchwyr yng Nghymru wedi profi rhagoriaeth eu cynhyrchion gyda 'galaeth' o sêr yng ngwobrau Great Taste.

Mae Bwyd a Diod Cymru a'i menter Clystyrau wedi bod yn cynorthwyo nifer o'r enillwyr, ac mae hyn yn meithrin cysylltiadau rhwng busnesau yn y sector.

Hwylusir Clwstwr Bwyd Da Cymru a'r Clwstwr Bwyd Môr gan brosiect Cywain.  Darperir prosiect Cywain gan Menter a Busnes ac mae'n cynorthwyo datblygiad busnesau sy'n tyfu yn y sector bwyd a diod yng Nghymru.

Yn fuan ar ôl i'r pandemig gychwyn, lansiodd Cywain ymgyrch  #CefnogiLleolCefnogiCymru.  Mae map ar-lein yn cyd-fynd â hwn (https://menterabusnes.cymru/cywain/en/our-producers/) sy'n cyfeirio at gynhyrchwyr bwyd a diod ar draws Cymru sy'n gallu cynnig gwasanaeth dosbarthu a siop ar-lein.

Dywedodd Arweinydd Tîm y Clystyrau, Sioned Best, “Rydym yn cydnabod pa mor anodd y bu pethau dros y misoedd diwethaf, a thrwy gyfrwng y rhaglen glystyru, rydym wedi bod yn cynorthwyo ein cleientiaid mewn amrywiaeth o ffyrdd.

“Byddwn yn parhau i'w helpu i leddfu'r sialensiau newydd sy'n codi oherwydd Covid-19 ac yn eu hannog a'u cynorthwyo wrth iddynt sefydlu a thyfu eu mentrau.

“Mae eu llwyddiant yng ngwobrau Great Taste yn dangos gallu a chadernid busnesau Cymreig sy'n parhau i ddatblygu a chynhyrchu bwyd a diod rhagorol er gwaethaf amgylchiadau eithriadol.”

Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, “Rydw i'n llongyfarch holl enillwyr Great Taste ar eu llwyddiant, yn ystod blwyddyn nas gwelwyd ei thebyg o'r blaen.

“Mae eu cyflawniadau yn adlewyrchu eu talent ac ansawdd cynnyrch Cymreig.  Mae'r gwobrau hyn hefyd yn tanlinellu pwysigrwydd y rhwydwaith cymorth sydd ar gael i gynhyrchwyr bwyd a diod ar draws Cymru, wrth i ni barhau i fyw a gweithio yn ystod y cyfnod mwyaf heriol.”

ASTUDIAETHAU ACHOS

Gwelwyd y cynhyrchwyr Cymreig canlynol yn profi llwyddiant yng ngwobrau Great Taste 2020.

MÔN DRESSED CRAB

Sefydlwyd y busnes teuluol bach hwn bum mlynedd yn ôl pan ddechreuodd Tracey Hodson goginio ychydig grancod a ddaliwyd yn lleol ar gyfer ffrindiau a theulu ar Ynys Môn.

Cyn hir, roedd bwytai a mannau bwyta lleol yn mynegi diddordeb, a sefydlwyd Môn Dressed Crab.

Esboniodd Tracey, “Mae gennym uned brosesu fach ym Mhorth Swtan a byddaf yn prynu'r crancod gan y pysgotwyr sy'n pysgota o'r fan hon.

“Nid oeddwn i erioed wedi cystadlu ar gyfer unrhyw wobrau o'r blaen, ond cefais anogaeth gan Siân Davies o'r Clwstwr Bwyd Môr i roi cynnig arni.  Mae hi bob amser wedi bod yn help mawr, felly dilynais ei chyngor – a llwyddom i ennill gwobr dwy seren aur Great Taste!”

Mae Môn Dressed Crab wedi gorfod wynebu newidiadau oherwydd dyfodiad pandemig y coronafeirws a'r cyfyngiadau dilynol, ond mae hyn wedi denu cwsmeriaid newydd hefyd.

“Pan ddaeth y cyfnod clo, daeth ein masnach gyda'r bwytai i ben, felly meddyliais bod yn well i mi wneud rhywbeth.  Felly dechreuais ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol i gyrraedd y cyhoedd, ac rydym wedi bod yn hynod brysur gyda'r dosbarthu.

“Wrth i fwytai ddechrau ailagor, ni allem barhau i ddosbarthu i gartrefi, ond roeddem yn dymuno cadw ein cwsmeriaid newydd, felly maen nhw’n casglu gennym ni erbyn hyn.

“Yn ôl ym mis Mawrth, nid oeddwn yn gwybod a fyddem yn gallu parhau, ond mae gennym gwsmeriaid newydd a gwobr nad oeddem yn disgwyl ei hennill!”

Rhagor o wybodaeth:  Trydar:  Mondressedcrab

CWMNI COFFI DWYFOR

Ar ôl treulio blynyddoedd yn byw ac yn gweithio mewn gwledydd tramor, roedd Michael Squire wedi cael cyflwyniad i fyd amrywiol coffi, yn ystod cyfnod pan oedd rhan fwyaf y coffi a yfwyd yn y DU yn cappuccinos ewynnog.

