Mae cwmnïau bwyd a diod o Gymru yn paratoi i fynd i un o arddangosfeydd arloesi bwyd mwyaf y byd ym Mharis fis nesaf (15-19 Hydref 2022).

Ffair a gynhelir bob dwy flynedd sydd wedi datblygu i fod yn ddigwyddiad mwyaf blaenllaw’r diwydiant bwyd yw Salon International de I’Alimentation (SIAL) – y lle gorau i ddarganfod y tueddiadau a’r arloesiadau diweddaraf. Mae'r sioe fasnach yn arddangos bwyd-amaeth, manwerthu bwyd, ac arlwyo sefydliadol a masnachol.

Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, mae dirprwyaeth Cymru o bob rhan o’r sector yn mynychu’r digwyddiad, a phawb eisiau archwilio marchnadoedd newydd, darganfod syniadau newydd a datblygu cysylltiadau â phrynwyr tramor. Bydd gan SIAL dros 6,500 o arddangoswyr o 105 o wledydd ac mae’n cael ei weld fel llwyfan allweddol i’r sector bwyd a diod hyrwyddo eu cynnyrch i brynwyr o bob rhan o’r byd.

Yr wyth cwmni bwyd a diod o Gymru fydd yn bresennol gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru yw Hilltop Honey, Moose Maple UK Ltd, Cradoc’s Savory Biscuits, Ferrari’s Coffee, Tŷ Nant Natural Mineral Water, The Lobster Pot, Evan Evans a Cwmfarm Charcuterie Products.

Dywedodd Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, Lesley Griffiths: “Mae cefnogaeth Llywodraeth Cymru yn bwysig i helpu ein cynhyrchwyr bwyd a diod i fynychu digwyddiadau fel SIAL. Mae hyn yn rhoi cyfle gwych iddynt ryngweithio’n uniongyrchol â phrynwyr a dosbarthwyr ac arddangos y cynnyrch gorau o Gymru.

“Rydym wedi gweld twf sylweddol a phroffil y diwydiant yn codi dros y degawd diwethaf diolch i raddau helaeth i gydweithio rhwng y llywodraeth a’r sector. Dymunaf ddigwyddiad llwyddiannus iawn i bawb sy’n mynychu SIAL.”

Un o’r cwmnïau o Gymru sy’n mynychu SIAL am y tro cyntaf yw The Lobster Pot, cyflenwr byd-eang arobryn o bysgod cregyn byw o’r safon uchaf o ffynonellau cynaliadwy. Mae The Lobster Pot wedi bod yn gweithredu ers 70 mlynedd ac yn cael ei redeg gan Tristan Wood, y drydedd genhedlaeth o’r teulu Wilson ym Mhorth Swtan ar Ynys Môn.

Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr The Lobster Pot, Tristan Wood,

“Mae gennyn ni logisteg arloesol ar gyfer cludo ein pysgod cregyn byw dros y blynyddoedd gan ddefnyddio cludo nwyddau ar y ffyrdd ac yn yr awyr. Mae'r systemau cludo a storio a grëwyd i ganiatáu ar gyfer gwiriadau rheolaidd, yn sicrhau bod ein cynnyrch o'r ansawdd gorau.

“Rydyn ni eisiau parhau i fasnachu gyda’n cwsmeriaid traddodiadol, rydyn ni wedi bod yn masnachu gyda rhai ohonyn nhw ers dros 50 mlynedd. Hoffen ni hefyd ddangos ein natur arloesol wrth fodloni gofynion cwsmeriaid newydd. Dyma’r tro cyntaf i ni arddangos yn SIAL Paris ac edrychwn ymlaen at gwrdd â darpar brynwyr.”

Cwmni arall sy’n mynychu yw Cradoc’s Savory Biscuits sy’n canolbwyntio ar weini bwyd, a gwahanol achlysuron bwyta fel canapés a byrbrydau fel y dywed y perchennog a’r rheolwr Allie Thomas,

“Mater allweddol i ni yw bod angen i ni greu achlysur bwyta a fydd yn gwneud synnwyr ystyrlon i brynwyr o bob rhan o’r byd. Mae'r Ffrancwyr yn arbennig yn draddodiadol yn paru caws gyda bara, nid cracers. Felly, ein nod yw darparu samplau trawiadol o canapés gyda llysiau wedi'u sleisio'n fân a phicls wedi'u heplesu, ychydig o charcuterie a chaws Cymreig gyda'n detholiad o graceri.

