Mae’r grŵp yn cynnwys 44 o gwmnïau bwyd a diod o Gymru a fydd yn mynychu’r Farm Shop & Deli Show 2024 a gynhelir yn yr NEC yn Birmingham rhwng 29 Ebrill a 1 Mai. Bydd y digwyddiad yn gyfle gwych i gwmnïau sefydledig a sêr newydd o Gymru arddangos eu cynhyrchion i gynulleidfa genedlaethol.

Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, bydd 13 o gwmnïau bwyd a diod adnabyddus Cymru yn arddangos ym Mhafiliwn Llywodraeth Cymru yn y sioe. A, gydag 20 o sêr newydd ac addawol o Gymru yn arddangos fel rhan o stondin Arddangos Cywain, tra bydd 11 cwmni arall o Gymru yn arddangos am ddiwrnod yn ystod y sioe ar stondin Masnachu Prawf Cywain, a bydd y cwmnïau hyn yn newid bob dydd.

Dywedodd Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies AS,

“Mae The Farm Shop & Deli Show yn cynnig cyfleoedd heb eu hail i gwmnïau o Gymru arddangos safon ac arloesedd eithriadol eu cynnyrch. Mae’r digwyddiadau hyn yn hanfodol i hyrwyddo cynhyrchion Cymreig ac atgyfnerthu enw da Cymru am ansawdd ac arloesedd mewn bwyd a diod.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi ein cynhyrchwyr, gan sicrhau bod ganddyn nhw’r llwyfannau angenrheidiol i lwyddo a chyfrannu at enw da Cymru fel lle o gynnyrch naturiol eithriadol. Rydyn ni wedi ymrwymo i’w helpu i ffynnu yn y marchnadoedd pwysig hyn a pharhau i adeiladu ar enw da Cymru.”

Ymhlith y cynhyrchwyr Cymreig sy’n arddangos fel rhan o Bafiliwn Llywodraeth Cymru mae Calon Wen Organic Dairy, Cradoc’s Savory Biscuits Ltd, Crwst Ltd, Golden Hooves, Hive Mind Mead & Brew Co, Hufen Iâ Mario’s, Morning Foods, Rural Foodies Ltd/Coco Pzazz, Snowdonia Cheese Company Ltd, Halen Môn, Waffls Tregroes, Welsh Hills Bakery a Welsh Lady Preserves.

Bydd yr 31 cwmni o Gymru sy’n rhan o’r arddangosfa dan gefnogaeth Cywain, prosiect a ariennir gan Lywodraeth Cymru sy’n gweithio gyda chynhyrchwyr bwyd a diod ledled Cymru, gan eu helpu i dyfu a datblygu eu busnesau, yn cynnwys cynhyrchion o alcohol, coffi, te, siocled, cawsiau ac olew had rêp i gyffeithiau, sawsiau a sbeisys.

Wrth sôn am fod yn rhan o ddirprwyaeth Llywodraeth Cymru, dywedodd perchennog Halen Môn, Alison Lea-Wilson,

“Rydyn ni wedi mynychu’r Food & Drink Expo sawl gwaith ac mae wastad yn gymysgedd diddorol o bobl sy’n rhoi cyfle i ni gael y newyddion diweddaraf am y diwydiant bwyd a diod. Rydyn ni’n edrych ymlaen at ddal i fyny â’n cwsmeriaid presennol yn y Farm Shop & Deli Show eleni, ac yn llawn cyffro am y posibilrwydd o gwrdd â rhai newydd, yn enwedig cyflenwyr cynhwysion.

“Hwn hefyd yw ein tro cyntaf yma fel busnes B Corp, sy’n gam mawr i ni, ac rydyn ni’n lansio ein sôs coch Betys newydd, sy’n ychwanegu cyffyrddiad bywiog at ein detholiad o gynhyrchion.”

Bydd Cradoc’s Savory Biscuits Ltd yn cynnwys eu detholiad newydd Heb Glwten yn y Farm Shop & Deli Show, gyda chynhyrchion yn barod i’w harchebu ochr yn ochr â’u harlwy traddodiadol. Mae’r cwmni hefyd yn falch o gyrraedd rownd derfynol categori Busnes Bwyd a Diod Crefftus y Flwyddyn yng Ngwobrau Bwyd a Diod Cymru 2024.

Wrth fyfyrio ar flwyddyn o arloesi a thwf, dywedodd Allie Thomas o Cradoc’s Savory Biscuits,

“Roedd 2023 yn flwyddyn hollbwysig i Cradoc’s. Cychwynnon ni ar daith o drawsnewid, gan ddechrau gyda diweddariad sylweddol i'n pecynnu, sef ein prif adnodd gwerthu ac rydyn ni’n buddsoddi cymaint â phosibl mewn diogelu dilysrwydd brand Cradoc’s. Arweiniodd gweithio gyda Chanolfan Diwydiant Bwyd Zero2Five at welliannau sy'n berthnasol i'n cwsmeriaid, gan bwysleisio ein statws Gweithgynhyrchu Carbon Sero Net a'n hymdrechion i fod yn gynaliadwy.

“Rydyn ni wedi cael sêl bendith ar gyfer ein becws di-glwten newydd yn ddiweddar, sy’n dyst i’n hymrwymiad i gynhwysiant ac arloesedd. Rydyn ni’n edrych ymlaen at weld beth mae’r bobl sy’n ymweld â’r sioeau hyn yn ei feddwl o’n tri cracer di-glwten newydd â blas: Rhosmari a Garlleg, Sinsir Tsili a Chwmin a Chaws Cheddar a Chennin Syfi.”

