Dechreuodd cynllun peilot o astudiaeth clwstwr rhyngwladol ar gyfer y busnesau bwyd a diod yng Nghymru ar 18fed Medi fel rhan o strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y sector bwyd a diod, er mwyn datblygu a defnyddio ein partneriaethau Ewropeaidd ymhellach.  Bydd y cynllun peilot yn gweld partneriaid Cymru yn uno gyda busnesau a sefydliadau sydd o’r un feddwl er mwyn archwilio dichonoldeb datblygu cydweithrediad er mwyn sbarduno cyflawni prosiectau sy’n fuddiol i’r naill ochr a’r llall.  Ar ôl Brexit, bwriedir i’r rhaglen gefnogi mwy o barodrwydd a gwydnwch ar gyfer y sector yng Nghymru drwy gynyddu’r cyfleoedd am gefnogaeth o rwydweithiau partneriaeth ac arbenigedd ehangach.

Mae cynlluniau peilot y rhaglen astudiaeth hon yn cefnogi ymdrechion i ddatblygu a defnyddio partneriaethau Ewropeaidd hanfodol ar gyfer y sector bwyd a diod yng Nghymru gyda Llydaw, rhanbarth rhyngwladol allweddol ar gyfer Cymru.  Mae gan Lywodraeth Cymru Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth gyda Llydaw ac felly mae’r prosiect hwn yn adeiladu ar ein perthynas gref sydd eisoes yn bodoli â’r rhanbarth.

Mae gan Lydaw nifer o fusnesau blaenllaw sy’n datblygu atebion cynaliadwy ac mae rhai mentrau sylweddol yn cael eu gwneud yn Ffrainc sy’n dangos eu harchwaeth am ddatblygu atebion economaidd cylchol ar gyfer y diwydiant Bwyd a Diod.  Yn arbennig, mae Llydaw yn ranbarth flaenllaw ar gyfer y diwydiant gwymon ac algâu a datblygodd y ganolfan hyfforddi gyntaf yn y byd ar gyfer gwybodaeth am algâu a gwneud cynnydd yn y maes ymchwil.  Gan ddefnyddio arbenigedd y rhanbarth, mae testun y prosiect yn canolbwyntio ar gyfleoedd cydweithredol penodol ynghylch amrywiol feysydd, gan gynnwys manteisio ar algâu ar gyfer maetheg, iechyd, pecynnu, datgarboneiddio a chael gwared â nitrogen, ffosffad a llygrwyr, yn ogystal â defnyddiau posibl eraill fel ffynhonnell bwyd anifeiliaid.

Cynrychiolir cyfranogwyr o Gymru drwy’r gadwyn gyflenwi ac maen nhw’n cynnwys ymchwilwyr, cynhyrchwyr bwyd, cwmnïau arloesol, cynrychiolwyr y llywodraeth ac arweinwyr clystyrau rhwydwaith.   Mae rhwydwaith y Clwstwr Bwyd a Diod yng Nghymru yn cefnogi gwydnwch y

sector a diogelwch bwyd yn weithredol drwy’i weithgareddau ac mae aelodau clystyrau Maeth Cymru, Bwyd Môr a Diodydd i gyd yn cymryd rhan weithredol yn yr ymweliad astudio hwn.

Mae cynlluniau i ymweld â Llydaw gyda dirprwyaeth o Gymru wedi cael eu gohirio oherwydd effaith Covid-19, ond mewn cydweithrediad â Valorial, y clwstwr bwyd-amaeth yn Llydaw, trefnwyd ymweliad astudio rhithwir i gefnogi’r gweithgareddau cynhyrchu syniadau er mwyn symud y cydweithrediad hwn ymlaen.

Dywedodd Lesley Griffiths, y Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, “Rydw i’n falch iawn gweld, er gwaethaf yr amhariad a achoswyd gan Covid-19, bod busnesau bwyd Cymru yn paratoi at ymuno â’u cyfatebwyr yn Llydaw, wrth inni feddwl am barhau i ddatblygu ein partneriaethau hollbwysig gydag Ewrop.

“Tra bod dirprwyaethau, wrth gwrs, yn methu â theithio ar hyn o bryd, mae’n dda nodi bod gwaith ar ddatblygu’r perthnasoedd rhyngwladol hyn yn parhau drwy ymweliadau rhithwir fel y rhain, ac rydw i’n siŵr y bydd gan y ddwy ochr lawer i’w ddysgu oddi wrth ei gilydd.

“Gwyddys am arferion arloesi a gwydnwch y sector bwyd a diod yng Nghymru, ac mae’r rhain yn nodweddion fwyfwy pwysig wrth inni edrych tuag at adferiad o Covid-19 a pharhau â’r perthnasoedd pwysig hyn.”

 

Share this page

Print this page