Mae grŵp o ‘Sêr y Dyfodol’ o sector bwyd a diod Cymru wedi cael cyfle i arddangos eu cynnyrch yn ystod prif ddigwyddiad bwyd a diod Cymru - BlasCymru/TasteWales 2021.

Cynhaliwyd y digwyddiad ar gyfer y diwydiant cyfan yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru yn y Celtic Manor, Casnewydd ar 27-28 Hydref.

Roedd BlasCymru/TasteWales yn cynnwys dros 100 o gynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru a fanteisiodd ar y cyfle i gyflwyno dros 200 o gynhyrchion newydd i rai o gysylltiadau pwysicaf y diwydiant.

Roedd digwyddiad blaengar Llywodraeth Cymru’n dod â busnesau, cyflenwyr a chwmnïau o bob rhan o’r sector bwyd a diod yng Nghymru ynghyd. Rhoddodd y digwyddiad deuddydd gyfle iddynt arddangos eu cynnyrch, darganfod nwyddau newydd a meithrin cysylltiadau.

Un rhan o’r digwyddiad oedd ardal ‘Sêr y Dyfodol’ a gydlynwyd gan Cywain – prosiect Menter a Busnes sy’n cefnogi datblygiad busnesau o fewn y sector bwyd a diod yng Nghymru sydd â’u bryd ar dyfu. Mae prosiect Cywain hefyd yn hwyluso’r Clystyrau Bwyd Da, Bwyd Môr a Mêl.

Mae dros 950 o fusnesau wedi cofrestru gyda’r prosiect ar hyn o bryd, sy’n cynnig ystod eang o gefnogaeth. Mae’r gefnogaeth hon yn amrywio o gymorth datblygu cynnar drwy raglen Cywain Micro, i gymorth ar gyfer cwmnïau sydd eisoes wedi sefydlu drwy’r rhaglen Glystyrau.

Roedd yr ardal ‘Sêr y Dyfodol’ wedi’i llunio’n benodol ar gyfer busnesau sy’n datblygu ac sydd â photensial sylweddol i dyfu, ac roedd yn gyfle gwych i gynhyrchwyr sy’n awyddus i ddatblygu eu cwmnïau i’r cam nesaf. Roedd hefyd yn gyfle i’r rhai a fu’n cymryd rhan yn ‘Her Ehangu’ Cywain yn ddiweddar i roi eu sgiliau newydd ar waith.

Roedd naw o’r cwmnïau ‘Sêr y Dyfodol’ wedi cymryd rhan yn ‘Her Ehangu’ Cywain yn ddiweddar. Roedd y rhaglen yn cael ei chyflwyno dros chwe sesiwn wythnosol dan arweiniad mentoriaid a siaradwyr arbenigol Cywain. Derbyniodd y cwmnïau a fu’n cymryd rhan lawer o gyngor ymarferol i’w cynorthwyo i dyfu eu mentrau a datblygu hyder masnachol.

Y rhain oedd: Cardiff Distillery Ltd, Coffi Eryri, Derw Coffee Ltd, Do Goodly Foods Ltd, Ffa Da, Gwenynfa Penybryn Apiary, Peterston Tea Estate, The Fudge Foundry a Treganna Gin.

Dywedodd Manon Llwyd Rowlands, Cyfarwyddwr Cywain, “Rwy’n falch bod cymaint o gleientiaid Cywain wedi manteisio ar y cyfle i fod yn rhan o ddigwyddiad BlasCymru/TasteWales 2021.

“Y gobaith yw y bydd busnesau’n gallu defnyddio’r wybodaeth a’r hyder a ddatblygwyd fel rhan o’r ‘Her Ehangu’, ynghyd â’r cysylltiadau a’r cyfleoedd amhrisiadwy a gyflwynwyd yn ystod y digwyddiad bwyd a diod blaengar hwn i roi hwb i ddatblygu eu busnesau ymhellach.

“Rwy’n gobeithio y bydd y cynhyrchwyr a fydd yn ymuno â ni’n ddiweddarach y mis hwn ar gyfer ail gyfres yr ‘Her Ehangu’ yn cael cymaint o fudd o’r broses wrth iddynt dyfu eu busnesau.

Bu Lesley Griffiths, Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru a’r Trefnydd, yn ymweld â’r ardal ‘Sêr y Dyfodol’.

Dywedodd y Gweinidog: “Roedd yn wych cwrdd â rhai o Sêr y Dyfodol o Her Ehangu Cywain a ddatblygwyd I helpu I alluogi ein cynhyrchwyr bwyd a diod gwych o Gymru I dyfu eu busnesau.

“Mae’r prosiect hefyd yn allweddol wrth adeiladu hyder masnachol ac o siarad â rhai o’r busnesau fu’n cymryd rhan mae’n amlwg wedi bod o fudd iddynt.

“Rwy’n dymuno’r gorau iddyn nhw nawr ac ar gyfer y dyfodol.”

Share this page

Print this page