Mae gan Gymru gysylltiad â Gulfood, sef un o ddigwyddiadau masnach bwyd mwyaf y byd, ers blynyddoedd, ac mae wedi helpu dod â chyfoeth o gynnyrch Cymreig i ranbarth Cyngor Cydweithredol y Gwlff.

Gyda chymorth gan Lywodraeth Cymru, bydd deg cwmni o sector bwyd a diod Cymru yn mynychu Gulfood 2020 o 16-20 Chwefror, o dan faner Cymru (DU), a phob un yn ceisio hyrwyddo bwyd a diod Cymreig a helpu’r busnesau i sicrhau llwyddiant yn allforio.

Ymhlith y cwmnïau Cymreig sy’n arddangos mae brandiau Daioni Organic, Dairy Partners Cymru Wales, Rachel’s Dairy, Gut Instinct Foods, Billington Foodservice, Frank’s Ice Cream a Flawsome! Yn ogystal â’r rhain bydd cynrychiolwyr o Hybu Cig Cymru, Llaeth y Llan, a Llaethdy Organig Calon Wen hefyd yn rhan o’r Ymweliad Allforio.

Mae Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, yn credu ei bod yn hanfodol i’r diwydiant gymryd mantais o’r fath gyfleoedd er mwyn parhau i gryfhau perthnasoedd gyda marchnadoedd allweddol bwysig fel yr Emiraethau Arabaidd Unedig, gan ddweud,

 “Mae gan Gymru gysylltiad hir â digwyddiad Gulfood sydd wedi helpu dod â chyfoeth o frandiau Cymreig i’r Dwyrain Canol a Gogledd Affrica. Mae allforio bwyd a diod wedi cynyddu 84% ers 2014 ac rydyn ni’n ystyried ardal yr Emiraethau Arabaidd Unedig yn farchnad bwysig i Gymru.

“Mae’n bleser bod yn rhan o Gulfood unwaith eto er mwyn arddangos ein hamrywiaeth eang o gynnyrch bwyd a diod o safon uchel ac edrychwn ymlaen at ddigwyddiad llwyddiannus arall wrth i Gymru barhau i ddatblygu ei chysylltiad cryf â’r diwydiant bwyd a diod yng Nghyngor Cydweithredol y Gwlff.”

Mae 2020 yn addo bod yn flwyddyn lewyrchus i Billington Foodservice, wrth iddyn nhw agor canolfan cacennau a phwdinau newydd sbon ar eu safle ger Casnewydd, de Cymru.

Crëwyd Billington Foodservice yn 2018 gan y Billington Group ar ôl iddyn nhw brynu dau wahanol fusnes gwasanaeth bwyd oedd uchel eu parch yn y DU (Bar Foods a Dunkleys Cyf.) Mae’r grŵp newydd yn darparu Sawsiau, Cawliau, Pasteiod, Cynnyrch wedi eu Pobi a Phwdinau i Farchnad Gwasanaeth Bwyd y DU.

Yn ystod y 18 mis diwethaf, gwelwyd galw cynyddol am bwdinau a chacennau yn y farchnad; ac fel busnes, mae Billington Foodservice wedi gweld cynnydd sylweddol yn y categori hwn. Yn y ffatri yn ne Cymru, mae lle i greu canolfan er mwyn cwrdd â’r galw presennol ac ymestyn y cynigion i farchnadoedd newydd. Mae hyn yn newyddion gwych i’r gweithwyr presennol a’r gymuned leol ac fel buddsoddiad yn yr ardal y nod yw creu rhagor o swyddi. Mae hyn eisoes wedi cael ei wireddu wrth ddod â Sgiliau Datblygu Cynnyrch Newydd pwdin i’r busnes.

Dywedodd Paul Richards, Prif Weithredwr Billington Foodservice: “Mae’n bleser buddsoddi yn y busnes a’r gymuned leol, rydyn ni wedi adolygu’r farchnad ac rydyn ni’n deall mai diolch i’r diwylliant caffis coffi a chaffis pwdinau yn y DU y mae’r galw am gacennau a phwdinau’n cynyddu. Mae pobl eisiau cynnyrch sy’n ffasiynol ac sydd hefyd yn edrych ac yn blasu’n hyfryd! Bydd ein ffatri newydd yn gallu cwrdd â’r anghenion hyn.”

Bydd Billington Foodservice yn arddangos eu gallu Pwdinau a Chacennau newydd yn Gulfood eleni.

Bydd un cwmni o dde Cymru yn arddangos eu cynnyrch yn Gulfood am y tro cyntaf, sef y cwmni sudd ffrwythau, Flawsome! Cafodd y brand ei sefydlu gan y ddeuawd ddawnus Karina Sudenyte a Maciek Kacprzyk, ac mae wedi ei ysbrydoli gan ryseitiau blasus eu Mam-gu, sy’n arbed ffrwythau amherffaith ac yn eu trawsnewid i mewn i ddiodydd sydd wedi eu gwasgu a’u creu’n berffaith.

