Mae Great Taste, gwobrau bwyd a diod mwyaf poblogaidd y byd, wedi cyhoeddi eu sêr o 2021, ac mae llu o gynhyrchion bwyd a diod blasus o Gymru wedi cael sêl bendith aur.

Mae 270 o gynhyrchion Cymreig eithriadol, yn amrywio o gynhyrchwyr crefftus annibynnol bach i ddosbarthwyr ar raddfa fawr, wedi bod yn llwyddiannus yn y gwobrau, gyda 190 o gynhyrchion yn cael 1-seren, 69 yn derbyn 2-seren ac 11 yn ennill clod uchel gyda 3-seren.

Bob blwyddyn mae panel o feirniaid o fri sy'n cynnwys cogyddion llwyddiannus, awduron coginio, beirniaid bwyd, perchnogion bwytai a manwerthwyr bwydydd da yn dod ynghyd i flasu bwyd a diod gorau gwledydd Prydain, ac eleni, wnaeth cynhyrchwyr Cymru ddim siomi.

Mae'r broses yn cynnwys beirniaid yn blasu’n ddall mewn timau o dri neu bedwar, gan sicrhau bod “cydbwysedd o arbenigedd, oedran a rhywedd” cyn iddyn nhw wneud eu penderfyniadau terfynol.

Yr 11 o gynhyrchion o Gymru sydd wedi cael eu cydnabod fel rhai sy’n darparu “bwydydd hynod flasus” 3-seren yw:

• Tŷ’r Gobaith’s Pantry (Powys) - Ciwcymbr Picl
• Pantri Swswen (Powys) - Jam Cyrens Duon Cymreig
• Pembrokeshire Lamb Ltd (Sir Benfro) – Ysgwydd Hesbin
• Silver Circle Distillery Limited (Sir Fynwy) – Negroni Eirin Duon
• Happy Hedgehog Foods Ltd (Sir y Fflint) - Finegr Balsamig Mefus
• Dolwen Welsh Lamb and Beef (Sir Ddinbych) - Ysgwydd Cig Oen Cymru PGI Dolwen
• Lili Mai (Ceredigion) – Jam Mafon a Rhosyn
• Caws Teifi (Ceredigion) – Halloumi Teifi
• Best of Hungary Ltd (Ceredigion) - Powdwr Paprika Hwngaraidd Poeth wedi’u Fygu Rubin Paprika
• Hufen Iâ Fecci / Hufen Iâ Llaeth Moethus Mario (Sir Gaerfyrddin) - Hufen Iâ Llaeth Cnau Pistasio Sisilaidd
• Dunbia (DU) (Sir Gaerfyrddin) - Cote de Boeuf Brid Brodorol Rose County wedi’i Sychu am 35 Diwrnod 

Wrth sôn am Negroni Eirin Duon Silver Circle Distillery Ltd, dywedodd un o’r beirniaid annibynnol: 

“Mae’r cymhlethdod yn rhyfeddol; mae’r cydbwysedd rhwng melyster a chwerwder yn parhau i ymhyfrydu ymhell ar ôl y llymaid olaf.

“Allwn ni ddim meddwl sut mae gwella arno; roeddem ni’n meddwl am flas eirin duon mwy agored ond roeddem ni’n teimlo na ddylai unrhyw beth darfu ar y cydbwysedd perffaith o flasau ac arogleuon.”

Wrth longyfarch y cynhyrchwyr buddugol, dywedodd Gweinidog Materion Gwledig Llywodraeth Cymru a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, Lesley Griffiths:

“Rwy’n falch iawn o nifer y gwobrau sydd wedi’u hennill yn haeddiannol gan gynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru yng ngwobrau Great Taste 2021.

Mae beirniaid Guild of Fine Food wedi nodi cynnyrch o'r ansawdd gorau o bob rhan o Gymru, sy’n adlewyrchu'r gwaith caled a'r creadigrwydd sy'n nodweddiadol o'n diwydiant bwyd a diod o'r radd flaenaf.

Llongyfarchiadau enfawr i bawb ar eu llwyddiannau yng Ngwobrau eleni a hoffwn ddymuno pob llwyddiant iddyn nhw yn y dyfodol.”

Mae Great Taste, a drefnir gan Guild of Fine Food, yn cael ei gydnabod yn eang fel y cynllun achredu bwyd uchaf ei barch ar gyfer cynhyrchwyr bwyd crefftus ac arbenigol, ac fe’i disgrifir fel ‘Oscars’ y byd bwyd.

Dywedodd John Farrand, rheolwr gyfarwyddwr Guild of Fine Food:

“Mae safon y ceisiadau o Gymru eleni wedi bod yn rhagorol o ystyried heriau’r 18 mis diwethaf. Cydnabyddir Great Taste fel stamp o ragoriaeth ymhlith defnyddwyr a manwerthwyr fel ei gilydd. Mae'n llwyddiant gwych ac yn arwydd amlwg o'r ansawdd a'r rhagoriaeth, sy'n adlewyrchu'r ymrwymiad a'r ymroddiad cynyddol gan gynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru i'r sector bwydydd da.”

Mae pob un o’r cynhyrchion Cymreig 3-seren nawr yn cael eu hystyried ar gyfer y teitl rhanbarthol ‘Golden Fork from Wales’, a gyhoeddir ddydd Sul 17 Hydref 2021.

Gellir gweld rhestr lawn o enillwyr eleni yn greattasteawards.co.uk 

Share this page

Print this page