Mae Cynllun Manwerthu Bwyd a Diod Cymru wedi cael ei ddatblygu gyda chymorth grŵp o arbenigwyr o’r diwydiant i weld mwy o dwf yn nhrosiant y diwydiant bwyd a diod yng Nghymru o’i gymharu â’r sector yn y DU gyfan.

Mae wyth amcan i’r cynllun, gan gynnwys creu llif o fusnesau bwyd a diod entrepreneuraidd newydd a chyflymu twf busnesau sydd â throsiant o fwy na £10m yn y sector manwerthu.

Y Gweinidog Materion Gwledig a’r Gogledd, a’r Trefnydd, Lesley Griffiths fydd yn lansio’r Cynllun Manwerthu, yn ystod ei hymweliad â Samosaco ym Mhont-y-clun bore yma.

Mae Samosaco wrthi’n gwerthu i siopau Morrisons yng Nghymru a Costco ar draws y DU. Gwnaeth y cwmni ail-lansio eu brand a’u pecynnau’n ddiweddar yn ogystal â’u cynnyrch ar gyfer siopau penodol.

Bydd y cynllun yn helpu cwmnïau o Gymru i werthu eu cynnyrch ledled y DU a meithrin perthynas waith fwy clos ar draws y cadwyni cyflenwi ac â manwerthwyr.

Bydd yn allweddol hefyd wrth annog y genhedlaeth nesaf o gwmnïau i fanteisio ar lwybrau newydd i’r farchnad a’u helpu i ymateb i ofynion newydd eu cwsmeriaid.

Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig a’r Gogledd, a’r Trefnydd, Lesley Griffiths:

“Mae gennym gynhyrchwyr bwyd a diod ffantastig yma yng Nghymru ac rwy’n benderfynol o weld mwy o bobl yn mwynhau eu cynnyrch, nid yma yng Nghymru’n unig ond ledled y DU.

Bydd y cynllun manwerthu newydd yn allweddol i helpu’r diwydiant i gryfhau a dod yn fwy cydnerth a bydd yn gosod y sylfeini ar gyfer helpu’r cwmnïau gyda chamau nesaf eu twf a’u datblygiad.

Hoffwn ddiolch i’r Grŵp Manwerthu Arbenigol am ein helpu i greu’r cynllun hwn. Cafodd y grŵp ei sefydlu’n unswydd i asesu sefyllfa Cymru o fewn sector manwerthu’r DU ac i ymateb i ofynion cyfnewidiol y marchnadoedd bwyd

Mae gennym gyfle go iawn, trwy’r cynllun newydd hwn, i helpu busnesau bwyd a diod o Gymru i gyrraedd marchnadoedd newydd a gall hynny olygu newid byd iddynt.”

Dywedodd cyd-sylfaenydd Samosaco, Tee Sandhu:

“Mae’n bleser cael croesawu’r Gweinidog yma heddiw i lansio cynllun mor bwysig ar gyfer Bwyd a Diod Cymru. Rydyn ni newydd adnewyddu’n brand a datblygu nifer o brydau parod a byrbrydau Fegan a Llysieuol newydd a chael cefnogaeth ardderchog gan Raglen Datblygu Masnach y Llywodraeth a’r Clwstwr Bwyd Da.

Mae ein cynnyrch gan gynnwys ein henwog ‘Onion Bhaji Scotch Egg’ eisoes yn cael eu dosbarthu ledled Cymru a byddan nhw ar gael cyn hir yn y rhan fwyaf o Brydain trwy fanwerthwr ar-lein mawr. Rydyn ni’n disgwyl ymlaen at feithrin cysylltiadau tynnach â manwerthwyr amlwg ac ehangu’n safle yn y farchnad.”

Dywedodd Cadeirydd Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru (FDWIB), Andy Richardson:

“Mae gan Fwyd a Diod Cymru gyfle aruthrol i ddatblygu’u gwerthiant gyda manwerthwyr ledled Cymru a’r DU. Dwi i wir yn argyhoeddedig bod cwsmeriaid yn gwerthfawrogi ansawdd, cynaliadwyedd a tharddiad Bwyd a Diod Cymru ac o gyfuno hynny â brandio da wrth y man gwerthu, dylai’r sector dyfu’n dda yn y blynyddoedd i ddod.”

Share this page

Print this page