Rhifau stondyn Cymru - 1916/2016 & 1920/2020

 

Bydd cwmnïau bwyd a diod artisan o Gymru’n dadlennu llu o gynhyrchion newydd cyffrous yn y Speciality & Fine Food Fair eleni. 

 

Fe’i cynhelir yn Olympia Llundain rhwng 2 a 4 Medi, a bydd un ar ddeg o gynhyrchwyr blaenllaw yn arddangos dan faner Cymru/Wales gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru.

 

Gan barhau â’r enw da sydd wedi’i hen sefydlu am gynhyrchion bwyd a diod da, mae’r amrywiol lansiadau cynnyrch eleni’n amlygu’r creadigrwydd a’r arloesi parhaus sy’n ymddangos yng Nghymru:

 

  • Mae Cwmni Halen Môn yn lansio nifer o gynhyrchion newydd gan gynnwys halen a finegr, mwstard grawn cyflawn myglyd, mwstard Dijon myglyd, a ketchup barbiciw myglyd.
  • Mae Cradocs Savoury Biscuits yn lansio cracers newydd fydd yn cynnwys cyflasau Asiaidd poblogaidd – Gwair Lemon, Cnau coco a Tsili – Pupur Szechuan a Nionyn Coch – Sesnin Miso a Wasabi gyda Ffenigl. Yn ogystal â Chatwad Stilton a Llugaeron - Cheddar a Nionyn - Checkers
  • Mae Cwmni Caws Eryri wedi cyflwyno caws newydd - Nature’s Nectar, cheddar aeddfed gyda ffigys wedi’u mwydo mewn rỳm a mêl
  • Bydd Patchwork Traditional Food Company yn arddangos bwyd ‘Cymreig’ newydd gyda chefnogaeth y gyflwynwraig teledu Siân Lloyd - ‘Siân Lloyd’s Best Welsh Pâté’ mewn 5 blas, gan gynnwys Caws a Chwrw Cymreig; Iau Cyw Iâr; Seidr ac Afal Cymreig; a Ffacbys, Cennin a Bara Lawr
  • Bydd Rogue Preserves yn profi eu Marmalêd Espresso Martini newydd, gan ddefnyddio ffa arobryn Coaltown Coffee
  • Mae Terry's Patisserie Ltd wedi lansio blwch te prynhawn Nadolig newydd, yn cynnig datrysiad te prynhawn cyflawn gyda chyffyrddiadau dyfeisgar
  • Bydd Mountain Chocolate Company Ltd yn arddangos bariau siocled cofrodd newydd, wedi’u cynllunio’n arbennig ar gyfer atyniadau twristaidd ar draws y DU

 

Ymhlith y cynhyrchwyr fydd yn mynychu’r Ffair gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru mae Alli Thomas o Cradocs Savoury Biscuits o Aberhonddu, a ddywedodd:

 

“Ers tro, y Speciality & Fine Food Fair yw’r prif arddangosfa yn y DU i’r diwydiant bwyd a diod da ac mae’n parhau i dyfu o ran y niferoedd o ymwelwyr ac arddangoswyr mae’n eu denu. Mae hynny’n golygu ei fod yn ddigwyddiad y mae’n rhaid i ni fod yn rhan ohono i gael ein gweld ymhlith cwmnïau bwyd a diod gorau Cymru a dangos ein cynhyrchion i ddarpar brynwyr o’r DU a thu hwnt.”

 

Ychwanegodd Williams Rhys-Davies o The Bake Shed,

“Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at fynd i’r Speciality & Fine Food Fair gyda chymorth a chefnogaeth Llywodraeth Cymru. Gyda’u cymorth nhw rydyn ni wedi gallu datblygu cynhyrchion newydd, sicrhau achrediad a mynychu digwyddiadau masnach lle gallwn arddangos ein cynhyrchion i brynwyr yn y gobaith o gynyddu gwerthiant.”

 

Yn ystod tri diwrnod y Ffair, bydd ymwelwyr â stondin Cymru/Wales yn gallu cyfarfod â chynhyrchwyr angerddol, blasu cynhyrchion bwyd a diod unigryw, gweld datblygiadau cynnyrch newydd a chynhwysion amrywiol fel siocled da, cynhyrchion llaeth, confennau, diodydd a diodydd alcoholig premiwm a llawer mwy. Bydd yr arddangosfa hefyd yn cynnwys dros 150 o enillwyr Great Taste Award 2018 o Gymru.

 

Dywed Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, Lesley Griffiths AC,

“Mae’n wych gweld cystal cynrychiolaeth o Gymru yn y Speciality & Fine Food Fair eleni. Mae’n gyfle gwych i godi proffil ac enw da ein diwydiant ac mae’n tystio i’r twf diweddar parhaus rydym ni wedi’i weld mewn bwyd a diod o Gymru.

 

“Mae hefyd yn wych gweld cynifer o’n cynhyrchion yn cael eu cydnabod yng Ngwobrau Great Taste 2018. Mae’n hynod o galonogol bod ein hymrwymiad i ansawdd wedi’i gydnabod gan y beirniaid o’r Urdd Bwydydd Da uchel ei pharch. Mae’r gwobrau’n bwysig i arddangos ansawdd, arloesi a blas rhagorol gan gwmnïau o Gymru - mawr a bach. Hoffwn gymryd y cyfle hwn i’w llongyfarch i gyd ar eu llwyddiant.”

 

Mae’r Speciality & Fine Food Fair bellach yn ei 19eg flwyddyn, a dyma’r cynulliad blynyddol mwyaf dylanwadol o gynhyrchwyr a dosbarthwyr bwyd a diod artisan, arbenigol a moethus. Mae hefyd yn gyfle i ddysgu a chael eich ysbrydoli gan gogyddion blaenllaw a’r siaradwyr gorau yn y diwydiant. Cynhelir y digwyddiad yn Olympia Llundain rhwng 2 a 4 Medi gydag enillwyr y Fforc Aur o Gymru’n cael eu cyhoeddi ddydd Llun 3 Medi.

 

Dewch i ymweld â stondinau Cymru 1916/2016 a 1920/2020 yn y Speciality & Fine Food Fair 2018.

 

Mae rhestr lawn o ganlyniadau Gwobrau Great Taste 2018 i’w gweld yma.

 

Share this page

Print this page