Mae'r cynhyrchydd mêl o'r Drenewydd, Hilltop, wedi cael ei gydnabod fel un o'r cwmnïau sy'n tyfu gyflymaf yng Nghymru ar Restr Fast Growth 50 Cymru, 2020.

O'r rhestr o 50 o gwmnïau, sydd gyda'i gilydd yn cynhyrchu £476m mewn refeniw ac yn cyflogi bron i 2,600 o bobl yn 2019, roedd Hilltop yn rhif 20 gan hyrwyddo twf o 194.8% (2017-2019).

Lansiwyd Fast Growth 50 Cymru ym 1999 gan yr Athro Dylan Jones-Evans, a dyma’r arweiniad swyddogol i'r cwmnïau cynhenid sy'n tyfu gyflymaf yn economi Cymru. Y ffactor sy'n penderfynu a yw cwmni’n cael ei gynnwys yw twf refeniw o 2017-19 ac mae gofyn bod cwmni wedi cyflawni gwerthiant o o leiaf £250,000.

Mae Hilltop hefyd wedi cyrraedd rhif 26 yn 24ain cynghrair flynyddol y Sunday Times Virgin Atlantic Fast Track 100 sy'n rhestru cwmnïau preifat Prydain sydd â’u gwerthiannau’n tyfu gyflymaf. Mae Hilltop wedi tyfu eu gwerthiant 79% y flwyddyn i £11.7m yn y flwyddyn hyd at fis Awst, gyda chymorth defnyddwyr fu’n prynu llawer pan darodd y pandemig y tro cyntaf.

Eleni, ailfrandiodd Hilltop Honey fel Hilltop gydag edrychiad a logo newydd sbon, a dechrau cynhyrchu suropau masarn. Mae ei surop masarn hyfryd a rhedegog yn gwbl naturiol, ac yn dod mewn potel hawdd ei chwistrellu, y gellir ei hailgylchu. Mae'r blas, y lliw a'r arogl yn amrywiol iawn o dymor i dymor, wrth i'r blas masarn aeddfedu dros amser. Mae'r blasau'n cynnwys Ambr a Chyfoethog neu Dywyll a Chryf Iawn.

Mae Hilltop wedi'i leoli mewn cyfleuster 14,000 troedfedd sgwâr yn y Drenewydd, canolbarth Cymru ac mae'n cyflogi 51 o staff. Mae'r cwmni'n cynhyrchu brand o fêl pur a naturiol gyda'r genhadaeth gyffredinol o helpu cwsmeriaid i ddysgu bod 'mwy i fêl'.

Dechreuodd y busnes yn 2011, ar ôl i'r perchennog a'r sylfaenydd Scott Davies ddarganfod ei frwdfrydedd dros gadw gwenyn fel modd o therapi yn dilyn anaf i'w gefn a'i adawodd yn methu parhau â'i natur llafurus flaenorol o waith. Yn ystod y cyfnod hwn, cafodd Scott ei gwch gwenyn cyntaf fel anrheg pen-blwydd a datblygodd ddiddordeb mawr mewn gwenyn. Dechreuodd werthu mêl i ffrindiau ac i siopau lleol, yna ar ôl dwy flynedd dechreuodd gyflenwi siopau fferm a delis ar draws y wlad.

"Rydym ni’n hynod falch bod Hilltop wedi'i gynnwys yn y 50 busnes sy'n tyfu gyflymaf yn  yng Nghymru yn 2020 a’r Sunday Times Atlantic Fast Track 100,” meddai Scott.

"Mae'n dyst i ymroddiad a gwaith caled y tîm yn Hilltop bod y cwmni'n parhau i dyfu a ffynnu, yn enwedig o ystyried yr heriau a ddaw gyda phandemig y coronafeirws.

"Mae cwsmeriaid wir wedi croesawu brand ac ethos Hilltop yn ystod y blynyddoedd diwethaf, wrth i ni ddarparu mêl o ansawdd premiwm mewn jariau a photeli y gellir eu hailgylchu. Mae galw gwirioneddol hefyd ar hyn o bryd am ddewis naturiol, iachach yn lle siwgrau coeth ym mhob math o goginio, o opsiynau brecwast i brydau sawrus a phobi."

Yn 2014, sicrhaodd Hilltop le ar silffoedd Sainsbury's, Holland & Barrett, Selfridges ac ar Amazon ac Ocado. Ehangodd y cwmni ei ddetholiad o gynhyrchion yn gyflym i gynnwys mêl Manuka a mêl arbenigol ynghyd â phaill gwenyn a diliau blasus wedi’u torri. Mae ei holl gynhyrchion ar gael mewn jariau gwydr y gellir eu haildefnyddio neu boteli gwasgu ailgylchadwy.

Ar ôl derbyn sêl bendith Cymdeithas y Pridd yn 2015, lansiodd Hilltop ddetholiad newydd o fêl organig.

Wrth longyfarch y cwmni ar ei lwyddiant, dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig:

"Mae'r sector bwyd a diod yng Nghymru yn rhan hanfodol o economi Cymru, ac rydym ni wedi ymrwymo i gefnogi ei dwf a'i ddatblygiad.

"Mae'n amlwg bod angen dathlu gwaith caled, arloesedd a phenderfyniad ein busnesau yng Nghymru yn fwy nag erioed, yn enwedig yn y cyfnod heriol hwn. Mae llawer o'n busnesau wedi cael eu taro'n galed gan bandemig COVID-19 ac eto wedi goroesi, adfer a dechrau tyfu eto."

"Dylem ni i gyd fod yn falch o lwyddiant Hilltop, yn ogystal â'r holl fusnesau eraill sydd wedi cyrraedd rhestr Fast Growth 50 Cymru, a dymunaf bob llwyddiant iddyn nhw i gyd ar gyfer y dyfodol."

Mae amrywiaeth eang o gynhyrchion mêl Hilltop wedi'u gwneud o fêl pur a naturiol, heb ddim wedi'i ychwanegu a dim byd wedi'i dynnu allan. Mae pob cynnyrch unigol yn unigryw yn ei ffordd ei hun – o'r lliw i nodweddion yr arogl a’r blas.

Mae cynhyrchion Hilltop ar gael mewn archfarchnadoedd, siopau fferm a delis mwyaf blaenllaw'r DU.

Am fwy o wybodaeth am Hilltop a’i gynhyrchion, ewch i https://lovehilltop.com/

 

 

Share this page

Print this page