Wrth i Ddiwrnod Gwenyn y Byd agosáu (20 Mai) mae’r genhedlaeth nesaf o dalent wenynyddol yn cael ei meithrin gan ffermwyr gwenyn yng Nghymru drwy gynnig prentisiaethau.
Wedi'i ddynodi gan y Cenhedloedd Unedig, mae Diwrnod Gwenyn y Byd yn cydnabod rôl gwenyn a pheillwyr eraill mewn datblygiad cynaliadwy, diogelwch bwyd a bioamrywiaeth.
Dewiswyd y dyddiad i gyd-fynd â phen-blwydd Anton Janša, gwenynwr o Slofenia o'r 18fed ganrif sy'n cael ei gydnabod fel arloeswr cadw gwenyn.
Mae galw mawr am fêl Cymreig, ac yn ôl BeeBase yr Uned Wenyn Genedlaethol, cofrestrodd bron i 4,000 o wenynwyr o Gymru ar y llwyfan yn 2022. Hefyd, y llynedd (2023) cofnododd y Gymdeithas Ffermwyr Gwenyn tua 51 o gofrestriadau o Gymru.
Mae dau fusnes mêl o Gymru – Gwenyn Gruffydd Cyf a Border Honey – ar hyn o bryd yn hyfforddi prentisiaid, a fydd wedyn yn dechrau swyddi llawn amser.
Mae’r ddau fusnes yn aelodau o Glwstwr Mêl Bwyd a Diod Cymru, rhan o fenter Clystyru Llywodraeth Cymru sy’n meithrin cysylltiadau rhwng busnesau yn y sector.
Dywedodd Haf Wyn Hughes, Arweinydd y Clwstwr Mêl, “Mae’r Clwstwr Mêl yn ymroddedig i godi proffil a chynhyrchu mêl Cymreig a dod â ffermwyr gwenyn sydd â gweledigaeth fusnes ac uchelgais i dyfu ynghyd.
“Dyma’n union beth mae Border Honey a Gwenyn Gruffydd Cyf yn ei wneud yng Nghymru drwy eu hymagwedd flaengar ac uchelgeisiol. Trwy gynnig prentisiaethau, maen nhw’n meithrin y genhedlaeth nesaf o ffermwyr gwenyn – sy’n hanfodol i sector mêl Cymru ac yn gwarchod yr amgylchedd gwenyn mêl.
“Rydw i wedi gweithio ochr yn ochr â’r ddau gwmni dros y blynyddoedd drwy’r Clwstwr Mêl, ac mae’n wych eu gweld yn tyfu eu mentrau ac yn dod yn gyflogwyr. Maen nhw’n gweithio’n anhygoel o galed ac yn benderfynol o yrru sector mêl Cymru yn ei flaen. Mae eu gwaith yn y sector mêl a chadw gwenyn yn ysbrydoledig, ac mae’r Clwstwr Mêl yno i ddarparu cymorth, lle bo’n bosibl, iddyn nhw a’n holl aelodau.”
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca Davies, “Mae gwenyn yn hanfodol ar gyfer cynnal cynaliadwyedd amgylcheddol ein planed, ac mae’n briodol, wrth i Ddiwrnod Gwenyn y Byd agosáu, ein bod yn dathlu gwaith a chyflawniadau sector mêl Cymru. Mae darparu cyfleoedd gwaith a hyfforddiant, megis prentisiaethau, ar gyfer y genhedlaeth nesaf o wenynwyr yn hanfodol i helpu’r sector i fodloni’r galw cynyddol am fêl Cymreig.”
GWENYN GRUFFYDD CYF
Cafodd prentis Gwenyn Gruffydd Cyf, Andy Stead, ei flas cyntaf ar gynhyrchu mêl fel myfyriwr a oedd newydd raddio o Brifysgol Aberystwyth pan dreuliodd amser yn gweithio yn Wainwright’s Bee Farm.
