Bydd gwinllannoedd Cymru yn croesawu gwesteion o Gymru a thu hwnt i flasu’r hyn sydd gan ei sector gwin llewyrchus i’w gynnig yn ystod Wythnos flynyddol Gwin Cymru.

Bellach yn ei phedwaredd flwyddyn, Wythnos Gwin Cymru eleni, sy’n cael ei chynnal rhwng 24 Mai a 2 Mehefin, fydd yr un fwyaf bywiog eto, gyda llu o ddigwyddiadau o flasu, teithiau o amgylch gwinllannoedd, cyfarfod â’r cynhyrchwyr, hyrwyddiadau a dathliadau yn cael eu cynnal gan y gwinllannoedd uchaf eu parch. Profwch angerdd gwinwyr lleol, dysgwch am y broses o wneud gwin, a blaswch ansawdd eithriadol gwinoedd Cymru.

Trefnir Wythnos Gwin Cymru gan Glwstwr Diodydd Bwyd a Diod Cymru, sy’n rhan o fenter clystyru Llywodraeth Cymru ac mae’n gweithio mewn partneriaeth â chynhyrchwyr diodydd a gwinllannoedd i hyrwyddo’r diwydiant a’r modd mae’n cynhyrchu nwyddau o safon fyd-eang.

Dywedodd Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros Faterion Gwledig, Huw Irranca-Davies: “Rydyn ni’n hynod falch o dwf diwydiant gwin Cymru a’r gydnabyddiaeth mae ein gwinllannoedd yn ei chael yn fyd-eang,”

“Mae Wythnos Gwin Cymru yn ddathliad o’n hymrwymiad i ragoriaeth a chynaliadwyedd wrth gynhyrchu gwin. Bob blwyddyn mae mwy a mwy o bobl yn mwynhau blasau bendigedig Cymru trwy fynychu digwyddiadau sy'n gysylltiedig ag Wythnos Gwin Cymru. Rwy’n dymuno digwyddiad llwyddiannus i bawb sy’n cymryd rhan wrth i arlwy gwin eithriadol ein gwlad gael ei ddathlu a mynd o nerth i nerth.”

Gyda bron i 50 o winllannoedd bellach yn gweithredu ar draws y wlad, mae hygrededd Cymru fel cynhyrchydd arloesol gwin o ansawdd uchel wedi blodeuo diolch i berchnogion arloesol ei gwinllannoedd, y ffrwythau gwych sy’n cael eu tyfu a thirwedd a microhinsawdd nodedig Cymru. Mae dros 20 o wahanol fathau o rawnwin yn cael eu tyfu, sy’n cynhyrchu gwinoedd coch, gwyn, rosé a phefriog eithriadol.

Mae gwinllannoedd sy'n cymryd rhan yn teimlo’n llawn cyffro am agor eu drysau i'r cyhoedd, gan gynnig cip tu ôl i'r llenni ar eu gwaith.

Dywedodd Richard Morris, perchennog Ancre Hill Estates, “Mae diwydiant gwin Cymru wedi bod yn tyfu dros y 10 mlynedd diwethaf ac yn dod yn rhan annatod o economi Cymru.

“Mae Wythnos Gwin Cymru yn foment hollbwysig i Ddiwydiant Gwin Cymru, yn tynnu sylw at ansawdd eithriadol a chymeriad unigryw ein gwinoedd. Mae’n amser pan ddown at ein gilydd i ddathlu ffrwyth ein llafur a’r gydnabyddiaeth gynyddol i Gymru fel rhanbarth cynhyrchu gwin o fri. Mae’r wythnos hon yn ymwneud â mwy na gwin yn unig; mae’n ymwneud â chymuned, diwylliant, a’r ymdrech ar y cyd i ddyrchafu gwinwyddaeth Gymreig ar lwyfan y byd.”

Er bod Cymru’n mwynhau ei diwydiant gwin llwyddiannus, nid yw’n hunanfodlon. Mae strategaeth gyntaf o’i bath wedi’i lansio sy’n rhoi ffocws i ddyfodol diwydiant gwin Cymru dros y deuddeg mlynedd nesaf ac i gynyddu gwerth presennol y sector 10 gwaith yn fwy i gyrraedd £100 miliwn erbyn 2035.

Wedi’i datblygu ar adeg hollbwysig i winllannoedd Cymru, gyda chefnogaeth Clwstwr Diodydd Llywodraeth Cymru, bydd y strategaeth a arweinir gan y diwydiant yn helpu i sicrhau bod Cymru’n adeiladu ar ei henw da newydd fel cynhyrchydd arbrofol gwinoedd amrywiol, yn dilyn llwyddiannau trawiadol yn ystod y blynyddoedd diwethaf sydd wedi cael eu gwobrwyo gyda nifer o wobrau rhyngwladol.

Bydd y dathliadau wythnos o hyd hefyd yn cynnwys arddangosfa ar gyfer masnach a’r wasg yng Nghaerdydd, lle gall mynychwyr flasu detholiad o winoedd tra’n cymysgu â chynhyrchwyr a phobl eraill sy’n frwd dros win.

Peidiwch â cholli allan ar yr wythnos ryfeddol hon i ddathlu’r gorau o winoedd Cymru. I gael rhagor o wybodaeth am Wythnos Gwin Cymru 2024 ac amserlen o ddigwyddiadau, ewch i https://welshwineweek.co.uk/cy/wythnos-gwin-cymru/

Share this page

Print this page