Bydd y pum Aelod newydd yn ymuno â'r bwrdd presennol ac yn cyfrannu at y gwaith o gefnogi adferiad y sector yn dilyn COVID-19 a’i baratoadau ar gyfer diwedd cyfnod pontio'r UE.

Y pum aelod newydd, a fydd yn dechrau yn eu swyddi ar 16 Tachwedd am gyfnod o bedair blynedd, yw:

•Dr Rhian Hayward

•Mr James Wright

•Mr Don Thomas

•Mrs Margaret Ogunbanwo

•Mr Bryson Craske

Cyfarfu y Gweinidog â'r bwrdd llawn newydd ar 19 Tachwedd i drafod blaenoriaethau'r sector a sut y bydd y bwrdd a Llywodraeth Cymru yn cydweithio dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf i fynd i'r afael â'r heriau a'r cyfleoedd y mae'r diwydiant yn eu hwynebu.

Dywedodd y Gweinidog:

“Rydym yn hynod falch o'n sector bwyd a diod byd-enwog yng Nghymru. Mae 2020 wedi bod yn flwyddyn anodd i'r sector wrth iddo ymateb i'r pandemig byd-eang ac mae'n wynebu'r ddwy her sydd ar ddod o adfer ar ôl COVID-19 a pharatoi ar gyfer diwedd cyfnod pontio'r UE. Bydd y pum Aelod newydd, sy’n meddu ar brofiad eang, yn atgyfnerthu ac yn adeiladu ar y gwaith gwych y mae'r bwrdd yn ei wneud wrth gefnogi’r sector a sicrhau dyfodol cryf iddo.”

Dywedodd Andy Richardson, Cadeirydd Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru:

“Mae'n bleser gennyf groesawu'r aelodau newydd i'r Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod ar adeg dyngedfennol i'r sector bwyd a diod yng Nghymru. Bydd y Bwrdd yn parhau i chwarae rhan allweddol mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a'r diwydiant i gydweithio er mwyn datblygu’r sector a sicrhau bod bwyd a diod Cymru yn parhau i dyfu o ran dylanwad, graddfa a hyder ar lwyfan y Byd. Heb unrhyw amheuaeth bydd profiad, egni ac uchelgais y bwrdd yn sbarduno llwyddiant at y dyfodol.”

Cynhaliwyd ymarfer recriwtio teg ac agored wrth benodi pum aelod newydd i Fwrdd Bwyd a Diod Cymru.

 

Share this page

Print this page