Ar ôl lansiad ailfrandio llwyddiannus ac ennill Gwobr Aur am eu Medd Traddodiadol yn y Farm Shop & Deli Show llynedd, mae Hive Mind Mead & Brew Co ar fin arddangos eu medd modern i gynulleidfa ehangach yn y sioe eleni.

“Mae ein presenoldeb yn y Farm Shop & Deli Show yn dyst i’n twf a’r galw sylweddol am ein cynnyrch dros y 5 mlynedd diwethaf, ond yn arbennig o fewn y 12 mis diwethaf pan wnaethon ni ddechrau gwerthu i Selfridges a 3 Bwyty Michelin”

Kit Newell, Cyd-sylfaenydd Hive Mind Mead & Brew Co.
 

“Roedd ailfrandio i Hive Mind Mead & Brew Co yn 2023 yn garreg filltir o’n cynnydd a’n hymrwymiad i foderneiddio medd. Eleni, dydyn ni ddim yn disgwyl arddangos ein cynnyrch i’r rhai sy’n anghyfarwydd â medd cyfoes yn unig; rydyn ni yma i greu cysylltiadau parhaol gyda manwerthwyr mwy a dosbarthwyr rhanbarthol, ac i ailddatgan ein perthynas â’r rhai sydd wedi ein cefnogi o’r cychwyn cyntaf.

Mae’r Farm Shop & Deli Show yn fwy na digwyddiad i ni - mae'n blatfform i brofi curiad y galon, i sicrhau bod ein cynnyrch berthnasol i dueddiadau cyfredol trwy adborth uniongyrchol gan ddefnyddwyr.”

“Mae ein llwyddiannau, fel ennill Gwobr y Fforch Aur i Gymru, yn symbolau o’n hymroddiad i ansawdd a blas. Yn ogystal â’n medd blaenllaw mewn arddull gwin a’n mathau pefriog modern, bydd ein medd arbennig ar gael, sy’n dathlu ac yn cefnogi elusennau gwenyn fel Bees For Development, wedi’i wneud gan ddefnyddio mêl o goedwigoedd yn Zambia. Ein Rym Mêl Sbeislyd, a lansiwyd ym mis Chwefror, yw’r ychwanegiad diweddaraf i’n teulu o gynhyrchion, ac rydyn ni’n methu aros i’w weld yn cael sylw haeddiannol.”

Hefyd, o fewn y Restaurant Show, bydd Dynodiad Daearyddol (cyflwyniad GI) a blasu yn digwydd ar y ‘Restaurant Stage’ rhwng 15:30 – 16:15 ar ddydd Llun 29 Ebrill.

Mae’r Farm Shop & Deli Show yn llawn dop o lansiadau newydd, mewnwelediadau ffres i’r diwydiant a bwyd a diod sy’n gosod tueddiadau i’ch helpu i ddod wyneb yn wyneb â’r bobl sy’n gyrru’r farchnad yn ei blaen yn 2024.

P’un a ydych chi’n siop fferm annibynnol, yn siop delicatessen, neu’n siop fwyd crefftus, gallwch helpu i dyfu eich busnes ynghyd â’ch angerdd yn y Farm Shop & Deli Show. Yn y sioe bydd yr holl syniadau mawr i'ch helpu i ddarganfod syniadau newydd ac awgrymiadau a thechnegau ymarferol i gynyddu eich elw gyda'n cyfres gyffrous o ddigwyddiadau a sesiynau byw. Bydd y sioe hefyd yn datgelu enillwyr Gwobrau Manwerthu’r Farm Shop & Deli Show 2024.

Bydd y Farm Shop & Deli Show yn cydredeg â’r Food & Drink Expo, y National Convenience Show, The Forecourt Show a The Restaurant Show yn 2024 fel rhan o Sioeau Bwyd a Diod y DU, gan ddwyn ynghyd y sectorau groser, manwerthu arbenigol, cyfanwerthu, gwasanaeth bwyd a lletygarwch o dan un to. Gyda dros 1200 o arddangoswyr a 25000+ o ymwelwyr â phum sioe dros dridiau, mae'r digwyddiad yn un y mae'n rhaid i unrhyw un yn y diwydiant bwyd a diod ymweld ag ef.

Ymhlith y cwmnïau eraill o Gymru sy’n cymryd rhan yn annibynnol yn y sioeau eraill mae Cygnet Distillery, Dewkes Ltd, Gasm Drinks, Heartsease Farm, Meadowvale Foods, Peter’s Food Ltd, Brain Blasterz a Celtic Frozen Drinks.

Dewch i weld y cwmnïau bwyd a diod Cymreig yn y Farm Shop & Deli Show o 29 Ebrill – 1 Mai:

  • Pafiliwn Llywodraeth Cymru | Neuadd 20 | Stondinau S160 & S170
  • Stondin Arddangos Cywain | Neuadd 20 | Stondinau S180, S190, S200
  • Stondin Masnachu Prawf Cywain | Neuadd 20 | Stondinau S200

I gael rhagor o wybodaeth am sut y gall Llywodraeth Cymru helpu eich busnes i gyrraedd marchnadoedd newydd drwy ddigwyddiadau masnach, ewch i https://businesswales.gov.wales/foodanddrink/cy/tyfu-eich-busnes/digwyddiadau-masnach.

Share this page

Print this page