Bydd yna amrywiaeth gyffrous o fusnesau bwyd a diod Cymreig newydd ac sy’n tyfu yn y Neuadd Fwyd yn Sioe Frenhinol Cymru eleni (22–25 Gorffennaf).

Bydd stondin Cywain (rhif 63) yn tynnu sylw at 14 o gynhyrchwyr addawol yn ystod y sioe, gan roi llwyfan iddynt brofi eu sgiliau masnachu ac arddangos eu cynnyrch i gynulleidfa o filoedd.

Mae prosiect Cywain yn gweithio gyda chynhyrchwyr bwyd a diod ledled Cymru, gan eu helpu i dyfu a datblygu eu busnesau.

Mae rhoi cyfle i gynhyrchwyr newydd brofi eu sgiliau manwerthu a’u cefnogi mewn digwyddiadau fel Sioe Frenhinol Cymru yn rhan o bortffolio cymorth busnes Cywain, gan gynnwys marchnata, datblygu brand, cymhwysedd masnachol, a chyllid.

Dywedodd Alex James, Rheolwr Rhaglen Cywain, “Mae’r Neuadd Fwyd yn Sioe Frenhinol Cymru yn arddangosfa hynod bwysig i gynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru ac, unwaith eto, rydym yn falch iawn o groesawu grŵp gwych o gynhyrchwyr i’r stondin.

“Ers 2018, mae mwy na 120 o fusnesau bwyd a diod o Gymru wedi cael sylw ar stondin Cywain yn Sioe Frenhinol Cymru a’r Ffair Aeaf. Mae sawl un wedi mynd ymlaen at bethau mwy – gan gynnwys cael stondinau unigol yn y Neuadd Fwyd – ac fel tîm, rydym bob amser wrth ein bodd yn gweld y cymorth maen nhw wedi’i gael yn cyfrannu at eu llwyddiant.”

 

CYNHYRCHWYR BWYD A DIOD CYMREIG SY'N ARDDANGOS AR STONDIN CYWAIN

 

DYDD LLUN, 22 GORFFENNAF

ANGLESEY FOODS

Ar ddiwrnod cyntaf y Sioe Frenhinol, bydd stondin Cywain yn eithaf ‘twym’ trwy garedigrwydd Anglesey Foods a'i amrywiaeth o fwydydd a chonfennau sbeislyd.

Er ei fod yn fusnes cymharol newydd, mae'r fenter sydd wedi'i lleoli yn y Gaerwen yn cael ei chefnogi gan fwy na 60 mlynedd o brofiad o ddatblygu a gweithgynhyrchu bwyd.

Mae’r fenter yn arbenigo mewn gweithgynhyrchu cynnyrch ei brand ei hun a label preifat, ‘Anglesey Foods’; ystod sy’n cynnwys confennau fel Chilli Jam, Fiery Hot Chilli Jam, a Mango Chilli, yn ogystal â siytni, pesto, ac iogwrt rhewedig a weinir yn feddal.

Rhagor o wybodaeth: mark@angleseyfoods.com

 

FUSSELL’S SPIRITS

Mae’r Floff Vanilla Vodka moethus, deniadol, melys a hufennog wedi’i ddistyllu a’i botelu â gofal yng Nghymru i sicrhau ei fod o safon bremiwm.

Mae’r gwirod yn cael ei gynhyrchu mewn sypiau bach gan Fussell’s Spirits, sydd wedi’i leoli ym Mhorthcawl, ac mae wedi’i wneud o fodca o ansawdd uchel a detholiad o berlysiau a sbeisys amrywiol, gan gynnwys blas cain a llyfn y fanila.

Mae'r ddiod newydd adfywiol hon yn fodca llyfn o safon sy'n berffaith ar gyfer ei sipian ar ei ben ei hun neu’i gymysgu i goctels er mwyn ychwanegu blas cynnil o felyster a chyfoeth.

