Mae’r cynhyrchydd salami Cymreig, Cwmfarm Charcuterie wedi derbyn gwobr bwysig yng nghategori Menter Farchnata'r Flwyddyn Gwobrau Moch Cenedlaethol 2020 am ei ddefnydd o’r cyfryngau cymdeithasol i hyrwyddo ei fusnes. Mae'r gwobrau hyn yn cydnabod ac yn gwobrwyo rhagoriaeth, yn meithrin arloesedd ac yn ysbrydoli creadigrwydd a rhannu gwybodaeth. Dyma'r unig wobrau sy'n unigryw i ddiwydiant moch Prydain.

Wedi'i leoli yn Abertawe, dechreuodd Ruth ac Andrew Davies eu busnes dros ddegawd yn ôl gyda dau fochyn; erbyn hyn mae ganddyn nhw 44 hwch fridio sy'n cynnwys y brid cyfrwyog prin a’r mochyn mawr du, y maen nhw’n eu magu yn yr awyr agored ac yn rhydd ar eu tir 40 erw ac yn cynhyrchu cynhyrchion byrbryd salami.

Mae marchnata wedi bod yn rhan enfawr o redeg busnes llwyddiannus i Cwmfarm, ac yn ystod y pedair blynedd diwethaf maen nhw wedi gweld cynnydd enfawr mewn gwerthiant, gydag allforio yn cyfrannu'n helaeth at hyn a chyda thwf sylweddol mewn archebion cenedlaethol.

Mae Cwmfarm Charcuterie yn gwneud eu holl farchnata eu hunain ac mae dawn naturiol Ruth a'i defnydd digymell o gyfryngau cymdeithasol wedi helpu i greu sylfaen o gwsmeriaid ffyddlon a chynyddol sy'n ymestyn o Gymru i'r Ffindir fel y dywed y perchennog Ruth Davies:

"Rydym ni yn Cwmfarm Charcuterie wedi marchnata ein cynnyrch ein hunain drwy ledaenu’r gair ar bob llwyfan cyfryngau cymdeithasol. Rydym ni wedi gweithio gydag enwogion sy'n mwynhau ein cynhyrchion, a gofyn iddyn nhw sôn amdanyn nhw ar y cyfryngau cymdeithasol.

"Rwy'n ceisio sefyll allan a dangos y fi go iawn ar y cyfryngau cymdeithasol. Rwy'n teimlo bod y cyfryngau cymdeithasol wedi datblygu’n aruthrol dros y blynyddoedd, ac mae angen trio cadw ar flaen y gad. Rwy'n diweddaru fy nghyfrifon Twitter, Instagram a Linked-in bob dydd.

"Mae gennym ni gytuneb gyda Neuadd Fwyd Selfridges, a rhoddodd Llysgennad EM Sarah Price yn Helsinki ein cynnyrch ar y fwydlen yn Llysgenhadaeth Cynrychiolwyr Prydain a thrydar y llun o'n cynnyrch i bob Llysgenhadaeth ledled y byd! Mae'n dangos pa mor bell y gallwch gyfleu eich neges ar y cyfryngau cymdeithasol."

Er gwaethaf heriau eleni, mae Cwmfarm Charcuterie wedi ymateb i'r her ac wedi ffynnu. Ar ôl tyfu allan o’u huned gynhyrchu gyntaf ym Mhontardawe, roedd Ruth ac Andrew wedi bod yn chwilio am adeilad addas, a daethon nhw o hyd i’r lle delfrydol dim ond deng munud i ffwrdd yng Ngweithdai Ystradgynlais lle gallan nhw fagu eu moch eu hunain a gwneud salami traddodiadol Cymreig.

Gwnaed y symudiad yn bosibl gyda chymorth grant gan Gynllun Buddsoddi mewn Busnesau Gwledig Llywodraeth Cymru, ac agorwyd 'Pencadlys Salami' newydd Cwmfarm yn swyddogol ar 2 Mawrth gan gyn-chwaraewr rygbi rhyngwladol Cymru, Rupert Moon.

A hithau’n mesur 4,000 troedfedd sgwâr, mae'r uned bedair gwaith yn fwy na safle cyntaf Cwmfarm, ac mae'r cwpl wedi bod yn gweithio rownd y cloc i droi'r gofod i mewn i’w canolfan gynhyrchu ddelfrydol.

Mae derbyn cymorth dylunio ac ardystio gan Ganolfan Bwyd Cymru yn Horeb drwy gydol y cyfnod adeiladu yn golygu bod gan y pencadlys newydd y cyfleusterau sydd eu hangen i fodloni gofynion y safonau diwydiant bwyd mwyaf uchel eu parch fel SALSA.

Wrth longyfarch y cwmni ar ei gyflawniadau a'i ddatblygiadau, dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig:

"Hoffwn longyfarch Cwmfarm ar ei lwyddiant yn y Gwobrau Moch Cenedlaethol eleni ac ar ei dwf a'i ehangiad parhaus – yn enwedig yn ystod cyfnod mor anodd.

"Rwyf wrth fy modd bod cefnogaeth y Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Gwledig wedi galluogi Cwmfarm Charcuterie i ehangu ei sylfaen gynhyrchu, yn ogystal â chreu swyddi medrus.

"Mae'r busnes yn enghraifft wych o sut mae sgiliau ac ysbryd entrepreneuraidd, ynghyd â chymorth busnes, yn helpu i agor marchnadoedd newydd ar gyfer cynhyrchion bwyd a diod o Gymru."

Parhaodd llwyddiant Cwmfarm Charcuterie gyda medal Aur am ei Salami Bara Lawr unigryw, medal Arian ar gyfer ei Greision Salami a medal efydd am ei Bwdin Gwaed gyda mymryn o Bort a Salami Cennin yng Ngwobrau Olymp rhyngwladol Bwyd a Diod y Byd.

Mae Cynhyrchion Cwmfarm Charcuterie yn rhan o’r rhaglen Clwstwr Bwydydd Da, rhaglen ddatblygu dan arweiniad busnes a gefnogir gan Lywodraeth Cymru ac a hwylusir gan Cywain. Mae aelodau'r Clwstwr Bwydydd Da wedi'u dwyn ynghyd gan y rhaglen o bob rhan o Gymru ac maen nhw’n elwa o rannu eu profiadau a'u gwybodaeth.

I gael rhagor o wybodaeth am gynnyrch Cwmfarm Charcuterie ewch i https://cwmfarm.co.uk

 

 

Share this page

Print this page