Yn wreiddiol o Lundain, symudodd Andy yn ôl i Loegr i ddilyn gyrfa ym maes gwerthu, ond roedd yn hiraethu am weithio gyda gwenyn - a phenderfynodd ddod yn ôl i Gymru a dilyn gyrfa mewn ffermio gwenyn.
“Ces i rywfaint o brofiad mewn prosesu mêl wrth weithio yn Wainwrights, ond doeddwn i ddim wedi gweithio gyda gwenyn. Fe wnes i ddiwrnod hyfforddi yn Gwenyn Gruffydd, a phan glywais am y brentisiaeth, roeddwn i'n meddwl ei fod yn fater o nawr neu ddim,” meddai Andy (34), sydd bellach yn byw gyda'i deulu yn Sir Benfro.
“Rydw i yng nghanol ail fis fy mhrentisiaeth tair blynedd, ac mae’n mynd yn dda iawn. Mae’n dda gweld maint pethau a pha mor wahanol yw ffermio gwenyn i ffermio fel hobi, ac mae Gruff ac Angharad mor angerddol am gynhyrchu mêl o ansawdd uchel a gwenyn o safon.”
Dechreuodd Gruff ac Angharad Rees eu busnes yn 2010 fel dechreuwyr llwyr gyda dau gwch gwenyn. Bellach mae ganddyn nhw 400 ohonynt wedi’u lleoli o amgylch Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Cheredigion, sy’n cynnwys dau fath o wenyn – y Wenynen Ddu Gymreig frodorol a’r Buckfast.
“Mae aelodaeth o’r Clwstwr Mêl wedi helpu ein busnes i dyfu’n aruthrol i fod yn fusnes llawnamser”, meddai Gruff.
Mae twf y busnes wedi ysgogi’r angen am gymorth ychwanegol, a gydag Andy, mae’r fenter yn cefnogi pedwar aelod o staff llawn amser.
Meddai Gruff, “Rydym yn brin o staff, ac mae'n hynod brin cael prentis gan fod y rhan fwyaf o ffermydd gwenyn yn fand un person ac yn rhy fach i gyflogi pobl. Roedden ni'n gwybod bod angen rhywun arnom ni ac fe wnaethon ni gysylltu â’r Gymdeithas Ffermwyr Gwenyn, sy'n rhedeg cynllun prentisiaeth. Fe wnaethom hysbysebu trwy ein cyfryngau cymdeithasol, a derbyn tua saith cais.
“Fel busnes sy’n gweithredu o fewn ardal ARFOR*, rydym wedi bod yn ffodus i gael cymorth trwy Fenter Gyrfaol Llwyddo’n Lleol 2050 i helpu i ariannu rôl Andy am y 12 mis cyntaf, ac rydym yn ffodus i gael arweiniad y Clwstwr Mêl i adeiladu’r busnes ymhellach.
“Mae galw mawr am fêl y DU, ac mae gennym ni gyfle gwych. Mae yna farchnad wirioneddol ar gyfer cynhyrchu ‘blas o Gymru mewn jar’.”
BORDER HONEY
Yn ôl ei chyfaddefiad ei hun, pan oedd yn tyfu i fyny, nid oedd gan Ros Ellis ddiddordeb arbennig yng ngweithgareddau cadw gwenyn ei thad. Ond mae gweld y mwynhad mae ei rhieni, Alex a Nicky, yn ei gael o gydweithio yn yr hyn sydd wedi tyfu i fod yn un o gynhyrchwyr mêl mwyaf Cymru, wedi ysgogi Ros, sy’n 23 oed, i newid gyrfa a chychwyn ar brentisiaeth ffermio gwenyn gyda busnes ei theulu ger Wrecsam.