Ar ôl i'w deithiau ehangu ei chwaeth – ac ar ôl cael cyngor ffrind sy'n cymysgu coffi – dechreuodd Michael rostio coffi yn ei sied yn yr ardd ym Mhen Llŷn.

Ddeunaw mlynedd yn ddiweddarach, mae Cwmni Coffi Dwyfor yn cyflogi naw aelod o staff yn ei bencadlys rhostio yn Nefyn ac mae newydd brofi llwyddiant am y tro cyntaf yng Ngwobrau Great Taste, ar ôl sicrhau dwy seren am ei Gymysgedd Espreso Brasilaidd.

Bu uchafbwyntiau ac isafbwyntiau dros y chwe mis diwethaf, ond ar ôl yr 'ergyd' gychwynnol ar ddechrau'r pandemig – mae'r gwerthiant – yn enwedig dros y we – wedi cynyddu'n sylweddol.

Dywedodd Michael, “Gan weithio'n uniongyrchol gyda mewnfudwyr a phlanwyr coffi, rydym wedi cyflwyno sypiau bach o goffi byd, ac mae'r rhain wedi bod yn gwerthu'n eithriadol o dda dros y tri mis diwethaf.  Mae arferion pobl wedi newid;  maent yn fwy detholgar ac yn dymuno rhoi cynnig ar wahanol fathau o goffi.”

Mae Michael o'r farn bod cryn fanteision o fod yn aelod o'r Clwstwr Bwyd Da – o rwydweithio a chydweithio gyda chynhyrchwyr eraill mewn mentrau dosbarthu i'r cartref, i ledaenu'r gair am gyfoeth y bwyd a'r diod sydd gan Gymru i'w gynnig.

Dywedodd, “Mae'r Clwstwr wedi bod yn ddefnyddiol iawn.  Mae wedi ein rhoi mewn cysylltiad gyda chyd gynhyrchwyr, ac rydym wedi llwyddo i helpu ein gilydd.  Ceir mwy o ymwybyddiaeth o gynhyrchion Cymreig hefyd, ac mae cael gwobrau fel Great Taste yn pwysleisio ansawdd bwyd a diod o Gymru.”

Rhagor o wybodaeth:  www.dwyfor.com

TERRY’S PATISSERIE LTD

Mae Terry’s Patisserie Ltd yn fusnes teuluol ac mae'n dathlu ennill gwobrau Great Taste am y seithfed blwyddyn o'r bron.

Sefydlodd Terry Williams ei busnes yng nghegin ei chartref yng Nghaerffili yn 2011 a bellach, mae'r cwmni yn cyflenwi ei bwdinau I gwsmeriaid ym mhen ucha'r farchnad yn y diwydiant lletygarwch ar draws y DU.

Fodd bynnag, bu'n rhaid i'r busnes – sy'n cyflogi tîm o gogyddion teisennau crwst yn ei uned gynhyrchu yn Aberbargoed – ailystyried rhan o'i fodel busnes o ganlyniad i'r digwyddiadau a welwyd dros y chwe mis diwethaf.

“Cwblhaom ein prosiect ehangu ym mis Mawrth, gan fynd o safle 800 troedfedd sgwâr i safle 4,500 troedfedd sgwâr.  Ond efallai nad hwn oedd yr amseru gorau,” dywedodd Rhys Williams, Cyfarwyddwr Datblygu Busnes y cwmni, a mab Terry.

“Fodd bynnag, rydym wedi addasu ein gweithrediad a byddwn yn lansio cyfleuster clicio a chasglu newydd gan ddefnyddio cwsmeriaid, caffis a siopau te yn bennaf, fel 'canolfannau stryd fawr'.

“Mae'r rhain yn safleoedd yr ydym yn cyflenwi iddynt yn barod, ond hyd yma, nid yw ein pwdinau wedi cynnwys ein brand ac ni fuont ar gael i'r cyhoedd yn uniongyrchol.  Bellach, bydd pobl yn gweld enw Terry’s Patisserie a bydd ennill dwy wobr Great Taste arall yn dangos ansawdd uchel ein cynhyrchion i ddefnyddwyr.”

Mae Terry’s Patisserie yn aelod o'r Clwstwr Bwyd Da ac mae wedi cael amrywiaeth o gyngor ymarferol, yn ogystal â chymorth sydd wedi rhoi hwb i'w forâl yn ystod 2020 gythryblus.

“Yn benodol, mae'r Clwstwr wedi ein helpu i gadw mewn cysylltiad ac mae wedi ein cysylltu gyda chwmnïau eraill sydd mewn sefyllfa debyg.  Mae'n galonogol gwybod nad chi yw'r unig un mewn sefyllfa o'r fath, ac mae cael eu cymorth nhw wedi bod yn help aruthrol.”

Rhagor o wybodaeth:  www.terryspatisserie.co.uk

 

 

Share this page

Print this page