Mae cynhyrchwyr llaeth yn cyrraedd cwsmeriaid newydd drwy ddatblygu o ddefnyddio peiriant godro i’r peiriant gwerthu.

Mae peiriannau gwerthu llaeth hunan-wasanaeth yn dod yn fwy poblogaidd, a gyda chymorth Cywain, mae nifer o ffermydd llaeth yng Nghymru yn dewis defnyddio’r dechnoleg - gan ddarparu agwedd fodern ar werthiannau cynnyrch fferm traddodiadol.

Dywedodd Dewi Evans, Rheolwr Prosiect Cywain “Mae peiriannau gwerthu llaeth yn ffordd wahanol i gynhyrchwyr werthu eu cynnyrch yn uniongyrchol i’r cyhoedd, gan ychwanegu gwerth i’w llaeth drwy sefydlu brand cynnyrch premiwm.

“Mae Cywain yn cydweithio gyda nifer o gynhrchwyr o Gymru i greu eu brandiau a lansio eu busnesau gwerthu. Hefyd, gan fod cymaint wedi manteisio ar dechnoleg peiriannau gwerthu yn ddiweddar, bydd Cywain yn ychwanegu lleoliad cynhyrchwyr sydd â pheiriannau gwerthu at Fap Cynhyrchwyr Cywain cyn hir: https://menterabusnes.cymru/cywain/ein-cynhyrchwyr/.

“Ers ei lansio ym mis Ebrill, mae’r Map Cynhyrchwyr wedi llwyddo i gyfeirio siopwyr at lu o gynhyrchwyr bwyd a diod rhagorol o bob rhan o Gymru sy’n cynnig gwasanaeth siopa ar-lein a dosbarthu i’r cartref.”

Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: “Rydw i’n falch iawn bod gan gynhyrchwyr llaeth yng Nghymru bellach ffordd arall o werthu’n uniongyrchol i’w cwsmeriaid.

“Gwyddwn fod y sector llaeth wedi bod ymysg y rhai sydd wedi cael eu heffeithio fwyaf yn sgil y pandemig diweddar - a gan ein bod yn awyddus i gefnogi ein ffermwyr llaeth lle bo hynny’n bosibl, mae’n galonogol iawn gweld y bydd gan fusnesau sy’n gwerthu llaeth I gwsmeriaid ffordd ychwanegol o wneud hynny drwy ddefnyddio’r peiriannau gwerthu newydd.

“Mae hyn yn newyddion da iawn a bydd hefyd yn helpu cynhyrchwyr llaeth yng Nghymru i farchnata eu brandiau premiwm eu hunain.”

Mae'r astudiaethau achos canlynol yn cynnwys mentrau gwerthu llaeth o Gymru a lansiwyd yn ddiweddar - o ychydig wythnosau i ychydig ddyddiau yn ôl.

DAISY BANK DAIRY

Lansiodd y teulu Lloyd Daisy Bank Dairy yn union fel yr oedd y byd yn newid - ond gyda chyngor gan Cywain mae'r fenter yn tyfu.

Mae’r fenter yn cael ei rhedeg mewn partneriaeth gan dad a mab, sef Mike a Glenn, ac mae’r fferm deuluol yn Nhrefaldwyn wedi bod yn cynhyrchu llaeth ers tair cenhedlaeth. Mae'r fenter wedi bod yn organig ers 2017.

Daeth y syniad ar gyfer gwasanaeth gwerthu llaeth o beiriant ar ôl genedigaeth Reggie, mab Glenn a’i bartner Sandie yn 2018 - a chafodd Daisy Bank Dairy ei eni.

Mae llaeth organig Daisy Bank wedi'i basteureiddio'n ysgafn a heb ei homogeneiddio - lle mae'r gronynnau braster yn codi i ffurfio haen uchaf hufennog yn hytrach na'u gwasgaru trwy'r llaeth i gyd.

Dywedodd Glenn, “Cawsom ychydig o gyfarfodydd tebyg i arddull 'Dragon's Den' gyda manwerthwyr, ac rydym wedi dewis gweithio gyda busnesau teuluol fel ni. Mae yna fuddion i ni ac iddyn nhw gan weithio gyda ffermydd lleol.”

Ar hyn o bryd, mae peiriannau gwerthu Daisy Bank mewn dau leoliad - siop gyfleustra Tuffins yn y Trallwng a Costcutter yng Nghaersws.

Mae gan bob safle ddau beiriant - peiriant gwerthu llaeth a pheiriant cyflenwi poteli gwydr. Mae protocolau cadw pellter cymdeithasol a glanhau llym ar waith, gan gynnwys darparu menig a chadachau ar gyfer cwsmeriaid.

