Gan nad yw teithio rhyngwladol yn opsiwn ymarferol ar hyn o bryd oherwydd pandemig y Coronafeirws, mae cwmnïau bwyd a diod Cymru yn croesawu'r ffordd newydd o wneud busnes yn rhithwir.

Gyda'r nifer fwyaf o gynhyrchwyr wedi ymuno â'i rhaglen Ymweliad Datblygu Masnach rhithwir, mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi 25 aelod o’i Chlwb Allforio i fynychu dau Ymweliad Datblygu Masnach rhithwir sy'n targedu'r Swistir a Chanada ym mis Chwefror a mis Mawrth.

Mae'r Ymweliad Datblygu Masnach rhithwir yn rhoi cyfle unigryw i gynhyrchwyr wneud cysylltiadau â darpar brynwyr, dosbarthwyr a mewnforwyr mewn tameidyn o'r amser y mae Ymweliad Datblygu Masnach corfforol yn galw amdano.

Mae gan bob cwmni sy'n cymryd rhan amserlen fanwl o alwadau un i un gyda phartner yn y farchnad, ac yna sesiwn friffio ar y farchnad a chyfarfodydd un i un gyda phrynwyr, mewnforwyr a dosbarthwyr sydd wedi eu cymeradwyo ymlaen llaw, a’r cyfan yn cael ei wneud drwy gyfleusterau fideo-gynadledda.

Mae Asher Flowers, sylfaenydd cwmni cyffeithiau crefftus Rogue o dde Cymru, yn un o’r cynhyrchwyr sy'n cymryd rhan yn y ddau ymweliad rhithwir,

"Dros y flwyddyn ddiwethaf rydym ni wedi buddsoddi'n sylweddol yn ailfrandio Rogue a strategaeth hirdymor y brand. Mae'r cyfle hwn gan Lywodraeth Cymru yn anhygoel gan ein bod yn gallu esblygu ymhellach fyth. Mae allforio wastad wedi bod yn uchelgais enfawr i'r busnes ac rydym ni’n llawn cyffro i feithrin cysylltiadau masnach â'r Swistir a Chanada. Byddwn yn canolbwyntio ar gyfanwerthwyr a siopau annibynnol arbenigol ac rydym ni’n hyderus bod awydd gwirioneddol am Rogue."

Mae allforio yn arbennig o bwysig i ddiwydiant lletygarwch Cymru ar hyn o bryd mewn cyfnod mor heriol ac mae Russ Honeyman, Cyfarwyddwr Masnachol Bragdy Monty ym Mhowys yn ystyried y ddau ymweliad Datblygu Masnach rhithwir hyn yn hanfodol i'r busnes,

 "Mae hwn yn gyfle gwych i ehangu ein cyfleoedd allforio. Yn y cyfnod anodd hwn yn y farchnad gartref gyda thafarndai a bariau ar gau, drwy gymryd rhan mewn Ymweliad Datblygu Masnach rhithwir gallwn roi ein cynnyrch gerbron marchnadoedd eraill heb fod angen teithio. Mae'n ffordd newydd o wneud busnes dramor ac rwy'n edrych ymlaen at weld y canlyniadau".

Mae Andy Mallows, Rheolwr Gyfarwyddwr Distyllfa Castell Hensol ym Mro Morgannwg yn un arall sy'n gobeithio darganfod cysylltiadau allforio newydd,  

"Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ddiwydiant bwyd a diod Cymru gyda llif o gynhyrchion newydd ac arloesol yn dod i'r farchnad ac rydym ni yn Nistyllfa Castell Hensol yn falch o chwarae ein rhan i helpu Cymru i sefydlu ei hun yn gadarn ar lwyfan bwyd a diod y byd.

"Rydym ni eisoes yn allforio i Awstralasia ac mae ein marchnadoedd targed allforio yn y dyfodol yn cynnwys Gogledd America, yr Ariannin, Japan a gwledydd Ewropeaidd penodol. Mae gwasgariad wedi arwain at bobl Cymru bellach yn gweithio ac yn byw ym mhob cwr o’r byd a thrwy fentrau fel rhaglen Ymweliad Datblygu Masnach Llywodraeth Cymru rydym ni’n gobeithio dod â blas o Gymru i'r byd."

Mae'r DU wedi llofnodi cytundeb masnach gyda'r Swistir, tra bydd cytundeb masnach y DU a Chanada yn sicrhau masnachu di-dariff ar 98% o nwyddau.

Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig:

"Mae sector bwyd a diod Cymru wedi ymateb i'r argyfwng presennol gydag ysbryd nodweddiadol arloesol, a pharodrwydd i fanteisio ar ffyrdd newydd o weithio.

"Yn ystod pandemig byd-eang Covid-19, mae teithio rhyngwladol wedi dod yn llai a llai o opsiwn ymarferol i'n hallforwyr – fodd bynnag, mae ein rhaglen Ymweliad Datblygu Masnach rhithwir wedi cynnig dewis amgen cynyddol ddeniadol i gwmnïau a allai orfod aros yn eu gwledydd cartref, ond sy'n dal yn benderfynol o dynnu sylw cynulleidfaoedd rhyngwladol at eu cynnyrch.

"Felly, rwy'n falch iawn o nodi cefnogaeth Llywodraeth Cymru i fusnesau gyda’r Ymweliadau Datblygu Masnach diweddar, a byddwn yn parhau i gefnogi eraill yn y sector i wneud yr un peth yn y dyfodol.”

Y Swistir yw wythfed marchnad allforio fwyaf y DU ac un o bartneriaid masnachu agosaf y DU. Roedd cyfanswm y fasnach rhwng y DU a Chanada yn werth £19.9 biliwn yn y pedwar chwarter hyd at ddiwedd chwarter cyntaf 2020.

Mae nifer o gwmnïau'n cymryd rhan yn y ddau ymweliad datblygu masnach. Ymhlith y cwmnïau o Gymru sy'n chwilio am gyfleoedd allforio newydd mae Rogue, The Lobster Pot, Halen Môn, Monty's Brewery, Hensol Castle Distillery, Boss Brewing, Castle Dairies, Clydach Farm, Henllan Bakery, CK Foods, Penderyn, Cradoc’s Savoury Biscuits, Dairy Partners, Volac, Calon Wen a SamosaCo.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi tri Ymweliad Datblygu Masnach rhithwir arall y flwyddyn ariannol hon hyd yma - Awstralia a Seland Newydd, y gwledydd Nordig a’r Emiraethau Arabaidd Unedig, sydd wedi arwain at bartneriaethau a gwerthiannau newydd i gwmnïau bwyd a diod o Gymru.

Cyn hynny, byddai cwmnïau bwyd a diod o Gymru, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, wedi teithio i'r gwledydd hyn i gyfarfod wyneb yn wyneb â phrynwyr a dosbarthwyr ar gyfer sesiynau briffio'r farchnad, samplu, cyfleoedd rhwydweithio ac ymweliadau â siopau.

Mae datgloi marchnadoedd newydd yn dod â hyd yn oed mwy o gyfleoedd i'r busnesau hyn nid yn unig i arddangos eu cynnyrch o ansawdd ledled y byd, ond hefyd i gynhyrchu mwy o refeniw a chynyddu elw.

 

Share this page

Print this page