Busnesau bwyd a diod yng Nghymru i elwa o gymorth ychwanegol

Mewn unrhyw flwyddyn arall byddai’r mwyafrif o fusnesau bwyd a diod yng Nghymru ar eu ffordd i’r Sioe Frenhinol yr wythnos hon, ond mae’r pandemig diweddar wedi cwtogi calendr digwyddiadau’r haf.  Fodd bynnag, mae llawer o’r busnesau hynny wedi defnyddio’r misoedd diwethaf i ystyried eu hanghenion hyfforddi ar gyfer y dyfodol ac yn nodi’r darparwyr hyfforddiant perthnasol i’w helpu i ddatblygu. 

Mae prosiect Sgiliau Bwyd Cymru yn cefnogi busnesau o fewn y sector bwyd a diod yng Nghymru er mwyn sicrhau bod gan weithwyr y sgiliau a’r hyfforddiant mwyaf addas i’w busnes ac mae’r prosiect wedi cyhoeddi yn ddiweddar fod dros 20 o ddarparwyr hyfforddiant newydd wedi ymuno i gynnig hyfforddiant a chyngor arbenigol ar gyfer y sector bwyd a diod yng Nghymru.

Roedd y fframwaith darparwyr hyfforddiant yn ei le eisoes yn gynhwysfawr ond gyda mwy o ddarparwyr yn cael eu hychwanegu, mae’r hyfforddiant sy’n cael ei gynnig yn amrywio o iechyd a diogelwch i beirianneg, i werthu, marchnata ac allforio ac i ganllawiau adnoddau dynol.

Bydd busnesau cymwys yn ymgeisio am gymorth a wedyn yn cael eu paru â’r darparwr hyfforddiant mwyaf perthnasol, gyda amser a lleoliad sy’n gweddu orau iddynt.

Yn ôl Sarah Lewis, Rheolwr Prosiect Sgiliau Bwyd Cymru, mae angen yr amrywiaeth o hyfforddiant a gynigir nawr yn fwy nag erioed,

“Mae’r diwydiant bwyd a diod erioed wedi bod yn elfen hanfodol o’r economi yng Nghymru ond bu’r misoedd diwethaf yn arbennig o heriol i’r sector. Yn ein trafodaethau niferus gyda busnesau, bu galw mawr am raglenni hyfforddiant all gynnig y sgiliau perthnasol iddynt i ddod allan o’r argyfwng presennol hwn tra’n helpu i ailadeiladu ar gyfer y dyfodol.

“Er ein bod eisoes yn cynnig amserlen hyfforddi gynhwysfawr, mae’r darparwyr newydd yn gwella’r hyfforddiant a gynigir a byddant yn cyfrannu tuag at greu gweithlu mwy gwydn.  Yn ogystal, a dyma’r newyddion gorau, gall hyd at 80% o’r costau ddod gan ein prosiect – cyfraniad i’w groesawu yn enwedig yn ystod yr adeg hyn.”

Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: “Mae busnesau bwyd a diod Cymru wedi parhau i fod yn wydn ac yn arloesol trwy gydol yr argyfwng achoswyd gan bandemig Covid-19, ac rwy’n falch o nodi, er gwaethaf rhai o’r anawsterau diweddar, fod busnesau wedi cael yr hyfforddiant sydd ei angen arnynt o hyd.

“Hoffwn ddiolch i Sgiliau Bwyd Cymru am eu darpariaeth barhaus o hyfforddiant gwerthfawr i’n sector bwyd a diod.

“Rwy’n falch o nodi eu bod wedi gallu ychwanegu at eu cronfa o ddarparwyr hyfforddiant arbenigol, ac yn annog unrhyw fusnesau sydd â diddordeb mewn hyfforddiant pellach i gysylltu â  Sgiliau Bwyd Cymru i brofi’r lefel a’r amrywiaeth o gefnogaeth a gynigir. ”

Mae swm yr arian sydd ar gael yn amrywio o 50% i 80%, yn ddibynnol ar faint y busnes, ac i fod yn gymwys i gael cymorth, mae’n rhaid i’r busnes gael safle cynhyrchu neu weithgynhyrchu wedi’i leoli yng Nghymru ac yn gallu dangos adenillion ar fuddsoddiad clir yn dilyn yr hyfforddiant.

Un o’r darparwyr hyfforddiant newydd, a leolir ym Mhenybont-ar-Ogwr, yw Highfield HR sy’n cynnig cymorth adnoddau dynol wedi’i deilwra’n bwrpasol, fel yr esbonia Cyfarwyddwr y cwmni Leanne Yau,

“Bydd unrhyw fusnes yn dweud wrthych mai eu hased mwyaf yw’r bobl sy’n gweithio iddynt – eu gweithlu.  Ond gall fod heriau o ran rheoli o ddydd i ddydd a sicrhau bod gweithwyr yn cael y cyfleoedd i wneud cyfraniad cadarnhaol ac ymarferol i nodau’r busnes. Yn Highfield HR rydym yn derbyn fod pob busnes yn wahanol ac mae angen datblygu atebion sydd wedi’u teilwra’n bwrpasol.

“Fel pob sector, mae’r sector bwyd a diod yn mynd drwy gyfnod heriol ond mae ei lwyddiant yn hollbwysig i’r economi yng Nghymru ac rydym yn falch iawn o gael y cyfle i chwarae rhan fach i sicrhau y bydd yn cryfhau eto ac yn parhau i dyfu.”

Ymhlith y busnesau sydd eisoes wedi derbyn cymorth yw Capestone Organic Poultry sydd wedi’i leoli yn Sir Benfro, prosesydd cig Randall Parker Foods yng Nghanolbarth Cymru a Hufenfa De Arfon, un o gwmniau llaeth cydweithredol mwyaf adnabyddus Cymru.

Darparwr hyfforddiant arall a ymunodd â’r fframwaith yn ddiweddar yw Siambr Fasnach Gorllewin Swydd Gaer a Gogledd Cymru sy’n darparu cymorth busnes ar gyfer marchnadoedd domestig ac allforio.  Dywedodd Debbie Bryce, Prif Swyddog Gweithredol,

“Rydym yn falch iawn o ddod yn bartner hyfforddi ar Fframwaith Sgiliau Bwyd a Diod Cymru.  Cynlluniwyd ein cyrsiau Hyfforddi Masnach Ryngwladol i roi’r sgiliau hanfodol sydd eu hangen ar fusnesau i werthu eu nwyddau a gwasanaethau dramor.  Drwy’r bartneriaeth newydd hon, rydym yn anelu at helpu cwmniau yn y diwydiant bwyd a diod yng Nghymru i gychwyn ar eu taith allforio neu i gefnogi twf pellach yn y farchnad.”

Os oes gan unrhyw fusnesau ddiddordeb mewn derbyn cymorth, mae rhagor o wybodaeth ar gael trwy gysylltu â Sgiliau Bwyd Cymru ar wales@lantra.co.uk neu ffoniwch 01982 552646.

Ariennir Sgiliau Bwyd Cymru gan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. 

 

Share this page

Print this page