Meddai, “Wrth dyfu i fyny, doeddwn i byth yn meddwl bod ffermio gwenyn yn rhywbeth y byddwn i’n ei wneud – rydw i wrth fy modd bod y tu allan, ac es i weithio mewn ysgol saethu colomennod clai. Ond gwelais mam a dad yn cynhyrchu mêl gyda'i gilydd a faint maen nhw'n ei fwynhau, a meddyliais yr hoffwn fod yn rhan o hynny. Mae cymaint o bethau i’w dysgu, ac mae pob diwrnod yn wahanol.”
Ddeng mlynedd yn ôl, trawsnewidiodd hobi Alex i yrfa newydd, gan ei alluogi i dyfu'r busnes ochr yn ochr â rôl gyda’r Gymdeithas Ffermwyr Gwenyn. Darparodd symudiad yn 2016 le i fenter y teulu – Border Honey – i dyfu, ac eleni mae cyllid gan Lywodraeth Cymru wedi eu helpu i brynu offer newydd ar gyfer eu cyfleuster prosesu mêl sy’n ehangu.
Gan dyfu ei gynnyrch flwyddyn ar ôl blwyddyn, heddiw, mae Border Honey yn cynhyrchu tua 12 tunnell o fêl dros y tymor, y mae’n ei gyflenwi mewn swmp i fusnes pacio mêl mawr o Gymru ac i fusnesau bwyd a diod sy’n dymuno defnyddio mêl Cymreig neu Brydeinig yn eu cynhyrchion.
Dywed Alex, “Rydym yn weithrediad busnes-i-fusnes (B2B) i raddau helaeth, ac mae dwy ochr i’n busnes oherwydd yn ogystal â bod yn gyflenwr mêl swmp mae gennym weithrediad magu breninesau arbenigol a chynhyrchu breninesau ar gyfer rhai o’r ffermydd gwenyn mwyaf yn y DU.”
Mae’n credu bod cynlluniau hyfforddi a phrentisiaethau yn dda i fusnesau unigol a’r diwydiant mêl yn ei gyfanrwydd.
Meddai, “Mae annog a buddsoddi mewn pobl ifanc, sy’n dod ag egni a syniadau, yn dod â deinameg newydd i fusnes sydd wedi dyrchafu ein huchelgeisiau a chyflymu twf.”
Mae bod yn aelod o’r Clwstwr Mêl - gyda’r cyfleoedd a’r cymorth a gawsom - wedi bod yn bwysig i dwf y cwmni, meddai. Yn ei dro, mae Border Honey wedi cynnal ymweliadau ac wedi mentora cyd-aelodau, sydd hefyd wedi helpu i lunio cyfeiriad y cwmni.
Dywed Alex, “Mae cynaliadwyedd yn bwysig i ni. Rydym yn gyflogwyr cyflog byw gwirioneddol achrededig, a thrwy sgyrsiau Clwstwr, rydym hefyd yn edrych ar ddilyn ardystiad BCorp.”
Mae Ros, sydd newydd gwblhau ei blwyddyn gyntaf ar Gynllun Prentisiaeth y Gymdeithas Ffermwyr Gwenyn, yn ychwanegu at ei phrofiad ymarferol yn Border Honey gydag wythnosau hyfforddi preswyl rheolaidd, lle bydd yn datblygu ei gwybodaeth ymhellach.
Hefyd, bydd yn mynd i Seland Newydd yn gynnar y flwyddyn nesaf i ddysgu am gynhyrchu mêl Manuka. “Mae’n gyffrous,” meddai, “a bydd yn ysbrydoledig iawn gan fod gan y fferm wenyn y byddaf yn gweithio arni 10,000 o gychod gwenyn.”
Nawr ei bod wedi canfod ei hangerdd, mae Ros eisoes wedi nodi ei maes arbenigol. “Rwyf wrth fy modd â’r ochr magu breninesau o bethau yn benodol,” meddai, “a byddwn wrth fy modd yn helpu i ddatblygu hynny ymhellach a gweld pa mor bell y gallwn fynd yn y dyfodol.”