Bydd Cymru’n croesawu chefs gorau’r byd y flwyddyn nesaf wrth gynnal Her Fyd-eang Chefs Worldchefs.
Mae Cymdeithas Goginio Cymru (CAW) a’i phartneriaid, Canolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru (ICC Cymru), Gwesty Hamdden y Celtic Manor a Llywodraeth Cymru. wedi derbyn gwahoddiad i groesawu'r digwyddiad i Gasnewydd ar Hydref 23-26, 2021.
Hon fydd unig gystadleuaeth fawr Worldchefs yn 2021 a bydd yn dwyn ynghyd chefs gorau’r byd i gystadlu yn rowndiau terfynol tri chategori: Her Fyd-eang y Chefs, Her Fyd-eang y Pâtissiers a Her Fyd-eang y Chefs Ifanc.
Daw Her Fyd-eang y Chefs a Phentref Worldchefs ynghyd yng Ngwesty Hamdden y Celtic Manor lle mae’r trefnwyr yn gobeithio cynnig llwyfan i fusnesau bwyd a diod o Gymru i arddangos eu cynnyrch i chefs o bedwar ban y byd.
Bydd elfen Gymreig i’r gystadleuaeth gan fod Danny Burke, hyfforddwr Tîm Coginio Ieuenctid Cymru a chyn-gapten y tîm hŷn, yn cystadlu yn Her Fyd-eang y Chefs yn erbyn 19 o bobl eraill. Llwyddodd Danny, sy’n byw yng Nghei Connah ac yn gydberchennog ar Olive Tree Catering yn Runcorn, i gyrraedd y rownd derfynol trwy ennill rownd Gogledd Ewrop.
Mae gan CAW a’r Celtic Manor brofiad o gynnal digwyddiadau llwyddiannus gan Worldchefs. Yn 2017, croesawyd cynhadledd lwyddiannus Worldchefs Ewrop i Gymru ac yn yr haf y llynedd cynhaliwyd cyfarfod bwrdd Worldchefs yma.
Dywedodd Arwyn Watkins, OBE, llywydd y Gymdeithas a rheolwr gyfarwyddwr Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn y Trallwng: “Mae croesawu digwyddiad byd-eang mawr fel hwn i Gymru yn anrhydedd ac yn dasg enfawr, ond mae Cymdeithas Goginio Cymru a’i phartneriaid yn edrych ymlaen at yr her o groesawu chefs gorau’r byd yr hydref nesaf. Mae’r paratoadau eisoes ar y gweill.
“Rydym yn ymwybodol iawn o faint ac arwyddocâd y digwyddiad pwysig hwn, sef unig ddigwyddiad mawr Worldchefs yn 2021, sy’n siŵr o ennyn diddordeb gwledydd y byd yng Nghymru.
“Bydd Her Fyd-eang y Chefs yn ffenest siop ardderchog i sgiliau coginio Cymru a phopeth sydd gennym i’w gynnig. Yn nyddiau pandemig COVID-19, rwy’n siŵr y bydd y diwydiant lletygarwch yn croesawu’r cyhoeddiad hwn. Y gobaith yw y bydd y digwyddiad yn help i Gymru ailgodi ar ôl dioddef effaith economaidd y pandemig.”
Dywedodd prif weithredwr ICC Cymru a Gwesty Hamdden y Celtic Manor, Ian Edwards: “Mae’n bleser gennym ddod â’r digwyddiad rhyngwladol mawreddog hwn i’n canolfannau yn 2021. Cyhoeddwyd yn ddiweddar mai yn ICC Cymru y cynhelir Cynhadledd Wanwyn y Ceidwadwyr y flwyddyn nesaf ac mae'r cyhoeddiad hwn yn hwb arall i'w groesawu wrth i ni edrych ymlaen at ailgodi ar ôl blwyddyn drychinebus i'r diwydiant digwyddiadau.
Mae ein hathroniaeth am goginio’n bwysig iawn i ni yn ICC Cymru a bydd croesawu’r achlysur mawreddeg hwn yn gyfle gwych i arddangos cyfoeth cynnyrch Cymru a’n diwydiant bwyd a diod, sydd ar gynnydd, i gynulleidfa ryngwladol.”
Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: “Er bod effeithiau pandemig COVID-19 yn parhau, mae’n braf iawn gweld bod bwriad i gynnal Her Fyd-eang Chefs Worldchefs yn y Celtic Manor yn 2021. Rwy’n falch fod sefydliadau sy’n trefnu digwyddiadau y flwyddyn nesaf yn ystyried dod i Gymru.”
Rhwydwaith byd-eang o 105 o gymdeithasau chefs sy’n cynrychioli dros 10 miliwn o chefs proffesiynol ym mhedwar ban y byd yw Worldchefs.
Cyhoeddodd Thomas Gugler, llywydd Worldchefs, y byddai Cymru’n cael ei gwahodd i gynnal Her Fyd-eang y Chefs ar ôl i’r wlad golli i Singapore o ddim ond pedair pleidlais mewn etholiad ar-lein ym mis Awst i ddewis ym mha wlad i gynnal Cyngres ac Expo Worldchefs yn 2024.