Mae cynhyrchwyr o bob rhan o sectorau cwrw a gwirodydd Cymru wedi ymgynnull i lansio eu strategaethau priodol i wella cydweithredu rhwng sectorau a sbarduno twf yn y dyfodol.
Bydd Strategaeth Cwrw Cymru a Strategaeth Gwirodydd Cymru, a gynhelir yn yr Eglwys Norwyaidd ym Mae Caerdydd, yn helpu’r diwydiant diodydd i gwrdd â’r heriau presennol, gan gynnwys yr argyfwng costau byw a chostau cynyddol ynni, y gadwyn gyflenwi a deunyddiau crai.
Mae’r diwydiant diodydd yn parhau i fod yn rhan annatod o economi Cymru, gyda throsiant y llynedd o ychydig dros £820m. Roedd cwrw a seidr yn cyfrif am £212m o hyn, gyda gwirodydd yn £241m. Mae hyn yn golygu mai diodydd yw pedwerydd sector bwyd mwyaf Cymru y tu ôl i gig coch, cynnyrch llaeth a chynnyrch wedi’i bobi. At hynny, mae dros 1,200 o bobl yn cael eu cyflogi yn y diwydiant, gyda llawer ohonynt mewn lleoliadau gwledig.
Datblygwyd y ddwy strategaeth gan ffigurau blaenllaw yn y diwydiant o’r sectorau bragu a distyllu, wedi’u hwyluso gan Glwstwr Diodydd Bwyd a Diod Cymru. Cafwyd cefnogaeth a mewnbwn hefyd gan swyddogion Bwyd a Diod Cymru Llywodraeth Cymru, ynghyd â phartneriaid ehangach.
Ymhlith y themâu a nodwyd fel rhai hanfodol ar gyfer llwyddiant y ddau ddiwydiant yn y dyfodol mae cynyddu lefel y cynnyrch Cymreig mewn mewn-fasnach ac all-fasnach, hybu eu harlwy twristiaeth, trwy deithiau bragdai a distyllfeydd, cynyddu allforion, uwchsgilio’r gweithlu i helpu i ysgogi trosglwyddo gwybodaeth ac arloesi, ynghyd â chydweithio agosach ar draws y gadwyn gyflenwi i helpu gydag arbedion effeithlonrwydd ac arbed costau.
Yn dilyn cyhoeddi’r strategaethau, mae amserlen wedi’i rhoi ar waith i fonitro cynnydd, a disgwylir gwerthusiad o’u heffaith ar gyfer haf 2026.
Wrth sôn am y ddwy strategaeth, dywedodd y Gweinidog dros Faterion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, Lesley Griffiths, “Roeddwn yn falch o fynychu lansiad Strategaeth Cwrw Cymru a Strategaeth Gwirodydd Cymru, a gweld drosof fy hun yr uchelgais a’r parodrwydd i gydweithio sy'n bodoli ymhlith ein bragwyr a'n distyllwyr.
“Bydd y strategaethau’n helpu i ysgogi buddion ehangach, fel hybu twristiaeth ledled y wlad.
“Mae cynhyrchu cwrw a gwirodydd yn werthfawr iawn i economi Cymru, ac mae sector diodydd ffyniannus yn hanfodol i ddiwydiant bwyd a diod llwyddiannus, a bydd yn helpu i godi ei broffil dramor.”
Mae diwydiant cwrw Cymru wedi profi aflonyddwch a siociau economaidd digynsail yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gyda phandemig Covid yn profi’n arbennig o niweidiol wrth i dafarndai barhau i gau.
Fodd bynnag, mae dros 60 o fragwyr sefydledig yn dal i fodoli yng Nghymru, sy'n cyflogi 600 o bobl, gyda 63 o fentrau llai eraill.
Dywedodd Richard Lever o Magic Dragon Brewing, “Mae Strategaeth Cwrw Cymru yn cynnig gweledigaeth glir i ni o ble rydyn ni eisiau mynd â’r diwydiant, a’r meysydd y mae angen i ni ganolbwyntio arnyn nhw i greu diwydiant bragu proffidiol a chynaliadwy.
“Gallwn weld bod pobl yn barod i dalu premiwm am gynnyrch o safon, ac rydyn ni’n ffodus iawn yng Nghymru bod gennyn ni gynifer o fragdai sy’n ymfalchïo yn eu cynnyrch ac yn barod i gydweithio â’i gilydd i helpu i yrru’r diwydiant yn ei flaen. ”
Mae sector gwirodydd Cymru yn sector cymharol fach, ond ffyniannus sydd â photensial enfawr. Gyda 53 o gwmnïau’n cyflogi dros 300 o bobl, mae’n chwarae rhan hollbwysig wrth warchod treftadaeth ddiwylliannol, hyrwyddo economïau lleol, a dathlu blasau a thraddodiadau unigryw Cymru.
Mewn carreg filltir arwyddocaol, dyfarnwyd statws PGI (Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig) i Wisgi Cymreig Brag Sengl yn ddiweddar, wrth iddo ymuno â Wisgi Albanaidd a’i debyg i gael ei gydnabod am ei flas a’i draddodiad unigryw.
Wrth siarad am ei obeithion ar gyfer diwydiant gwirodydd Cymru, dywedodd Chris Leeke o Ddistyllfa Castell Hensol, “Rydyn ni eisiau bod ar flaen y gad mewn diwydiant ffyniannus, a bydd Strategaeth Gwirodydd Cymru yn ein helpu i gyflawni hyn.
“Ein gweledigaeth yw cael ein cydnabod am ansawdd ein cynnyrch, a fydd yn ein helpu i gystadlu mewn marchnadoedd lleol a byd-eang. Mae llawer ohonon ni eisiau manteisio ar gyfleoedd allforio, na all ond helpu i godi proffil ein diwydiant bwyd a diod dramor.
Gobeithiwn y gallwn barhau i adeiladu ein proffil a dangos i ddefnyddwyr eu bod, trwy ddewis cynnyrch Cymreig, yn cael cynnyrch sy’n llawn dop o ansawdd a tharddiad.”
Os oes angen rhagor o fanylion arnoch am Strategaeth Cwrw Cymru a Strategaeth Gwirodydd Cymru, cysylltwch â thîm Clwstwr Diodydd Llywodraeth Cymru ar @levercliff.co.uk