Yn ddiweddarach y mis hwn, bydd blasau o Gymru’n cael eu cyflwyno i gynulleidfa gyhoeddus sy’n hoff o deithio mewn gŵyl fwyd sydd wedi ei hanelu at ddefnyddwyr sy’n awyddus i flasu bwyd o bob rhan o’r byd.
Bydd cynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru’n arddangos yng Ngŵyl Fwyd y Teithiwr National Geographic (Gorffennaf 15 ac 16) dan nawdd Bwyd a Diod o Gymru Llywodraeth Cymru ar stondin C2 (llawr cyntaf).
Ar y stondin o Gymru fe fydd amrywiaeth o fwyd a diod gan Radnor Preserves, Grounds For Good, Cwm Farm Charcuterie Products, Rogue Welsh Cakes Mydflower, a Derw Coffee.
Bydd y feicro-ddistyllfa Still Wild Drinks o Sir Benfro hefyd yn arddangos, wedi’u lleoli yn ardal Farchnad yr ŵyl.
Bydd y cynhyrchwyr yn cynnig samplau i ymwelwyr eu blasu cyn prynu, yn ogystal â manylion ynghylch sut y gellir prynu eu cynnyrch ar-lein a’u derbyn drwy'r post.
Bydd yna hefyd arddangosfa o gynnyrch o Gymru sydd â statws Dynodiad Daearyddol y DU - diogelwch cyfreithiol o ganlyniad i’w tarddiad a dilysrwydd - yn cynnwys caws Caerffili/Caerphilly Cymreig Traddodiadol (sydd â Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig) gan Gaws Cenarth.
Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog dros Faterion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd: “Mae hanes a diwylliant Cymru bob amser wedi denu a chyffroi ymwelwyr o bob rhan o'r byd, ac mae ein bwyd a diod o ansawdd uchel yn rhan allweddol o hyn.
“Mae Gŵyl Fwyd y Teithiwr National Geographic yn rhoi cyfle da i ni arddangos ein cynnyrch gwych o Gymru i gynulleidfa ryngwladol.
“Rwy’n dymuno digwyddiad llwyddiannus iawn i’r cwmnïau o Gymru sy’n mynychu.”
Mae’r digwyddiad, sy’n cael ei gynnal yn y Business Design Centre yn Islington, Llundain, yn denu aelodau o’r cyhoedd sy’n hoffi teithio ac sy’n awyddus i brofi blasau a lleoedd newydd o bob rhan o’r byd, yn cynnwys De America, Asia, Ewrop, Affrica, Gogledd America, Awstralasia, a’r Dwyrain Canol.
Bydd cogyddion ar draws y cyfandiroedd yn arddangos ystod o brydau rhyngwladol, a bydd awduron bwyd sy’n adnabyddus yn rhyngwladol yn rhannu straeon am eu teithiau a’r hyn sy’n eu hysbrydoli.
Mynychodd mwy na 6,000 o ymwelwyr - yn cynnwys awduron, blogwyr, a phrynwyr y diwydiant bwyd a diod - y digwyddiad y llynedd - gan flasu bwydydd o mor bell â Louisiana, y Seychelles, Ecuador a Montenegro.
Mae pleserau eleni’n cynnwys arddangosfa o brydau bwyd o Bortiwgal, Azerbaijan, a’r Amazon.
Dyma’r trydydd tro i Joanna Morgan o Radnor Preserves sydd wedi ennill sawl gwobr fynychu Gŵyl Fwyd y Teithiwr National Geographic. Mae hi wedi arddangos yn y digwyddiad ers y cychwyn yn 2019 ac mae ei chynnyrch ar gael mewn sawl manwerthwr bwyd a diod mawreddog yn Llundain.
Dywedodd Joanna, “Mae’n wych cynrychioli Cymru ar lwyfan y byd a chwrdd ag archwiliwyr archwaeth Gŵyl Fwyd y Teithiwr National Geographic o bob rhan o’r byd. Rwy’n edrych ymlaen at weld yr ymwelwyr rheolaidd hefyd: y llynedd, roedd rhai cwsmeriaid o’r Unol Daleithiau wrth eu bodd yn ailgysylltu gan eu bod wedi prynu peth o’n Gin Pinc Marmalêd wedi ei Dorri â Llaw yn y digwyddiad cyn y pandemig ac eisiau ail stocio!
“Mae bwyd a diod yn gyflwyniad mor dda i Gymru a’i thirwedd hardd - mae ein Marmalêd Pumlumon wedi ei Dorri â Llaw, wedi'i drwytho â blodau eithin y mynydd, wedi ysbrydoli ymwelwyr i gerdded Pumlumon Fawr, y mynydd uchaf o Fynyddoedd Cambria.