Ar ôl deng mlynedd o waith ymchwil manwl, cyrchu, cyfuno, a blasu, sylweddolodd crewyr Floff eu hangerdd dros greu’r fodca fanila diffiniol o Gymru.

Rhagor o wybodaeth: www.fussellspirits.co.uk

 

MONMOUTHSHIRE FAYRE

Mae Monmouthshire Fayre yn fenter sy’n ymroddedig i arddangos y cynnyrch gorau o Sir Fynwy.

Fe’i sefydlwyd gan y ffermwyr Jessie a Chris Stephens, ac mae’r fenter wedi ymrwymo i gydweithio â ffermwyr lleol, gan sicrhau prisiau teg a gwneud bwyd a gynhyrchir yn lleol yn hygyrch i’r gymuned.

Ffurfir partneriaethau â ffermydd gan ddefnyddio arferion cyfannol ac adfywiol, gyda chynaliadwyedd yn flaenoriaeth. Gwneir yr holl gigyddiaeth yn fewnol.

Ar-lein, mae yna amrywiaeth o doriadau a bocsys o gig eidion, cig oen, a phorc ar gael, ynghyd â seigiau parod fel pasteiod bwthyn, pasteiod stêc a chwrw, a rholiau selsig.

Rhagor o wybodaeth: www.monfayre.co.uk

 

ROGUE WELSH CAKE COMPANY

Mae’r Rogue Welsh Cake Company yn ymfalchïo mewn rhoi ychydig o dwist i’r ffefryn amser te traddodiadol!

Sefydlwyd y cwmni yn swyddogol yn 2020, ond gellir olrhain taith Rogue yn ôl dros ddau ddegawd, pan wnaeth mam ddyfeisgar, mewn ymgais i syfrdanu ei phlant, gyfnewid cyrens am sglodion siocled – a dyma ddechreuad ein dull arloesol o goginio!

Mae arbrofi wedi dod yn nod masnach i Rogue, ac mae’r cwmni’n gwneud amrywiaeth o flasau sy’n cael eu gwerthu ar-lein ac ar ei stondin ym Marchnad Casnewydd.

Mae’r mathau’n cynnwys Siocled a Charamel Hallt, Menyn Pysgnau (figan), Bara Brith, a Chaws Geifr a Nionyn Caramelaidd. Tra bo pice ar y maen arbenigol – fel Siocled Gwyn a Macadamia, Tomato (wedi’i sychu yn yr haul) a Ffeta, a Marmit a Chaws – yn cael eu gwneud yn ôl yr archeb.

Rhagor o wybodaeth: www.roguewelshcakes.com

 

DYDD MAWRTH, 25 GORFFENNAF

TETRIM TEAS

Mae’r cwmni te llesol, Tetrim Teas, o Sir Gaerfyrddin yn harneisio buddion gwraidd riwbob a madarch Mwng Llew i lanhau'r corff a'r meddwl. Roedd y sylfaenydd, Mari Arthur, yn awyddus i sefydlu menter te iechyd ag iddi fodel busnes moesegol sy'n defnyddio cymaint o gynhwysion lleol a Chymreig â phosibl a deunydd pecynnu bioddiraddadwy ac ailgylchadwy.

Mae'r busnes teuluol nid-er-elw yn cynhyrchu ei gyfuniadau te yng Nghanolfan Gymunedol Trimsaran. Mae Tetrim Teas wedi sefydlu sawl prosiect lleol, gan gynnwys y Tŷ Te – Tea Hub, i ddod â phobl ynghyd dros baned o de.

Mae gwraidd riwbob a dyfir ar Ynys Môn yn cael ei gyfuno â the gwyrdd o safon, gwyddfid, a chynhwysion naturiol eraill i greu diod sy'n cynorthwyo lles, treuliad a cholesterol.