“Roeddem i fod i lansio yn ystod yr ail benwythnos o’r cyfnod clo, gyda’r bwriad gwreiddiol o osod y peiriannau gwerthu y tu mewn i’r siopau. Ond roedd gofynion cadw pellter cymdeithasol yn golygu ein bod ni yn hytrach wedi gosod y peiriannau y tu allan ac oddi wrth y drysau."

Yn ôl Glenn, mae ymateb y cyhoedd wedi bod yn galonogol iawn gyda phobl yn barod i dalu mwy am gynnyrch premiwm. Mae gwerthiannau fesul peiriant gwerthu ar gyfartaledd yn 50 i 80 litr o laeth y dydd, a 100 litr yw’r nod neu'r 'rhif euraidd'.

Dywedodd Glenn, “Mae'r adborth wedi bod yn dda iawn - dim ond llaeth wedi’i homogeneiddio y mae'r rhan fwyaf o bobl erioed wedi'i flasu, felly maen nhw'n sylwi ar y gwahaniaeth.

“Mae llawer o hyn wedi bod o ganlyniad i'r cymorth a'r gefnogaeth farchnata rydym ni wedi ei gael gan Cywain. Mae'r cyngor cychwyn, brandio a marchnata un-i-un wedi bod yn amhrisiadwy.”

Rhagor o wybodaeth: Facebook @DaisyBankDairy

FFOREST FARM WHOLE MILK

Dechreuodd cwsmeriaid ymweld â pheiriant gwerthu llaeth Sally Windsor yn Fforest Farm yn Hendy-gwyn ar Daf y mis diwethaf - ac mae’r niferoedd yn cynyddu’n gyson.

Dywedodd Sally, “Fe ddechreuon ni werthu ychydig wythnosau yn ôl, ac mae wedi bod yn dda iawn, iawn. Rydym ni wedi cael llawer o gwsmeriaid yn dychwelyd - mwy nag yr oeddwn i'n meddwl i fod yn onest, ond mae mwy a mwy o bobl yn dod yn ymwybodol o’n llaeth drwy siarad â’i gilydd."

Mae'r fferm deuluol yn cael ei rhedeg mewn partneriaeth gan rieni, tad-cu a mam-gu Sally, ond hi sy’n gyfrifol am fenter gwerthu llaeth Fforest Farm Whole Milk o’r peiriant gwerthu.

Mae'r peiriant gwerthu - sy'n dosbarthu'r llaeth cyflawn heb ei homogeneiddio ac wedi'i basteureiddio - wedi'i leoli hanner ffordd i lawr lôn y fferm. Ac mae yna brotocolau glanhau a phellter llym sy'n cydymffurfio â COVID-19.

Mae hi'n awyddus i helpu dod â defnyddwyr a ffermwyr yn agosach at ei gilydd ac yn annog pobl i brynu cynnyrch lleol.

Dywed Sally yr hoffai groesawu ymwelwyr ar y fferm yn y pen draw i weld sut mae'r llaeth yn cael ei gynhyrchu. “Wrth i ni ddatblygu’r busnes, rydyn ni’n gobeithio rhannu ein stori gyda’r cwsmeriaid.”

“Rydym ni wedi cael llawer o help gan Cywain - cyrsiau a sesiynau cyllid un-i-un, ac rydym ni wedi cael help gyda'n brandio yn arbennig.”

Rhagor o wybodaeth: Facebook @FforestFarmMilk

MORFA MILK

Mae ffermwr o Sir Benfro, Randal Williams, a'i deulu yn agor pennod newydd yn hanes y fferm deuluol trwy osod peiriant gwerthu llaeth a gwerthu'n uniongyrchol i'r cyhoedd.

Ychydig ddyddiau yn ôl, dechreuon nhw werthu Morfa Milk o'r fferm deuluol ym Mharcymorfa yn Abergwaun. 

Defnyddir protocolau cadw pellter cymdeithasol a glanhau llym, a chynigir cyngor i gwsmeriaid ar lanhau poteli ar ôl eu defnyddio.

“Roedd ein penwythnos cyntaf yn wych, ac rydym ni wedi cael cefnogaeth anhygoel gan bobl, ynghyd â sylwadau cadarnhaol iawn,” meddai Randal.

Mae'r llaeth heb ei homogeneiddio o’r fuches sy’n pori ar laswellt y fferm yn cael ei basteureiddio'n ysgafn a'i werthu mewn poteli Morfa Milk wedi'u brandio - gyda chymorth Cywain.

Dywedodd Randal, “Mae Cywain wedi bod yn wych, rydym ni wedi cael llawer iawn o gyngor busnes - cyllid, cyfryngau cymdeithasol, cyfrifeg, a marchnata - o'r dechrau i'r diwedd. Rydym hefyd wedi cael cefnogaeth dylunio a brandio i helpu ein marchnata.”

Rhagor o wybodaeth: Facebook @MorfaMilk

 

Share this page

Print this page