Bydd cynhyrchwyr mêl o Gymru’n gwneud eu hymddangosiad cyntaf yn hwyrach y mis hwn yn un o ddigwyddiadau bwyd a diod mwyaf y DU – y BBC Good Food Show (Tachwedd 25ain-28ain).

Bydd Bee Welsh Honey, Gwenynfa Pen y Bryn Apiary a Mêl Gwenyn Gruffydd yn arddangos eu cynnyrch yn y digwyddiad defnyddwyr mawr yn yr NEC yn Birmingham.

Mae’r tri’n enillwyr y Great Taste Award, ac yn cymryd rhan dan nawdd Rhwydwaith Clwstwr Mêl Bwyd a Diod Cymru, sydd hefyd yn ymddangos yn y BBC Good Food Show am y tro cyntaf.

Yn rhan o fenter Rhwydwaith Clwstwr Bwyd a Diod Cymru, sy’n meithrin cysylltiadau rhwng busnesau o fewn y sector, mae’r Clwstwr Mêl yn cael ei hwyluso gan Cywain. Mae’r cynllun hwn yn cefnogi datblygiad busnesau sy’n canolbwyntio ar dwf o fewn y sector bwyd a diod yng Nghymru.

Yn ôl Haf Wyn Hughes, Arweinydd Clwstwr Mêl Cymru, “Mae cael tri chwmni mêl o Gymru’n masnachu mewn digwyddiad proffil uchel yn destun balchder mawr.”

“Mae angen amser i baratoi a masnachu ar y lefel hon, ac mae’r cwmnïau yma wedi gweithio’n brysur iawn yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Maen nhw bob amser yn barod i drafod eu cynnyrch arbennig a’u gwenyn, mae ganddyn nhw’r awch ac egni i lwyddo ac maen nhw’n angerddol am eu cynnyrch. Felly, rwy’n hynod o falch eu bod wedi derbyn y cyfle cyffrous hwn i arddangos gyda’r Clwstwr Mêl mewn sioe defnyddwyr mor flaenllaw. “Hefyd, o safbwynt defnyddwyr, mae’r galw am fêl blodau gwyllt a grug Cymreig mor uchel, felly mae’n amser delfrydol i ymwelwyr â’r BBC Good Food Show i lenwi eu cypyrddau dros y gaeaf a phrynu’r anrhegion arbennig hynny ar gyfer y Nadolig.”

Cwmni Bee Welsh Honey

Mae gan Shane Llewellyn-Jones, sydd â’i ddiddordeb mewn gwenyn yn ymestyn yn ôl i’w blentyndod, dros 150 o gychod mewn gwenynfeydd ledled Canolbarth Cymru.

Dros y blynyddoedd, mae wedi mireinio’i sgiliau cadw gwenyn. Mae ei gwmni Bee Welsh Honey wedi derbyn nifer o wobrau, yn cynnwys y prif anrhydeddau yn Sioe Frenhinol Cymru ac yng ngwobrau Great Taste.

Dechreuodd ymwneud Shane â chynhyrchu mêl yn fasnachol wedi iddo ddechrau gwerthu’r mêl oedd dros ben ganddo mewn marchnadoedd ffermwyr. Y BBC Good Food Show fydd y digwyddiad mwyaf iddo’i fynychu hyd yn hyn a’r cyntaf y tu allan i Gymru

Gall ymwelwyr â’r BBC Good Food Show brynu amrywiaeth o gynnyrch Bee Welsh Honey, gan gynnwys mêl blodau’r gwanwyn a’r haf yn ogystal â diliau mêl, mêl darniog a mêl tafod yr ych a grug Cymreig. Mae pecynnau a hamperi hefyd ar gael.

Am fwy o wybodaeth: www.beewelshhoney.com

Gwenynfa Pen y Bryn Apiary  

Bydd Gwenynfa Pen y Bryn Apiary yn arddangos amrywiaeth newydd o sawsiau mêl yn y BBC Good Food Show.

Wedi’i lansio’r mis diwethaf yn nigwyddiad bwyd a diod blaenllaw Llywodraeth Cymru – Blas Cymru/Taste Wales 2021 – mae’r blasau saws newydd yn cynnwys Mêl a Mintys, Mêl a Llugaeron, a Mêl ac Afal.

Rhiwbob a Sinsir yw’r math diweddaraf i gael ei ychwanegu at ddewis jamiau mêl y cwmni, a lansiwyd yn y Fine Food Show North yn Harrogate yn ddiweddar. Mae’r dewis hefyd yn cynnwys blas mefus, mafon, eirin, eirin Mair, cyrens duon, a Marmalêd Mêl, a dderbyniodd wobr yng ngwobrau Great Taste 2020.

Mae’r teulu Edwards wedi bod yn cadw gwenyn ar eu fferm ger Dolgellau am bron i 100 mlynedd, traddodiad sy’n cael ei barhau gan Carys Edwards, a ddechreuodd gadw gwenyn pan oedd yn 12 mlwydd oed.

Yn ogystal â’u sawsiau mêl newydd, mae Gwenynfa Pen y Bryn Apiary yn cynnig llu o gynnyrch mêl yn yr NEC yn Birmingham, gan gynnwys saith blas jam mêl, tri math o fêl, gorchuddion cŵyr gwenyn, a phecynnau rhodd.

Am fwy o wybodaeth: www.penybrynhoney.com

Mêl Gwenyn Gruffydd

I’r fenter fêl o sir Gaerfyrddin, Mêl Gwenyn Gruffydd, hwn fydd y tro cyntaf iddynt wneud ymddangosiad mewn digwyddiad mawr o’r fath, yn ogystal â’u sioe defnyddwyr gyntaf y tu allan i Gymru.

Wedi dechrau fel diddordeb, mae’r busnes bellach yn un llawn amser i’r ffermwr gwenyn Gruffydd Rees, sydd wedi sefydlu’r cwmni arobryn gyda’i wraig, Angharad. Ymysg eu llwyddiannau mae sawl gwobr o wobrau Great Taste.

Gyda thros 100 o gychod ar hyd a lled De Cymru, menter deuluol yw hanfod Mêl Gwenyn Gruffydd, a’u bwriad yw cynhyrchu mêl tarddiad sengl o’r ansawdd gorau.

Bydd y ddau’n arddangos eu mêl grug Cymreig, mêl blodau gwyllt Cymreig, canhwyllau cŵyr cartref, a hamperi mêl yn y BBC Good Food Show.

 Am fwy o wybodaeth: www.gwenyngruffydd.co.uk

 

Share this page

Print this page