Bydd cynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru yn ceisio atgyfnerthu ac adeiladu cysylltiadau gyda darpar bartneriaid a buddsoddwyr pan fyddant yn ymweld â Qatar yr wythnos hon. Fel rhan o Ymweliad Datblygu Masnach Bwyd a Diod Cymru Llywodraeth Cymru o 29 Medi - 3 Hydref, bydd deg o gwmnïau bwyd a diod o Gymru yn cael y cyfle i arddangos eu cynnyrch i lu o ddosbarthwyr a phrynwyr manwerthu, pob un yn ceisio sicrhau busnes newydd.

Mae Qatar yn cynrychioli’r farchnad fwyaf ond un yn y Dwyrain Canol ar gyfer allforion o Gymru ac mae’n un o’r 20 marchnad uchaf yn y byd ar gyfer holl allforion Cymru, gan ei wneud yn farchnad flaenoriaeth allweddol i lywodraeth Cymru a’r DU. Roedd gwerth y nwyddau a allforiwyd o Gymru yn unig i Qatar yn 2017 dros 750m QAR.

Bydd cynrychiolwyr o faes awyr Caerdydd hefyd ymysg y cynrychiolwyr fydd yn ceisio manteisio i’r eithaf ar y daith uniongyrchol newydd sy’n rhedeg hyd at 7 gwaith yr wythnos rhwng Caerdydd a Doha, gan agor y posibilrwydd o fwy o fasnach a buddsoddi rhwng y ddwy wlad.

Nod yr Ymweliad Datblygu Masnach yw sbarduno cyfleoedd rhwydweithio a chydweithio rhwng y cynhyrchwyr, Llywodraeth Cymru a Qatar yn ogystal ag atgyfnerthu cysylltiadau busnes, masnach a thwristiaeth.

Wrth siarad cyn yr ymweliad, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths:

“Mae’r ymweliad masnach hwn i Qatar yn rhoi cyfle gwych i gynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru geisio meithrin cysylltiadau newydd mewn marchnadoedd dramor ac mae’n rhan o’n hymgyrch cyffredinol i gefnogi allforion o Gymru sy’n hanfodol ar gyfer economi Cymru wrth i ni edrych ar adael yr UE.”

“Mae allforion ar gyfer y sector wedi tyfu yn y degawd diwethaf ac mae’n parhau i dyfu. Rwyf wrth fy modd ein bod yn cefnogi’r grŵp hwn o gynhyrchwyr sy’n mynd allan i Doha i archwilio marchnadoedd newydd yn uniongyrchol a datblygu cysylltiadau pellach gyda busnesau rhyngwladol.”

Mae’r cwmnïau o Gymru sy’n cymryd rhan yn yr Ymweliad Datblygu Ymchwil yn cynnwys Daioni Organic, Dairy Partners, Dunbia Wales, Farmers Fresh Wales, Fayrefield Foods, Hybu Cig Cymru – Meat Promotion Wales, Mulrines & Sons Sales Uk Ltd, Prima Foods UK Ltd, Randall Parker Foods a Fferm Organig Rhug.

Yn ystod yr ymweliad bydd cynrychiolwyr yn cymryd rhan mewn sesiynau briffio marchnad, digwyddiadau rhwydweithio masnach, rhaglen ymweliad siop a digwyddiad Cwrdd â’r Prynwr.

Mae ffatri prosesu un o’r cwmnïau, Mulrines, sy’n cynhyrchu amrywiaeth o sudd a smwddis, yng Nglannau Dyfrdwy, gogledd Cymru lle maen nhw’n cynhyrchu amrywiaeth o gynhyrchion llaeth â blas ffrwythau a diodydd almon a soia organig.

Dywedodd John Bonner, Rheolwr Masnachol ar gyfer Mulrines,

"Mae’r Dwyrain Canol yn farchnad allforio ddiddorol i ni. Nid oes gennym rwydwaith dosbarthu ar gyfer ein cynhyrchion yn yr ardal hon ar hyn o bryd ac rydym yn ystyried yr ymweliad hwn fel cyfle gwych i ni mewn marchnad allweddol fel Qatar.

“Gobeithio y bydd yr ymweliad hwn yn hyrwyddo ymwybyddiaeth o’n hamrywiaeth o sudd, smwddis a chynhyrchion llaeth eraill sydd gennym ar gael. Yn ogystal â rhoi cyfle i ni ffurfio partneriaethau gyda dosbarthwyr a phrynwyr i werthu ein cynnyrch a rhoi hwb i werthiant."

Cwmni arall sy’n mynd ar yr ymweliad masnach yw Daioni Organic, sydd wedi’u lleoli yn Sir Benfro, ac sy’n ddarparwr blaenllaw ar gyfer cynhyrchion llaeth organig o ansawdd premiwm. Yn ddiweddar mae Daioni wedi creu partneriaeth gyda dosbarthwr rhanbarthol ac wedi lansio i ddechrau yn Carrefour gyda’u hystod o gynhyrchion Daioni Organic.

Mae’r Rheolwr Gwerthiant Allforio, Daniel Jones yn edrych ymlaen at yr ymweliad,

"Mae Qatar yn farchnad bwysig gyda phoblogaeth gynyddol sy'n cynnig cyfleoedd enfawr i fusnesau o Gymru yn y sector bwyd a diod. Rydym wedi bod yn y rhanbarth am ychydig o flynyddoedd ond yn bennaf drwy gyd-gyfnerthwyr o’r DU, felly roedd hwn yn gam bwysig o ran symud y brand ymlaen a pharhau i dyfu mewn marchnad mor allweddol.

"Gobeithio bydd yr ymweliad hwn yn rhoi cyfle i ni atgyfnerthu'r foeseg a'r angerdd sydd wrth wraidd ein brand ac y bydd ein cynnyrch yn profi i fod mor boblogaidd yn Qatar ag y maent yma yng Nghymru ac mewn rhannau eraill o'r byd."

Ychwanegodd Huw Lewis, Cyfarwyddwr Cyllid ym Maes Awyr Caerdydd:

"Rydym yn falch iawn o weld Bwyd a Diod Cymru yn defnyddio’r cyfle gwych hwn a gyflwynwyd gan wasanaeth newydd Qatar Airways i ddatblygu cysylltiadau masnach cryfach.  Mae’r daith yn galluogi busnesau o ledled Cymru i allforio nid yn unig i Qatar ond i fannau byd-eang pellach ar draws Affrica, Asia ac Awstralasia. 

“Ym Maes Awyr Caerdydd, ein cenhadaeth yw cynhyrchu budd economaidd sylweddol i Gymru a byddwn yn parhau i gefnogi’r diwydiant drwy gysylltu Cymru â’r byd a hwyluso cyfleoedd masnach lle bo hynny’n bosibl.”

Bydd Ymweliad Datblygu Masnach Llywodraeth Cymru i Doha, Qatar yn cael ei gynnal rhwng 29 Medi - 3 Hydref 2018.

Share this page

Print this page