Mae Tetrim wedi dechrau tyfu madarch Mwng Llew ar gyfer ei de mewn tair uned ledled Cymru, ac maen nhw hefyd ar werth yn gyffredinol. Mae Mwng Llew yn cael ei adnabod fel 'madarch yr ymennydd' a gall helpu gyda straen, pryder, eglurder meddwl, a chanolbwyntio. Mae gan De Madarch Mwng Tetrim ddwy fersiwn hyfryd: Afalau Cymru a Sinamon, a Tsili, Sinsir a Chardamom. Mae'n gyfuniad hyfryd o gynhwysion naturiol aromatig.

Rhagor o wybodaeth: www.tetrimteas.cymru

 

ARAN HUFEN IÂ

Mae Aran Hufen Iâ, sy'n cael ei redeg gan deulu, yn gwneud hufen iâ artisan bendigedig sydd at ddant pawb.

Wedi'i ysbrydoli gan harddwch yr ardal leol, mae'r busnes wedi ymrwymo i ‘rannu blas o angerdd gyda phob sgŵp’. Gwerthir yr hufen iâ o'r parlwr ac mewn siopau manwerthu lleol a lleoliadau twristiaid.

Mae'r hud yn digwydd yn y parlwr hufen iâ yng nghanol y Bala, lle mae blasau clasurol fel fanila a siocled yn cael eu cynhyrchu ochr yn ochr â rhai fel Pistasio, Pinafal a Mefus, yn ogystal â hufen iâ crwybr cartref Aran Hufen Iâ.

Mae yna hefyd Chwippi Softerserve, ac i'r rhai nad ydyn nhw'n bwyta cynnyrch llaeth, mae yna opsiynau hufen iâ figan a sorbedau, gan gynnwys clasuron fel Mango a Granadila (passion fruit).

Rhagor o wybodaeth: www.aranhufenia.co.ukneu 07787425967

 

NONNA ASSUNTA LIQUEURS

Yn newydd sbon i'r farchnad, mae Nonna Assunta Liqueurs yn ystod gyffrous o wirodydd sy'n seiliedig ar rysáit teulu Eidalaidd sydd wedi’i throsglwyddo o un genhedlaeth i’r llall.

Lansiwyd y cwmni rai wythnosau’n ôl, ac mae’n ymfalchïo’n fawr yn ei ddewis o ‘wirodydd Eidalaidd wedi’u gwneud â llaw, eu dychmygu yn yr Eidal a’u gwneud yng Nghymru’.

Yn enwog am ei chynhesrwydd, ei haelioni, a’i brwdfrydedd, byddai Assunta yn gwneud ei Limoncello yn ei thref enedigol yn Napoli, yr Eidal. Heddiw, mae ei theulu’n parhau â’r traddodiad hwnnw yn Abertawe, lle mae dŵr Cymru, siwgr cansen naturiol, a lemonau, orenau, a leimiau wedi’u plicio â llaw’n cael eu troi’n ddewis gwych o wirodydd sy’n cael eu gweini orau wedi’u hoeri.

Ochr yn ochr â Limoncello (lemwn) melys, miniog ac awchus Nonna Assunta mae'r Arancello (oren) melys a sidanaidd, a’r Limecello miniog a thra awchus.

Rhagor o wybodaeth: Facebook: Nonna Assunta Liqueurs

 

WEDOUGHIT4U

Os ydych chi eisiau pitsas Eidalaidd o safon bwyty yn eich cartref, yna edrychwch ddim pellach na Wedoughit4u.

Mae Wedoughit4u, cwmni o ogledd Cymru, yn enwog am gyflenwi gwaelodion pitsa artisan o'r radd flaenaf, wedi'u hymestyn â llaw, i sector lletygarwch y DU. Mae'r gwaelodion hyn wedi'u creu gan ddefnyddio'r cynhwysion gorau, ac mae’r cwmni bellach yn cyflenwi’r un safon i gartrefi gyda’i becynnau ‘bag pitsa’.

Mae’r pecyn yn cynnwys gwaelodion pitsa wedi'u coginio’n rhannol a’u rholio a'u hymestyn ymlaen llaw; saws gwaelod pitsa wedi'i gymysgu’n oer, a chyfuniad o fosarela a chaws Cheddar aeddfed i greu pitsas gwych hyd at 12 modfedd o faint.

