Yn 2014 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gynllun gweithredu ar gyfer bwyd a diod, ‘Tuag at Dwf Cynaliadwy’. Roedd y cynllun hwnnw’n amlinellu gweledigaeth, cenhadaeth a chynllun hirdymor gyda chamau gweithredu er mwyn eu gwireddu. Roedd targed syml ac uchelgeisiol yn rhan greiddiol ohono – sicrhau cynnydd o 30% yng ngwerth gwariant y sector, gan gyrraedd £7 biliwn erbyn 2020. Rwy'n hynod falch ein bod bellach wedi rhagori ar hynny, gan fod y data diweddaraf yn dangos bod gwerth y sector bwyd a ffermio, sy'n sector â blaenoriaeth, yn £7.5 biliwn.

Dyma gryn gamp ac mae’n rhywbeth i’w ddathlu. Yn ôl yn 2014, ym mlynyddoedd cynnar y cynllun, teimlwyd y byddai cyrraedd y targed hwn yn gryn her. Roedd rhai'n amau a fyddai modd ei gyflawni. Fodd bynnag, roeddem yn uchelgeisiol ac yn ffyddiog y gallai'r sector lwyddo pe bai'n cael y cymorth priodol. Hoffwn ganmol y diwydiant am y llwyddiant hwn, sy'n ffrwyth cryn ymdrech gan lawer. Hoffwn ddiolch yn benodol i Fwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru am ei bartneriaeth werthfawr gyda Llywodraeth Cymru.

Mae Cymru yn ennill mwy a mwy o fri fel cenedl fwyd. Rydym yn cynhyrchu amrywiaeth eang o gynnyrch deniadol, o ansawdd da ac rydym yn cael ein cydnabod am fod yn wlad fach sy'n gwneud pethau gwych sy'n dangos ein gwerthoedd.

Bydd heriau penodol yn ein hwynebu yn y blynyddoedd sydd i ddod, yn enwedig yn wyneb yr ansicrwydd am effaith Brexit ond, wedi dweud hynny, rwy'n teimlo bod y diwydiant bwyd a diod mewn sefyllfa gref ac y gall wynebu'r dyfodol yn llawn hyder. 

Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

 

Share this page

Print this page