L - R Paul Trotman (The Authentic Curry Company); Jon Treganna (Penderyn - The Welsh Whisky Company Limited); Enfys Fox (Tesco) Gwesyn Davies (Ellis Eggs); Michel

Mae’r brand archfarchnad blaenllaw Tesco, a llawer o’i gyflenwyr Cymreig, yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar raglen arloesol i helpu busnesau bwyd a diod i leihau eu hôl troed carbon a thyfu’n gynaliadwy.

Mae’r cydweithio arloesol hwn rhwng y llywodraeth, busnesau ac adwerthwyr yn cymryd camau breision tuag at gyrraedd sero net yn y diwydiant bwyd a diod.

Cefnogir y fenter gan dros gant o gwmnïau bwyd a diod Cymreig, gan gynnwys enwau cyfarwydd fel Authentic Curry Company, Penderyn, Edwards – Cigydd Cymru, ac Ellis Eggs.

Mae'r cynllun peilot yn helpu busnesau i fesur a lleihau eu hallyriadau carbon, y mae defnyddwyr a sefydliadau ariannol yn galw amdano fwyfwy. Mae tri cham i’r peilot:

1. Sefydlu Protocolau: Teilwra protocolau mesur carbon ar gyfer busnesau Cymru.

2. Gosod Llinellau Sylfaen: Defnyddio offeryn dal carbon i sefydlu llinellau sylfaen allyriadau.

3. Creu Cynlluniau Lleihau: Datblygu strategaethau lleihau carbon sy'n benodol i'r diwydiant dan arweiniad arbenigwyr.

Pwysleisiodd y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies, bwysigrwydd y cydweithio hwn: “Mae’r rhaglen beilot hon yn gam sylweddol i ddiwydiant bwyd a diod Cymru. Mae cefnogaeth Tesco yn amhrisiadwy o ran rhoi’r offer i fusnesau fesur a lleihau eu hôl troed carbon, gan wella cystadleurwydd a chynaliadwyedd.”

Mae Tesco, sydd wedi ymrwymo i gyflawni sero net ar draws ei gadwyn werth erbyn 2050, eisoes wedi lleihau ei allyriadau gweithredol 61% ers 2015.

Dywedodd Enfys Fox, Rheolwr Perthnasoedd ar gyfer Cyrchu Lleol yn Tesco, “Mae Tesco wedi ymrwymo i adeiladu system fwyd fwy cynaliadwy, ac rydyn ni’n falch o weithio ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru ar y rhaglen beilot drawsnewidiol hon.

“Rydyn ni’n cydnabod y rhan sydd gan ddiwydiant i'w chwarae wrth helpu i leihau allyriadau carbon. Drwy gefnogi ein cyflenwyr i sefydlu eu heffaith a darparu strategaethau y gellir eu gweithredu, rydyn ni’n cymryd camau pwysig i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a sicrhau dyfodol cynaliadwy i’r diwydiant.”

Tynnodd Simon James, Rheolwr Gyfarwyddwr Edwards – Cigydd Cymru, sylw at y manteision busnes: “Mae cymryd rhan yn y cynllun peilot hwn yn ein helpu i osod llinell sylfaen ar gyfer ein hallyriadau a datblygu strategaethau i’w lleihau. Mae arferion cynaliadwy yn hanfodol ar gyfer ennill contractau cyflenwi yn y dyfodol.”

Mae’r rhaglen hon yn creu glasbrint ar gyfer cynyddu mentrau lleihau carbon ar draws diwydiant bwyd a diod Cymru.

Mae'r manteision yn niferus. Mae busnesau sy'n cymryd rhan yn cael eu cefnogi i sefydlu protocolau a lleihau eu hallyriadau carbon a fydd yn cryfhau eu sefyllfa wrth geisio cyllid ar gyfer twf.

Wrth ymdrin â cheisiadau am fenthyciadau, mae sefydliadau ariannol yn aml yn ceisio tystiolaeth bod busnesau wir yn mesur eu hallyriadau carbon. Mae’r rhaglen beilot yn cynnig y sicrwydd hwn drwy ddarparu fframwaith strwythuredig ar gyfer olrhain ac adrodd ar allyriadau, gan arfogi busnesau â data credadwy i ddangos eu hymrwymiad i gynaliadwyedd.

Trwy asesiadau wedi'u dilysu a dogfennaeth glir, gall cyfranogwyr gyflwyno eu cynnydd yn hyderus, gan gryfhau eu hachos dros sicrhau cymorth ariannol.

Am ragor o wybodaeth, ewch i llyw.cymru/bwydadiodcymru

Share this page

Print this page