Caiff y toes ei greu gan ddefnyddio blawd Doppio Zero, burum byw, a dŵr cynnes wedi'i hidlo i roi'r hydwythedd sidanaidd, elastig sydd ei angen arno i wneud y pitsa perffaith. Yna caiff ei adael i godi teirgwaith cyn cael ei droi'n bitsa artisan â chrwst tenau.

Rhagor o wybodaeth: www.wedoughit4u.co.uk

 

DYDD MERCHER, 26 GORFFENNAF

DIRWEST

Wedi’i lansio fis diwethaf, bydd Dirwest, brand diodydd dialcohol newydd sbon, yn dod i stondin Cywain eleni.

Mae ‘dirwest’ yn golygu ‘ymatal rhag diodydd meddwol’, ac mae’r brand yn dathlu buddion dim alcohol a chyfoeth yr iaith Gymraeg a’i diwylliant.

Cynnyrch cyntaf y cwmni o Fro Morgannwg yw Yma o Hyd – IPA sydd ar gael mewn caniau 330ml ac sy’n “blasu fel y peth go iawn”, yn ôl adolygwyr. Mae Yma o Hyd yn ceisio manteisio ar y bwrlwm o amgylch pêl-droed Cymru trwy gynnig dewis modern, amgen i alcohol gyda thwist Cymreig.

Wedi’i anelu at bawb sy'n mwynhau diod – alcoholig neu ddialcohol – nid yw Dirwest yn cyfaddawdu ar flas, ac mae gan Yma o Hyd “chwerwder meddal sy'n ildio i flasau o ffrwythau trofannol a bragrwydd cytbwys”.

Mae Yma o Hyd ar gael mewn siopau manwerthu annibynnol ledled Cymru ac ar wefan Blas ar Fwyd.

Rhagor o wybodaeth: Facebook @dirwesta

 

BLASUS WELSH CAKES

Mae Blasus Welshcakes Ltd yn ymroddedig i gynhyrchu'r pice ar y maen gorau wedi'u gwneud â llaw.

Mae’r busnes arobryn sydd wedi’i leoli yng Nghaerfyrddin yn cynhyrchu ei bice ar y maen premiwm gan ddefnyddio’r cynhwysion gorau, sy’n dod o ffynonellau lleol, lle bynnag y bo modd.

Mae dewis Blasus yn cynnwys Pecan a Surop Masarn, Lemwn a Syltana, Gwirod Hufen Merlyn a Siocled Gwyn, ac, wrth gwrs, Pice ar y Maen Traddodiadol – archebwch ar-lein i'w danfon i garreg eich drws!

Mae’r busnes arobryn hefyd yn cynnig cyfle i’w gwsmeriaid goginio ei ddewis o bice ar y maen gartref neu eu mwynhau yn barod i’w bwyta. Mae'r pecynnau yn hawdd ac yn gyflym i'w defnyddio ac yn weithgaredd hwyliog i bob oed. Mewn dim o dro, bydd gennych chi blât o Bice ar y Maen blasus, cynnes! Ymhlith y blasau mae Almon a Cheirios, Siocled Triphlyg, ac Apricot a Chnau Ffrengig.

Rhagor o wybodaeth: www.blasuswelshcakes.co.uk

 

CÂR-Y-MÔR

Bydd fferm wymon a physgod cregyn adfywiol gyntaf Cymru, Câr-Y-Môr, yn dod â blas o arfordir Cymru i’r Neuadd Fwyd.

Yn fusnes sy'n eiddo i'r gymuned, mae Câr-Y-Môr yn Nhyddewi wedi ymrwymo i gael effaith gadarnhaol ar arfordir Cymru a'r gymuned leol. Ei nod yw datblygu arferion gwyrddach gan ddefnyddio adnoddau toreithiog a chynaliadwy o’r môr ac, ar yr un pryd, greu swyddi arfordirol drwy gydol y flwyddyn a gwella lles y gymuned.

