Am nad oes modd cynnal digwyddiadau bwyd traddodiadol yr haf hwn, mae nifer o gynhyrchwyr bwyd a diod Cymru wedi gorfod meddwl am ffyrdd eraill o gyrraedd y cyhoedd. O ganlyniad, mae pobl ledled Cymru’n trefnu cynnal digwyddiadau bwyd ‘rhithwir’ ar-lein.

I bobl sy’n mentro i’r byd newydd hwn, mae cymorth ar gael erbyn hyn gan Cywain – rhaglen a luniwyd ac a ddatblygwyd gan Menter a Busnes yn unswydd i ddatblygu micro-fusnesau a busnesau bach a chanolig, yn rhai newydd a rhai sy’n bodoli eisoes, yn sector bwyd a diod Cymru.

Fel y mae Nia Ball, Rheolwr Datblygu Twristiaeth a Lletygarwch Cywain yn esbonio, “Rydym wrth ein boddau y gallwn gynnig cymorth I wyliau bwyd yng Nghymru yn awr, a hwythau’n gorfod wynebu’r heriau sy’n codi o fethu cynnal eu digwyddiadau eleni.

“Mae llawer o bobl yn gorfod addasu a chyflwyno ffyrdd arloesol o gadw momentwm eu gwyliau i fynd a darparu dulliau newydd o hysbysebu eu masnachwyr busnes bwyd a diod arferol - o wyliau bwyd rhithwir i ganolfannau bwyd clic a chasglu.

“Ac felly, i’w cefnogi nhw i wneud hynny, rydym yn estyn y cyfle iddynt i dderbyn y buddion a’r gwasanaethau rhad ac am ddim yr ydym bob amser wedi eu cynnig i fusnesau bwyd a diod, gan gynnwys arweiniad arbenigol ar bynciau perthnasol a chymorth ariannol tuag at y costau cymwys.

“Mae’n wych gweld ein bod wedi darparu rhywfaint o gymorth yn barod gyda chynllunio gwyliau bwyd rhithwir y teimlaf yn siŵr y byddent yn llwyddiannus.”

Meddai Lesley Griffiths, Gweinidog dros yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: “Mae’r sector bwyd a diod yng Nghymru wedi ymateb i’r argyfwng presennol gydag ysbryd arloesol nodweddiadol, a pharodrwydd i fanteisio ar ffyrdd gwell o weithio.

“Mae gwyliau rhithwir fel y rhain wedi bod yn rhan o ymateb y sector i’r heriau parhaus o ganlyniad i’r pandemig Covid-19. Mae nifer o ddigwyddiadau - nid o fewn y byd bwyd a diod yn unig, ond hefyd ym maes amaeth, megis y Sioe Frenhinol Rhithwir - wedi gorfod cael eu cynnal yn ddigidol, er mwyn diogelu iechyd cyhoeddus a lleihau’r perygl o drosglwyddo’r feirws.

“Er nad oes unrhyw beth yn gallu cymryd lle digwyddiadau ffisegol, mae’r digwyddiadau rhithwir yn dal i gynnig cyfle gwych i randdeiliaid gwrdd a rhwydweithio, ac rydw i’n falch iawn bod Cywain wedi gallu cefnogi busnesau wrth iddyn nhw fabwysiadu’r dulliau digidol newydd hyn.”

Blas ar Orllewin Cymru (1 Awst)

Mewn ychydig ddyddiau, bydd y ‘drysau’ rhithwir yn agor ar yr Ŵyl Taste of West Wales.

Yn lle bod y cyhoedd yn mynd yn gorfforol i’r ŵyl – fel y cynlluniwyd yn wreiddiol – drwy gatiau Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, byddent yn gallu mwynhau’r golygfeydd a’r seiniau drwy’r rhyngrwyd.

Yn ôl y cydlynydd Diana Vickers, trefnwyd y digwyddiad hwn a redir gan wirfoddolwyr am fod angen creu lle gwerthu gwahanol I gynhyrchwyr crefftus oedd wedi bwriadu cael stondin mewn cyfres o wyliau yn ystod 2020 yn yr Ardd Fotaneg yn Llanarthne.

Meddai, “Roedd y bobl hyn wedi cofrestru’n barod ar gyfer Gŵyl y Gwanwyn, a phan gafodd yr ŵyl hon a Gŵyl yr Haf eu canslo aethom ati I ddechrau meddwl am ffordd arall o wneud hyn – a dyma sut y cafwyd y syniad o gynnal Gŵyl rithwir.”

Bydd yr Ŵyl ar Awst 1af o 10am hyd 4pm ar dudalen Facebook Showcasing West Wales, a Diana fydd y llywydd. Bydd hi’n tywys yr ymwelwyr drwy’r amserlen at ‘we’ ryng-gysylltiedig o ddangosiadau byw gan gogyddion, gweithdai crefft, a llu o stondinau a fideos gan gynhyrchwyr.

Yr unig beth oedd yn eu rhwystro oedd gofynion technegol cynnal digwyddiad rhithwir - a dyma lle daeth Cywain i mewn.

