Mae Compass Cymru wedi cyhoeddi partneriaeth newydd â’r elusen fwyd FareShare Cymru yng Nghaerdydd, i fynd i’r afael â bwyd dros ben.

Bydd y bartneriaeth hon yn annog safleoedd Compass ledled Cymru i roi bwyd dros ben i gymunedau mewn angen. Ymhlith y prosiectau sy’n cael bwyd gan FareShare Cymru mae canolfannau cymunedol, banciau bwyd a llochesau i bobl ddigartref. Mae’r bwyd sy’n cael ei ddosbarthu gan FareShare Cymru – fel ffrwythau ffres, llysiau, cig a nwyddau nad ydynt yn ddarfodus, gan gynnwys pasta a thuniau, – yn fwyd dros ben, ond mae’n ddigon da i’w fwyta ac fel arall byddai’n mynd yn wastraff.

Cafodd Compass Cymru ei lansio fel busnes ym mis Ebrill 2021, mae’n rhan o grŵp Compass y DU ac Iwerddon, y cwmni bwyd a gwasanaethau cymorth mwyaf yn y DU. Ar lefel genedlaethol mae Compass Group y DU ac Iwerddon wedi cydweithio â FareShare DU ers 2014, a chafodd 235 tunnell o fwyd ei arbed gan Compass y llynedd, digon i baratoi 558,762 pryd o fwyd. O hyn, cafodd dros 7,000 o brydau bwyd eu hailddosbarthu i elusennau Cymru.

Yn ôl Jane Byrd, Rheolwr Gyfarwyddwr Compass Cymru; “ Mae hwn yn achos arbennig ac yn rhywbeth yr wyf i’n teimlo’n angerddol iawn drosto. Yr hyn sy’n fy nghyffroi yn benodol, yw cymryd y bartneriaeth â’r grŵp sy’ eisoes yn bodoli, a’i datblygu ymhellach yng Nghymru; dosbarthu bwyd Cymru gan gyflenwyr Cymru i bobl Cymru sy’ mewn angen.” 

Dywedodd Sarah Germain, Rheolwr FareShare Cymru: “Ers cychwyn Covid-19 rydym ni wedi mwy na dyblu’r bwyd yr ydym ni’n ei ailddosbarthu’n wythnosol. Daw’r bartneriaeth hon gyda Compass Cymru yn ystod cyfnod tyngedfennol, ac rydym ni’n edrych ymlaen at gael gweithio gyda nhw i sicrhau bod bwyd dros ben da yn cyrraedd platiau’r sawl sydd ei angen fwyaf yng Nghymru.”  

Mae’r bartneriaeth hon yn cyd-fynd ag ymrwymiad Compass i leihau gwastraff bwyd. Fel busnes, mae wedi nodi dull o leihau gwastraff ar dair lefel, gan gynnwys:  

Atal; i leihau’r gwastraff bwyd nad yw’n cael ei werthu/ ei fwyta.

Gwella; i roi bwyd dros ben i’r sawl sydd ei angen.

Ailgylchu; i ailgyfeirio gwastraff bwyd rhag iddo gyrraedd y system garthffosiaeth neu safleoedd tirlenwi.

Yn ddiweddar, cyhoeddodd Compass Group y DU ac Iwerddon ei darged amgylcheddol Sero Net – ymrwymiad cyntaf y diwydiant bwyd i economi amgylcheddol Sero Net. Mae cyhoeddiad ‘Our Climate Promise’ Compass, ar drywydd Sero Net, yn rhoi mwy o fanylion ynghylch y strategaeth i greu system fwyd gynaliadwy a fydd yn cyrraedd Sero Net erbyn 2030, gan gynnwys athroniaethau a cherrig milltir y bydd yn eu hyrwyddo yn ystod y degawd nesaf.  

Am fwy o wybodaeth, ewch i: www.compass-group.co.uk/compass-cymru.

FS Face masks
Paper work Volunteers

 

Share this page

Print this page