Mae siop ar-lein y busnes yn cynnig amrywiaeth o gynhyrchion bwyd môr a gwymon Cymreig, o focsys blasu sy’n cynnwys cimychiaid, crancod, cregyn gleision a physgod cregyn, i olew clôr y môr a sawl math o wymon sych a chonfennau gwymon.

Bydd cynnyrch y cwmni, yn ogystal â samplau blasu a syniadau am anrhegion, ar gael ar y diwrnod.

Rhagor o wybodaeth: www.carymor.wales

 

THE DELL VINEYARD LTD

Yn swatio rhwng dyffrynnoedd Wysg a Gwy, mae'r Dell Vineyard yn cynhyrchu gwin arobryn.

Mae’r teulu Alford wedi bod yn ffermio’r tir yn Rhaglan ers pum cenhedlaeth a phlannwyd eu gwinllan yn 2022 gyda 5,000 o winwydd Pinot Noir a Solaris. Eleni, fe blannwyd dwy erw arall o winwydd – gan gynnwys mathau newydd o Cabaret Noir, Pinot Meurniere a Souvignier Gris. Mae’r winllan bellach yn rhychwantu pum erw ac 8,000 o winwydd.

Mae'r teulu hefyd yn rhentu ar brydles winllan sefydledig gerllaw sy’n cynnwys 1,700 o winwydd Pinot Noir, Seyval Blanc, a Phoenix.

Mae gwin y Dell yn cynnwys Y Gwyllgi (coch), Clidda Gawr (gwyn pefriog), Yr Afanc (gwyn) ac Y Lleidr – enillydd teitl y Gwin Rhosliw Llonydd Gorau yng ngwobrau Cymdeithas Gwinllannoedd Cymru 2023.

Rhagor o wybodaeth: www.thedellvineyard.co.uk

 

DYDD IAU, 25 GORFFENNAF

PLUMSTONE WELSH BAKES

Dechreuodd Plumstone Welsh Bakes o Sir Benfro fel menter bocs gonestrwydd lle byddai pobl leol a thwristiaid yn stopio i roi cynnig ar bice ar y maen blasus y myfyriwr Tom Wickens.

Dechreuodd y busnes yn gyflym, ac mae dewis Plumstone o bice ar y maen traddodiadol a thymhorol â blas bellach ar gael mewn siopau manwerthu lleol, ar-lein, mewn ffeiriau bwyd, ac mewn digwyddiadau. Mae te prynhawn a bocsys anrhegion hefyd yn boblogaidd.

Mae Plumstone Welsh Bakes bellach yn fusnes llawn-amser prysur ac wedi denu dilynwyr ffyddlon. Caiff y pice ar y maen hudol eu cynhyrchu mewn cegin gaban glyd ym mhentref Camros. Yma, mae Tom yn creu blasau newydd – fel lafant, lemwn, a siocled gwyn – ac mae mathau diglwten a figan hefyd ar gael.

Rhagor o wybodaeth: www.plumstonewelshbakes.com

 

CLWYDIAN RANGE DISTILLERY LTD

Mae CLWYDIAN RANGE DISTILLERY LTD eisoes wedi cael llwyddiant gyda’i Cariad Gin, ac mae ar fin profi llwyddiant pellach gyda diod arall – Cariad Vodka.

Wedi’i chynhyrchu yng nghanol Sir y Fflint gan ddefnyddio distyllwr copr traddodiadol, mae’r ddistyllfa deuluol yn defnyddio’r dŵr puraf a ddaw o odre mynyddoedd gogledd Cymru.

Fel ei chwaer-wirod, mae sawl math o Cariad Vodka – Lemon & Lime, Blackcurrant, Marmalade & Bay Leaf, ac, wrth gwrs, Pure & Simple – gyda’r holl flasau’n dal hanfod planhigion a fforiwyd yn lleol.

Rhagor o wybodaeth: www.cariadgin.co.uk

Share this page

Print this page