Mae planhigyn a symbol cenedlaethol Cymru, y Genhinen Gymreig, bellach wedi'i gwarchod yn swyddogol wrth iddo ennill statws PGI (Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig) y DU.
Hwn yw'r trydydd cynnyrch Cymreig newydd i gael statws GI y DU, gan ddilyn Cig Oen Morfa Heli Gŵyr a Chig Oen Mynyddoedd Cambria.
Mae Cennin Cymreig hefyd yn dod yn 19eg aelod o deulu cynnyrch GI Cymru, gan ymuno â chynnyrch mawr eraill fel Halen Môr Môn, Cig Oen Cymreig, Cig Eidion Cymru a Pembrokeshire Earlies. Mae pob aelod o'r teulu yn Gymreig i'r carn ac wedi'u cysylltu'n uniongyrchol â'r tirweddau a'r morluniau sy'n eu meithrin.
Sefydlwyd cynllun GI y DU ar ddechrau 2021, yn dilyn ymadawiad y DU â'r UE, ac mae'n sicrhau bod rhai cynhyrchion bwyd a diod yn parhau i gael eu gwarchod yn gyfreithiol rhag cael eu dynwared a’u camddefnyddio.
O hyn ymlaen, bydd Cennin Cymru, sy’n cael eu gwerthu â logo GI y DU, yn hyrwyddo treftadaeth a diwylliant Cymru ac yn rhoi ardystiad o ansawdd ac unigrywedd i'r cynnyrch ac i ddefnyddwyr
Cafodd y cais am statws PGI i Gennin Cymreig ei arwain gan Puffin Produce o Sir Benfro, sydd eisoes â PGI Pembrokeshire Earlies.
Dywedodd Huw Thomas, Prif Swyddog Gweithredol, Puffin Produce:
"Mae'r genhinen yn emblem eiconig o Gymru - rydym yn hynod falch o allu tyfu Cennin Cymreig ac mae statws y GI yn hynod bwysig i hyrwyddo'r ansawdd a'r dreftadaeth y tu ôl i'r cnwd mawreddog hwn"
Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig Lesley Griffiths:
"Mae hyn yn newyddion gwych heddiw ac rwy'n llongyfarch pawb fu'n rhan o'r gwaith o ennill y wobr fawreddog hon i Gennin Cymru. Mae cennin yn symbol hanesyddol o Gymru, yn adnabyddus ledled y byd, ac rwy'n falch iawn o weld y cynnyrch yma'n ennill y gydnabyddiaeth a'r bri y mae'n ei haeddu."
Caiff Cennin Cymru eu tyfu a'u cynaeafu yng Nghymru ac maent yn gynnyrch sawl math hybrid, yn hytrach nag un amrywiaeth penodol.
Y mathau hybrid sy'n cael eu defnyddio i gynhyrchu 'Cennin Cymreig' yw'r rhai sy'n fwyaf addas ar gyfer amodau tyfu Cymru. Maent yn cynhyrchu cynnyrch terfynol sydd â'i nodweddion penodol ei hun, megis y prif ddail gwyrdd tywyll sy'n dros 40% o hyd y genhinen.
Mae 'Cennin Cymru' fel arfer yn cael eu plannu o ddiwedd Chwefror hyd at fis Mai ac yn cael eu cynaeafu o fis Awst tan Ebrill/Mai, gyda rhai cnydau'n aros yn y ddaear am hyd at 12 mis. Gellir gadael y cennin yn y ddaear heb effeithio ar eu hansawdd, gan arwain at aeddfedu arafach a rhoi mwy o amser i'r blas pupur a'r arogl menyn ddatblygu'n llawn.