Ar ôl dwy flynedd o Ddatblygu Cynnyrch Newydd, ym mis Tachwedd 2019, lansion nhw ddetholiad o ddiodydd sudd lled-befriog oer mewn can arloesol heb BPA. Y dewis o flasau ffrwyth yw Riwbob ac Afal, Afal Melys a Sur, a Ceirios ac Afal.

Caiff diodydd pefriog Flawsome! eu gwneud gyda 60% o ffrwythau dros ben a ffrwythau di-siâp sy’n cael eu gwasgu, heb unrhyw siwgr na melysyddion ychwanegol. Mae’r diodydd yn cydymffurfio â rheolau ysgolion yn y DU, heb BPA ac yn fegan gyfeillgar. Ar gyfartaledd, mae un can o Flawsome! yn achub o leiaf ddau afal.

Ymhlith eu sudd ffrwythau eraill mae Mefus ac Afal, Arch-aeron ac Afal, Pwmpen ac Afal, sudd Oren, Oren ac Afal, Afal Melys a Sur, Betys ac Afal, Mango ac Afal.

“Yma yn Flawsome! rydyn ni’n annog cwsmeriaid i leihau pob math o wastraff drwy feddwl am wastraff mewn ffordd greadigol. Rydyn ni’n arbed ffrwythau, talu prisiau tecach i ffermwyr ac wedi rhoi dros 22,000 dogn o sudd i elusen. Hyd yn hyn rydyn ni wedi arbed bron i 700 tunnell o gynnyrch dros ben a chynnyrch di-siâp ac wedi osgoi CO2e sy’n cyfateb i 796 hediad dwyffordd o Dubai i Beijing. Rydyn ni hefyd wedi gwaredu 1,065,474 potel blastig hyd yma, eglura’r sylfaenydd Karina Sudenyte.

“Yn syml, rydyn ni’n cyfuno sudd cynaliadwy sydd wedi ei wasgu a dŵr lled-befriog i wneud diodydd fegan blasus, sy’n isel mewn calorïau.”

Hefyd yn mynychu bydd y brand bwyd a diod sy’n cael eu gwneud o blanhigion, Gut Instinct. Daeth Gut Instinct i fodolaeth oherwydd dyhead i helpu cwsmeriaid gael corff a meddwl iach a chryf gyda deiet a maeth iawn ac, ar yr un pryd, lleihau eu hôl troed carbon. Ymhlith y cynnyrch mae Barista Oat Edition (ar gyfer coffi); Oatstix Dairy Free Milk Alternative (dognau sengl 10ml) a Mayonnaise Fegan (heb wy a dognau sengl 9g).

Y sylfaenydd Chris Joll sy’n egluro cefndir y prosiect,

“Mae cwsmeriaid yn dod yn fwyfwy ystyriol o effaith amgylcheddol arferion ffermio masnachol ac o’r herwydd, yn dewis pethau ‘amgen’ yn hytrach. Gut Instinct yw fy siwrne bersonol o ddarganfyddiadau, ar ôl cael fy llethu gan Flinder Cronig yng nghanol fy ugeiniau. Dros gyfnod o sawl blwyddyn dysgais mai’r llwybr yn ôl at iechyd oedd gwell dealltwriaeth o fwyd. Cydbwysedd a chymedroldeb yw’r cynhwysyn allweddol i gael iechyd da ac mae deiet sy’n llawn maeth o blanhigion yn prysur ddod yn ganolbwynt i arferion bwyta bob dydd.”

Aeth Chris yn ei flaen i ddweud,

“Rydw i’n edrych ymlaen at ymweld â Gulfood gan y bydd yn gyfle gwych i gyflwyno cynnyrch Gut Instinct i farchnad yr Emiraethau Arabaidd Unedig a chael cyswllt uniongyrchol â phrynwyr, dosbarthwyr a chyflenwyr yn y rhanbarth hwn. Gobeithio y byddaf yn dychwelyd i Gymru gyda digon o gysylltiadau a darpar brynwyr.”

Mae gan Gymru draddodiad hir a balch o gynhyrchu bwyd a diod neilltuol, ond yn sylfaen i’r traddodiad hwn mae hinsawdd arloesol sy’n tyfu, yn ferw o gynnyrch unigryw, blasau amrywiol a datblygiadau newydd a chyffrous.

Mae buddsoddiad mewn arloesedd a thechnolegau newydd, wedi eu hategu gan strwythur cefnogi gwych i ddiwydiant bwyd a diod Cymru, nid yn unig wedi creu twf ar gyfer ein brandiau treftadaeth traddodiadol, ond hefyd wedi denu cwmnïau rhyngwladol a’u creadigaethau sy’n cael eu hysbrydoli gan dirwedd, hinsawdd a threftadaeth Cymru.

Ewch draw i stondinau Cymru/Wales yn Gulfood 2020 yn y Neuadd Laeth: Neuadd 2, y Neuadd Ryngwladol: Neuadd Sheikh Saeed Hall a’r Neuadd Gig: Neuadd 3

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Share this page

Print this page