Mae gan bob un ohonyn nhw stondin ym Marchnad Cynhyrchwyr #CaruCymruCaruBlas #LoveWalesLoveTaste yn Ely’s Yard, ger Brick Lane yng nghanol Dwyrain Llundain.

Bydd cynhyrchwyr fel The Coconut Kitchen o Gonwy, Black Mountain Roast o’r Gelli Gandryll a Distyllfa Ysbryd Cymru o Gasnewydd yn arddangos eu cynnyrch.

Bydd cyfanswm o 16 o fusnesau o Gymru ac maen nhw’n annog pobl i alw heibio i roi cynnig ar eu cynnyrch gwych.

Bydd Hannah Turner o Brooke's Wye Valley Dairy yn y farchnad, a dywedodd:

"Rydyn ni wir yn edrych ’mlaen at fod yn rhan o Farchnad Cynhyrchwyr #CaruCymruCaruBlas #LoveWalesLoveTaste yn Llundain.

“Mae'n wych bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi ac yn hyrwyddo cynnyrch o Gymru ac yn rhoi'r cyfle hwn inni wneud hynny yn Llundain.”

Bydd yr 16 cynhyrchydd bwyd a diod yn Ely’s Yard yfory hefyd cyn i'r ymgyrch symud ymlaen i Liverpool ONE ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi.

Bydd cyfle hefyd heddiw, yfory a Ddydd Gŵyl Dewi i fodurwyr sy'n aros yng Ngwasanaethau Caerloyw ar yr M5, cyffordd 11A tua'r gogledd a chyffordd 12 tua'r de, roi cynnig ar ddanteithion blasus wrth i gynhyrchwyr o Gymru gynnal sesiynau samplu yno.

Yn y cyfamser, mae Canolfan Cymry Llundain yn cynnal nifer o ddigwyddiadau dathlu sy’n cael eu cefnogi gan Bwyd a Diod Cymru drwy'r Clystyrau Bwyd a Diod Da.

Mae #CaruCymruCaruBlas #LoveWalesLoveTaste ar yr awyr hefyd mewn ymgyrch ar y teledu a’r cyfryngau digidol sy'n cynnwys hysbysebion ar ITV Wales ac ar wasanaeth ar alw Sianel 4, All 4.

Hanfod yr ymgyrch ddigidol yw dathlu'r 'bobl, y lleoedd a'r blasau' sy'n gwneud bwyd a diod o Gymru yn unigryw.

Ffilmiwyd yr hysbysebion mewn lleoliadau ledled Cymru, yn eu plith rhai eiconig fel Pen-y-fan drwy'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Castell Penfro, Pontarfynach, Castell Conwy a'r Afon Menai.

Mae amrywiaeth o gynhyrchwyr a'u cynnyrch i’w gweld hefyd ar 300 o bosteri digidol mewn lleoliadau ledled Cymru.

Gwnaeth dros 60 o gynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru gais i gymryd rhan yn yr ymgyrch ddigidol. A hwythau’n awyddus i ledaenu'r gair, mae llawer mwy o gynhyrchwyr wedi lawrlwytho pecyn cymorth #CaruCymruCaruBlas #LoveWalesLoveTaste ar hyrwyddo i’w helpu i greu eu cynnwys eu hunain ar y cyfryngau cymdeithasol ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi.

Dywedodd Lesley Griffiths, y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd:

“Mae bwyd a diod o Gymru wedi chwarae rhan ganolog yn nathliadau Dydd Gŵyl Dewi bob amser, a gan fod Cymru yn Llundain heddiw i herio Lloegr, dw i wrth fy modd bod ein cynhyrchwyr gwych yn gallu dangos a rhannu eu cynnyrch amheuthun unwaith eto.

“Mae hwn yn gyfle gwych i bobl fynd draw i Ely’s Yard heddiw neu ’fory i gael profi'r gorau o fwyd a diod o Gymru.

“Mae rhagor o ddigwyddiadau’n cael eu cynnal i nodi Dydd Gŵyl Dewi a hoffwn i annog pawb i dreulio amser yn cwrdd â'n cynhyrchwyr, i roi cynnig ar eu cynnyrch a mwynhau diwrnod arbennig iawn yng nghalendr Cymru."

 

Share this page

Print this page