Bu Aelodau’r Cynulliad yn dymuno’n dda heddiw (dydd Mercher) i gogyddion a fydd yn coginio dros Gymru yn Olympics Coginio IKA yn yr Almaen fis nesaf.

Noddwyd derbyniad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths AC, yn y Senedd yng Nghaerdydd y bore ’ma i gyfleu dymuniadau gorau’r genedl i’r cogyddion a fydd yn cystadlu yn erbyn y goreuon yn y byd yn Stuttgart ar Chwefror 14-19.

Mae Cymdeithas Goginio Cymru (CAW) yn anfon timau hŷn a iau i’r Almaen lle byddant yn ymuno â thua 2,000 o gogyddion a chogyddion cacennau o dros 60 o wledydd yn yr arddangosfa ryngwladol fwyaf a hynaf o gelfyddyd coginio.

Mae’r ddau yn dimau newydd â’r rhan fwyaf o’r cogyddion yn cystadlu dros eu gwlad am y tro cyntaf.  Mae aelodau’r tîm iau rhwng 19 a 21 oed ac mae’r tîm hŷn yn cael ei reoli gan Nick Davies, cogydd profiadol a fydd yn cystadlu yn ei bumed Olympics Coginio.

Yn ogystal, bydd Olympics Coginio’r IKA yn llwyfan o bwys i Gymru ennyn cefnogaeth cymdeithasau coginio cenedlaethol o bedwar ban byd i’w chais i gynnal Cynhadledd ac Arddangosfa Worldchefs yn ICC Cymru, Casnewydd yn 2024.

Mae Cymru, Singapôr, Gwlad Pwyl a’r Iseldiroedd ar y rhestr fer i gynnal Cynhadledd Worldchefs a fydd, mae’n debyg, yn denu mil o gogyddion o bob rhan o'r byd. Mae’r arddangosfa gysylltiedig yn denu rhwng 5,000 a 10,000 o ymwelwyr.

Cyhoeddir pa wlad fydd yn croesawu’r gynhadledd ar ôl pleidlais yng Nghynhadledd Worldchefs eleni yn St Petersburg, Rwsia rhwng 29 Gorffennaf ac 1 Awst.

Dywedodd y Gweinidog, Lesley Griffiths: “Roeddwn wrth fy modd o gael noddi’r cyfarfod yn y Senedd i ffarwelio â’r cogyddion ac i roi'r cyfle i fy nghyd Aelodau Cynulliad i ddymuno’n dda i’r ddau dîm o gogyddion medrus iawn yn Olympics Coginio IKA.  Rwy’n siŵr y bydd y beirniaid yn rhyfeddu at ddoniau coginio’r tîm iau a’r tîm hŷn. “Yn ogystal, mae’r digwyddiad yn llwyfan delfrydol i ddenu cefnogaeth cymdeithasau coginio cenedlaethol wrth i ni wneud cais i ddod â Chynhadledd ac Arddangosfa Worldchefs i Gymru yn 2024.

“Rydym yn prysur ennill enw da fel cenedl sydd â bwyd a diod o safon uchel – cyhoeddwyd ffigurau’n ddiweddar yn dangos bod y diwydiant wedi chwalu’n targed uchelgeisiol o sicrhau trosiant o £7 biliwn y llynedd.  Pe bai ein hymdrechion i gynnal y digwyddiad mawreddog hwn yng Nghymru yn llwyddo, byddai’n hwb ychwanegol i’n diwydiant bwyd a diod ffyniannus. 

Dywedodd llywydd y Gymdeithas, Arwyn Watkins, OBE: “Mae’n fraint fawr i Gymdeithas Goginio Cymru bod y Gweinidog wedi ein gwahodd i’r Senedd er mwyn dymuno’n dda i'r ddau dîm yn yr Olympics Coginio. Mae hefyd yn gyfle i dynnu sylw at holl waith da ein haelodau sydd wir yn llysgenhadon dros Gymru ar y llwyfan rhyngwladol.

“Bydd 2020 yn flwyddyn bwysig iawn i’r Gymdeithas ac i Gymru wrth i ni ac ICC Cymru wneud cais i gynnal Cynhadledd ac Arddangosfa Worldchefs yn 2024. Byddaf i’n treulio’r rhan fwyaf o fy amser yn yr Olympics Coginio yn annog llywyddion y gwledydd sy’n rhan o Worldchefs i bleidleisio dros Gymru.

Bydd Nick Davies, hyfforddwr crefftau coginio gyda Hyfforddiant Cambrian, y Trallwng, yn cyfuno gwaith rheolwr ac aelod o Dîm Coginio Hŷn Cymru a gaiff ei arwain, am y tro cyntaf, gan Sergio Cinotti o fwytai arobryn Gemelli a Gem42, Casnewydd.

Aelodau’r timau yw: Dylan Wyn Owens, prif gogydd Clwb Pêl-droed Manchester City yn Stadiwm Etihad, Will Richards, cogydd cacennau o Hyfforddiant Cambrian, Matthew Smith, o Star Chef Catering yn y Drenewydd, Mark Robertson o Goleg Cambria, Wrecsam, Jay Humphris o Goleg y Cymoedd a Zak Pegg o Westy’r Harbourmaster, Aberaeron. Peter Fuchs, cyfarwyddwr coginio yn The Celtic Collection ac ICC Cymru, Casnewydd yw’r rheolwr logisteg.

Rheolir Tîm Coginio Iau Cymru gan Michael Kirkham-Evans, darlithydd yn Grŵp Llandrillo Menai, Llandrillo yn Rhos a chânt eu hyfforddi gan un o gyn-gapteiniaid y tîm hŷn, Danny Burke, partner yn Olive Tree Catering, Runcorn.

Aelodau’r timau yw: capten Callum Smith, The Lion and Pheasant, Amwythig;  cogydd cacennau, Alys Evans, Becws Pobi Bach, Tonyrefail; Morgan Read, Brook House Mill, Dinbych; Lara Walker, Celtic Manor, Casnewydd; Alice Yeomans, Belmond Le Manoir aux Quat'Saisons, Great Milton, Rhydychen a James Jarvis, Sebastians Restaurant, Croesoswallt.

Bydd y ddau dîm yn coginio pryd tri chwrs yn y rhan o’r ornest o’r enw Bwyty'r Cenhedloedd, ac yna byddant yn cynhyrchu nifer o seigiau ar gyfer bwffe bwytadwy'r cogydd, elfen a gyflwynwyd eleni.

Bydd y tîm hŷn yn cyflwyno bwffe bwytadwy'r cogydd ar 16 Chwefror a'i fwydlen Bwyty'r Cenhedloedd ar 18 Chwefror. Bydd y tîm iau yn cyflwyno'i fwydlen Bwyty'r Cenhedloedd ar gyfer 60 o bobl ar 15 Chwefror a bwffe bwytadwy'r cogydd ar 17 Chwefror.

Noddir Tîm Coginio Cymru gan Bwyd a Diod Cymru, Llywodraeth Cymru; Cwmni Hyfforddiant Cambian, Grŵp Llandrillo Menai; Bwydydd Castell Howell, Hybu Cig Cymru a Harlech Foods.

 

Y Gweinidog, Lesley Griffiths, gyda llywydd Cymdeithas Goginio Cymru, Arwyn Watkins, OBE ac aelodau hŷn a iau o Dîm Coginio Cymru yn y derbyniad yn y Senedd.

 

 

Share this page

Print this page