Mae awydd i warchod a gwella’r boblogaeth gwenyn a pheillwyr yng Nghymru wedi arwain at brosiect arloesol rhwng dau fusnes sydd, yn ôl pob golwg, yn hollol wahanol.
Er eu bod yn dod o wahanol rannau o’r diwydiant bwyd, mae gan Ellis Eggs Ltd a Bee Welsh Honey awydd cyffredin i hybu’r nifer o wenyn a pheillwyr a thynnu sylw at eu heffaith hollbwysig ar yr amgylchedd.
Mae Jason Ellis, perchennog y cwmni wyau o Hirwaun, a’r ffermwr gwenyn o Lanfair-ym-muallt, Shane Llewelyn-Jones, wedi sefydlu cydweithrediad sydd eisoes o fudd i'r amgylchedd ac o bosibl yn creu cyfleoedd masnachol.
Dechreuodd ddiddordeb Jason yn rôl hollbwysig gwenyn a pheillwyr wrth ddarllen erthyglau a gwylio rhaglenni natur. Gan ei fod am wneud cyfraniad cadarnhaol ac ymarferol tuag at y boblogaeth wenyn, mae'r cwmni wedi noddi cynllun i greu gwenynfa newydd o 12 cwch gwenyn wedi'i lleoli yng Nghanolbarth Cymru.
Mae Ellis Eggs, sy'n fusnes teuluol wedi’i leoli mewn cyfleuster pacio wyau o'r radd flaenaf yn Rhondda Cynon Taf, yn gwerthu wyau maes a gynhyrchir gan 275,000 o ieir ar wyth o ffermydd yng Nghymru.
Dywedodd Jason, “Fel busnes, rydym yn defnyddio lorïau a faniau, ac felly rydym yn ceisio gwrthbwyso eu heffaith ar yr amgylchedd, ac rydym hefyd wedi gosod paneli solar. Mae gwenyn yn greaduriaid mor fach, ond eto maen nhw'n chwarae rhan bwysig yn yr ecosystem. Nid yw’r hyn rydyn ni’n ei wneud yn mynd i achub y byd na newid y blaned, ond rydyn ni’n gwneud ein rhan.”
Mae’r ddau entrepreneur wedi’u dwyn ynghyd gan Glwstwr Mêl Cymru, sy’n rhan o fenter Clwstwr Bwyd a Diod Cymru i feithrin cysylltiadau rhwng busnesau yn y sector.
Dywedodd Shane, “Cafodd Jason ei roi mewn cysylltiad â mi drwy’r Clwstwr Mêl Cymru gan ei fod eisiau cefnogi gwenyn a’u cynaliadwyedd. Fe wnes i awgrymu y dylai noddi rhai cychod gwenyn, a’r canlyniad yw prosiect sy’n dod ag adar a gwenyn ynghyd er lles yr amgylchedd.”
Gyda’i ddiddordeb mewn gwenyn yn dyddio’n ôl i’w blentyndod, mae Shane wedi creu’r Bee Welsh Honey Company sydd wedi ennill sawl gwobr ac mae ganddo fwy na 200 o gychod gwenyn mewn gwenynfeydd ledled Canolbarth Cymru.
Fe wnaeth Shane, sydd hefyd yn arolygydd gwenyn rhanbarthol, fridio’r gwenyn a chynghori Jason ar leoliad y cychod gwenyn ar gyfer y prosiect – sy’n dod ar yr adeg pan mae nifer y gwenyn yn fyd-eang yn gostwng.
Dywedodd Shane, “Mae popeth yn mynd yn iawn, ac ar hyn o bryd, mae dwsin o gychod gwenyn Ellis Eggs yn y Bannau Brycheiniog. Mae’r cychod gwenyn mewn llecyn da, ar yr uchder addas, ac ar fferm sy’n tyfu blodau gwyllt a chnydau gorchuddio sydd o fudd i beillwyr.”
Dywedodd Haf Wyn Hughes, Arweinydd Clwstwr Mêl Cymru, “Dydy’r mwyafrif o bobl ddim yn sylweddoli faint o fuddsoddiad sydd ei angen i sefydlu cychod gwenyn ar sail fasnachol. Un o’r prif rwystrau i dwf i wenynwyr yw mynediad at ddigon o arian, gan nad yw’r rhan fwyaf yng Nghymru yn berchen ar eu tir eu hunain.
“Felly, mae cael cwmni fel Ellis Eggs yn cymryd cymaint o ddiddordeb yng nghynaliadwyedd cadw gwenyn ac yn ymrwymo i ariannu cychod gwenyn i’w groesawu’n fawr. Rwy’n gobeithio y bydd mwy o fusnesau’n ystyried gwneud yr un peth.”
Megis dechrau yw’r bartneriaeth rhwng Jason a Shane, ond mae yna eisoes obeithion i gynyddu nifer y cychod gwenyn, a hyd yn oed i greu brand mêl newydd.
Yn y cyfamser, mae’r cydweithrediad wedi ysbrydoli creu brand newydd gan Ellis Eggs – ‘Beeloved Farm Eggs’, sydd wedi mynd ar werth yn CK Stores yng Nghymru.
Gydag ystyriaethau amgylcheddol ar flaen y meddwl, mae’r blychau wyau – sydd â gwenyn a chychod gwenyn arnynt – wedi’u gwneud o leiafswm o 50% o laswellt, ac maent yn 100% gompostiadwy ac ailgylchadwy.
Dywedodd Jason, sy’n aelod o’r Clwstwr Bwyd Da, “Mae’r cyfan yn rhan o geisio gofalu am ddyfodol ein plant, ac roeddwn i’n meddwl ei bod hi’n hen bryd i ni geisio newid ein ffordd o wneud pethau. Roeddwn i’n ymwybodol o ffrwythau’n cael eu pacio mewn blychau glaswellt a darganfyddais y gallai blwch wyau gael ei wneud ohono hefyd, felly dechreuodd y prosiect o’r fan honno, a gobeithiwn y bydd yn tyfu.”
Dywedodd Lesley Griffiths, Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, “Roeddwn yn falch iawn o glywed am y fenter hon. Mae’n enghraifft wych o sut y gall busnesau gydweithio’n gynaliadwy i helpu i ddiogelu ein hamgylchedd gwerthfawr, a chreu cyfleoedd masnachol newydd.
“Mae’r Clwstwr Mêl yn chwarae rhan bwysig wrth ddod â busnesau ynghyd ac rwy’n edrych ymlaen i weld mwy o straeon o lwyddiant fel hon.”