Mae gan ddiodydd Flawsome! reswm i ddathlu ar ôl sicrhau cytundeb busnes gyda manwerthwr archfarchnadoedd premiwm amlwladol yn y Dwyrain Canol.

Bydd cynhyrchion y cynhyrchydd diodydd o Gaerdydd, Flawsome!, sy'n gwneud sudd oer o ffrwythau a llysiau amherffaith, ar gael i'w prynu yn siopau adnabyddus Spinneys yn yr Emiradau Arabaidd Unedig. Mae'r newyddion diweddaraf hwn yn hwb mawr i'r cwmni ar adeg mor heriol ac ansicr i bob cynhyrchydd bwyd a diod.

Y mis nesaf, bydd tua 28 o siopau yn gwerthu detholiad swigod ysgafn Flawsome! sy'n cynnwys suddion oer Afal a Riwbob, Afal Melys a Sur, ac Afal a Cheirios yn ogystal â'u sudd Afal ac Oren, Afal a Mefus, Afal a ‘Superberry’ mewn poteli gwydr 750ml.

Sicrhawyd y fargen yn gynharach eleni yn dilyn ymweliad â Gulfood, un o ddigwyddiadau masnach bwyd a diod mwyaf y byd, a gynhelir bob blwyddyn yn Dubai. Yno fel rhan o ddirprwyaeth Llywodraeth Cymru o dan faner Cymru (y DU), cafodd cynhyrchwyr gyfle i gyfarfod â phrynwyr a dosbarthwyr yn y gobaith o sicrhau cyfleoedd busnes newydd.

Sefydlwyd Flawsome! gan y cwpl Maciek a Karina a gyfarfu yn 2013. Agorodd taith i fferm leol lygaid y sylfaenwyr i'r broblem gwastraff bwyd – yn benodol yr effaith ddinistriol mae safonau esthetig gormodol a osodir gan archfarchnadoedd yn ei chael ar y bwyd rydyn ni’n ei fwyta. O ganlyniad, dechreuon nhw edrych ar opsiynau mwy cynaliadwy na photeli plastig untro.

Pan ddysgodd y cwpl am wastraff bwyd a phlastig, penderfynon nhw gymryd ryseitiau blasus eu nain a thrawsnewid ffrwythau a llysiau amherffaith yn ddiodydd oer perffaith.

Mae Karina Sudenyte, Cyd-sylfaenydd Flawsome! wrth ei bodd gyda'r cyhoeddiad diweddar, a dywedodd,

"Er gwaethaf yr ansicrwydd sy'n deillio o Brexit a phandemig Covid-19, mae sicrhau busnes tramor yn hwb gwych i’n hyder ni. Rydyn ni’n ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am eu cefnogaeth ac yn gwerthfawrogi'r manteision y gallan nhw eu cynnig i ni fel cwmni wrth i ni gwrdd â darpar brynwyr a dosbarthwyr newydd.

"Cwrddon ni â phrynwyr Spinneys mewn digwyddiad cwrdd â phrynwyr tra'n mynychu Gulfood ym mis Chwefror, a datblygodd popeth o'r fan honno. Mae hwn yn gyfnod cyffrous iawn i ni fel cwmni. Rydyn ni eisiau gwneud pobl eraill mor frwd dros ddiodydd crefft cynaliadwy â ni."

Mae digwyddiad Gulfood yn Dubai yn un o gyfres o ddigwyddiadau masnach rhyngwladol lle mae Llywodraeth Cymru yn helpu cwmnïau bwyd a diod i arddangos. Yn ôl Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, mae'n ffordd amhrisiadwy o gynyddu potensial allforion Cymru a chefnogi'r economi,

"Mae hyn yn newyddion gwych i Flawsome! Rydyn ni wedi ymrwymo adnoddau sylweddol dros y blynyddoedd i gefnogi ein cynhyrchwyr bwyd a diod yng Nghymru mewn digwyddiadau allweddol fel Gulfood, ac mae'n wych gweld canlyniadau cadarnhaol fel y rhain, yn enwedig yn ystod y cyfnod heriol hwn.

"Rydyn ni’n parhau i gefnogi ein cynhyrchwyr i ddatblygu gwerthiant mewn marchnadoedd tramor er gwaethaf diffyg digwyddiadau masnach corfforol ers Covid-19.  Mae ein hymweliadau masnach rhithwir yn llwyddiannus iawn a byddan nhw’n helpu mwy o fusnesau fel Flawsome! i barhau i ennill cwsmeriaid newydd mewn marchnadoedd newydd.

Am ragor o wybodaeth am Flawsome! a’u detholiad o gynhyrchion, ewch i flawsomedrinks.com/

 

Share this page

Print this page