“Rydyn ni’n pobi cracers sawrus sy'n llawn blasau llysiau ac yn blasu'n anhygoel, yn enwedig y blasau Eastern Fushion. Cawn weld sut mae'r prynwyr yn derbyn ein sgwariau bisgedi hyfryd a sawrus, a sut mae chwaeth y byd yn wahanol i'n marchnad gartref o ran blas a hoffter.

“Archwilio hoffterau a chwaeth ar gyfer ein detholiad a’n marchnadoedd ar gyfer gwasanaeth bwyd neu fanwerthu ac o bosibl cyfanwerthu yw ein bwriad a’n nod terfynol. Hefyd, ar hyd y ffordd rydyn ni eisiau dysgu cymaint ag y gallwn am sut y gallwn wneud i’n cynnyrch gwrdd ag anghenion marchnadoedd posibl.”

Hefyd yn bresennol bydd y cwmni dŵr mwynol naturiol o orllewin Cymru, Tŷ Nant, sydd wedi ennill sawl gwobr. Ar odre Mynyddoedd Cambria, saif y ffynhonnell enwog o ddŵr mwynol naturiol sydd wedi dod yn boblogaidd ledled y byd.

Dywedodd Bobby Nanua, Cyfarwyddwr Dŵr Mwynol Naturiol Tŷ Nant,

“Mae’r tîm yn Dŵr Mwynol Naturiol Tŷ Nant yn hynod gyffrous i ddychwelyd i SIAL eleni gyda Llywodraeth Cymru. Gyda phresenoldeb rhyngwladol mawr rydyn ni’n edrych ymlaen at gwrdd â’n cleientiaid presennol a chael y cyfle i gyflwyno ein brandiau gwych i lawer o fusnesau newydd.”

Mae menyn Maple Moose wedi'i wneud mewn cyfleuster cynhyrchu menyn annibynnol sy'n eiddo i'r teulu ac sy'n cael ei redeg yn Sir Gaerfyrddin ers 4 blynedd. Mae cyrchu'r cynhwysion gorau bob amser wedi bod o'r pwys mwyaf a hefyd yn allweddol i flas unigryw'r menyn sydd hefyd yn gynhwysyn coginio a phobi amlbwrpas.

Dywed Farrah, sylfaenydd Maple Moose Butter,

“Rydyn ni ar hyn o bryd yn allforio i Dde Corea gyda llwyddiant mawr ac eisiau ehangu i wledydd pellach gan gynnwys Taiwan, Japan, Hong Kong ac UDA gyda phartneriaid allforio eraill. Rydyn ni’n gobeithio y bydd mynychu SIAL yn cynnig cyfleoedd i ni hyrwyddo Maple Moose Butter i farchnadoedd byd-eang.”

Hybu Cig Cymru yw’r corff sy’n gyfrifol am ddatblygu, hyrwyddo a marchnata cig coch o Gymru ac mae’r Prif Weithredwr Gwyn Howells yn gwybod beth yw gwerth mynychu digwyddiadau masnach,

“Rydyn ni’n falch iawn o ddychwelyd i SIAL ac arddangos Cig Oen Cymru PGI a Chig Eidion Cymru PGI ar y llwyfan byd-eang. Mae marchnadoedd allforio yn hanfodol bwysig i sector cig coch Cymru ac edrychwn ymlaen at gwrdd â chwsmeriaid rheolaidd a chysylltu â rhai newydd yn y digwyddiad eleni wrth dynnu sylw at rinweddau unigryw a chynaliadwy cig coch a gynhyrchir yma yng Nghymru.”

Bydd wyth o fusnesau o Gymru yn bresennol eleni o dan faner Cymru, yn cyflwyno cynnyrch sy’n amrywio o ddŵr, coffi, menyn, charcuterie, bragdy, mêl a bwyd môr.

Cynhelir SIAL ym Mharis, Ffrainc rhwng 15 a 19 Hydref 2022.

Share this page

Print this page