“Dydw i erioed wedi gwneud y math yma o beth o’r blaen, ond mae Cywain wedi bod yn hollol wych ac roedden nhw’n deall ar unwaith beth roedden ni’n ceisio ei wneud. Mae wedi bod yn berthynas symbiotig. Gofynnais a oedd unrhyw un a allai ddweud wrthyf sut i dynnu popeth at ei gilydd ac aeth Nia ati’n gyflym iawn i drefnu i mi gael cyngor gan arbenigwr mewn marchnata digidol ac mae Cywain wedi ein cefnogi ni hefyd i sicrhau cyfranogaeth y cogyddion.

“Os bydd yr ŵyl hon yn llwyddiannus, hoffem wneud rhagor ohonyn nhw ac efallai, yn y pen draw, ddal ymlaen ar blatfform cynaliadwy.”

Rhagor o wybodaeth: www.tasteofwestwales.co.uk

Gŵyl Fwyd Amgueddfa Cymru (Medi 12 a 13)

Mae Gŵyl Fwyd Sain Ffagan yn ffefryn cadarn yn y calendr bwyd bob blwyddyn ac mae’n denu miloedd o bobl i Amgueddfa Werin Cymru.

Mae’r trefnwyr yn gobeithio y bydd y digwyddiad rhithwir eleni yr un mor boblogaidd – ac yn denu ‘ymwelwyr’ o bell ac agos.

Gyda’i enw newydd, Gŵyl Fwyd Amgueddfa Cymru, mae’r digwyddiad yn ddathliad o fwyd a diod o Gymru gyfan a bydd yn dangos nifer o safleoedd Amgueddfa Cymru – gan gynnwys Sain Ffagan.

Dros y ddau ddiwrnod bydd amrywiaeth o weithgareddau i bob ystod oedran, a chânt eu darlledu drwy wahanol blatfformau cyfryngau cymdeithasol.

Ar Facebook (https://www.facebook.com/events/278328393509516) bydd digwyddiadau ‘rhowch gynnig arni’ rhyngweithiol gyda ffocws ar y teulu, a bydd gan  Instagram (museumwales) fwy o naws gŵyl wedi’i anelu at bobl ifanc 18 i 30 oed.

Ar Crowdcast bydd amrywiaeth o drafodaethau panel a dangosiadau coginio. Draw ar Twitter (@amgueddfacymru) bydd curaduron amgueddfa’n ‘Meddiannu’r Twitter’ i ddangos rhai o’r eitemau sy’n gysylltiedig â bwyd yng nghasgliad yr amgueddfa.

Mae Cywain wedi cefnogi nifer o’r digwyddiadau gan gynnwys dangosiadau coginio a dosbarthiadau meistr, a bydd rhagor o wybodaeth ar gael yn agosach at yr amser ar https://museum.wales/whatson/food-festival-2020/

Ymysg y digwyddiadau mae sesiwn Blasu Cwrw Cymru, wedi’i drefnu mewn partneriaeth â Cywain a’i gynnal gan arbenigwr cwrw iawn, Simon Martin, a fydd yn ffrydio’n fyw o’i gartref yn y Barri.

Mae Cywain wedi creu cas o gwrw yn arbennig ar gyfer y digwyddiad y bydd pobl y gallu ei archebu o flaen llaw os bydden nhw eisiau mwynhau’r diodydd yn ystod y sesiwn ffrydio.

Meddai Simon Martin, y mae ei Real Ale Guide ar Youtube wedi denu mwy na deg miliwn o ymweliadau, “Rwyf wedi bod yn rhedeg tafarn rithwir ers dechrau’r cyfnod clo. Cysylltodd Rolant Tomos o Cywain â mi, ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr iawn at Ŵyl Fwyd Amgueddfa Cymru.

“Maer sîn cwrw yng Nghymru’n tyfu o flwyddyn i flwyddyn ac mae’n bwysig iawn ein bod ni’n cadw digwyddiadau fel hyn yn mynd fel nad ydy 2020 yn dod yn ‘flwyddyn a aeth yn angof’.”

Meddai Mared Maggs, Pennaeth Digwyddiadau yn Amgueddfa Cymru, “Rydym yn ddiolchgar iawn am y cymorth rydyn ni wedi’i gael gan Cywain wrth i ni gychwyn ar ein gŵyl fwyd ddigidol gyntaf. Yn y cyfnod ansicr hwn, mae’r bartneriaeth gyda Cywain wedi bod yn hynod o werthfawr. Mae eu rhwydwaith o gyflenwyr wedi gadael i ni ddargyfeirio ein cynulleidfaoedd ac ymgysylltu â chynhyrchwyr ledled Cymru.”

Mae'r rhan fwyaf o'r gweithgareddau rhaglen am ddim, ond ar gyfer y gweithgareddau ble mae angen tocyn a gweithgareddau sy'n codi tâl, bydd angen archebu ymlaen llaw.  Bydd rhagor o fanylion i ddilyn maes o law ar https://museum.wales/whatson/food-festival-2020/

Rhagor o wybodaeth: https://museum.wales/whatson/food-festival-2020/

 

 

Share this page

Print this page