Bydd Dydd Gŵyl Dewi eleni (1 Mawrth) yn achlysur gwahanol iawn i'r arfer, ond mae Is-adran Fwyd Llywodraeth Cymru wedi bod yn cydweithio'n brysur â llu o sefydliadau wrth iddi hyrwyddo cynnyrch llwyddiannus y genedl ar draws y byd.

Yn arwain y ffordd wrth arddangos y gorau sydd gan Gymru i'w gynnig fydd y cogydd enwog Bryn Williams, fydd yn cynnal sesiwn goginio sy’n llawn dop o gynnyrch blasus o Gymru fel rhan o ŵyl ddigidol 72 awr o hyd fydd yn cael ei chynnal ar sianeli ar-lein wrth i'r dathliadau gael eu mwynhau gan gynulleidfa fyd-eang.

Hefyd, mae bron i 100 o gynhyrchwyr a manwerthwyr ledled y wlad yn cymryd rhan mewn ymgyrch ddigidol i godi ymwybyddiaeth o'r bwyd a diod sydd gan Gymru i'w cynnig o dan faner #LoveWalesLoveTaste #CaruCymruCaruBlas, sy'n adeiladu ar ymgyrch a lansiwyd yr haf diwethaf i annog defnyddwyr i gefnogi cynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru yn ystod yr hinsawdd anodd sydd ohoni.

Fel rhan o hyn, mae bron i 20 o ryseitiau newydd wedi'u lansio sy'n herio’r hyn sy'n cael ei ystyried yn bryd traddodiadol Cymreig. Dylai'r rhai sy'n credu mai bwyd a diod Cymreig yw pice ar y maen a chawl ailfeddwl, oherwydd gall Cymry modern sy’n dwlu ar fwyd fwynhau gwleddoedd sy’n cynnwys cocos, cregyn gleision, cig moch a llyrlys mewn seidr neu gig oen blasus gyda bara lawr a pherlysiau.

Yn y cyfamser, ar y llwyfan rhyngwladol mae sefydliadau fel Wythnos Cymru Llundain ac Wythnos Cymru Fyd-Eang wedi symud eu digwyddiadau arferol ar-lein oherwydd y cyfyngiadau presennol, a byddan nhw’n cynnal cyfres o arddangosiadau coginio, sgyrsiau a chystadlaethau wrth i'r gorau o fwyd a diod Cymru gael ei arddangos i gynulleidfa fyd-eang.

Wrth sôn am yr ystod eang o weithgareddau sy'n digwydd er gwaethaf yr amgylchiadau anodd, dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig:

"Mae'n bwysicach nag erioed ar Ddydd Gŵyl Dewi eleni ein bod yn parhau i gefnogi busnesau bwyd a diod o Gymru gan fod nifer wedi wynebu heriau aruthrol o anodd dros y flwyddyn ddiwethaf.

"Rwy'n falch iawn o weld ystod mor eang o wahanol weithgareddau'n cael eu cynnal i hyrwyddo ein diwydiant ffyniannus, ac mae'n dyst gwirioneddol i'w gryfder a'i fywiogrwydd y gallwn ni gynnal dathliad o'r fath er gwaethaf y sefyllfa bresennol. 

"Mae gennym ni draddodiad hir a balch o gynhyrchu bwyd a diod rhagorol, gyda digonedd o adnoddau naturiol a chynhwysion bwyd, a ffocws ar y cyd ar ddatblygu technolegau newydd ac arloesedd wrth gynhyrchu bwyd."

Daw’r gweithgarwch yn dynn ar sodlau lansio gweledigaeth strategol yr wythnos diwethaf i'r diwydiant ddod yn un o hoelion wyth cynhyrchu bwyd a diod cynaliadwy.

Gan weithio'n agos gyda'r diwydiant, mae gweledigaeth Llywodraeth Cymru yn ceisio gosod arferion cynaliadwy wrth wraidd adferiad y diwydiant ar ôl Covid. Gan ganolbwyntio ar feysydd fel twf a chynhyrchiant, effaith amgylcheddol, gwaith teg a chodi safonau drwyddi draw, a thrwy gydweithio gobeithir y gall y llywodraeth a'r diwydiant greu un o'r cadwyni cyflenwi mwyaf cyfrifol yn amgylcheddol ac yn gymdeithasol yn y byd.

Daw'r cyhoeddiad yn dilyn gwaith paratoi helaeth sydd wedi bod yn mynd rhagddo yn ystod y blynyddoedd diwethaf i adeiladu'r sylfeini ar gyfer y weledigaeth strategol 'egin gwyrdd' sy'n deillio o'r tarfu a achoswyd gan Brexit a Covid-19.

Ceir rhagor o wybodaeth am yr holl weithgareddau yn www.llyw.cymru/bwydadiodcymru

 

 

 

Share this page

Print this page