Mae casgliad newydd o ryseitiau sy'n tynnu dŵr i’r dannedd ac yn dod â bwydlen o brydau blasus o bob cwr o'r byd at ei gilydd bellach ar gael. Ei enw yw 'The Melting Pot', ac mae'r 30 o ryseitiau a gasglwyd gan Maggie Ogunbanwo gyda chyfraniadau gan aelodau o'r gymuned lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru yn dathlu amrywiaeth ddiwylliannol y wlad.

Mae'r casgliad o ryseitiau yn dwyn ynghyd flasau, ysbrydoliaethau a thraddodiadau o Bali i Zimbabwe a'r straeon diddorol y tu ôl i bob pryd. Ymhlith y ryseitiau mae Ffriteri Pysgod Hallt Jamaicaidd; Kibbeh wedi'i Stwffio Syriaidd; Reis Jollof Cyw Iâr Nigeriaidd; Macher Jhol Bangladeshaidd a Chawl Ajiaco Figan Columbiaidd.

Wrth i ymgyrch Black Lives Matter ddod yn fwy amlwg, cysylltodd Maggie Ogunbanwo ag Is-adran Bwyd a Diod Llywodraeth Cymru gyda'r syniad o greu adnodd ymarferol a wedi’i ddatblygu gan y gymuned Pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol a'i ddarparu i bawb, fel yr esbonia Maggie Ogunbanwo,

"Cefnogodd Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru gynnig a gyflwynais iddyn nhw yn gynnar yn 2020 cyn COVID-19, i adlewyrchu’r amrywiaeth sy'n adlewyrchu diwylliant Cymru mewn ffordd ragweithiol.

"Roedd penllanw'r cynnig i fod i gynnwys digwyddiad dathlu a chyfle i sgwrsio â thorf fawr lle roeddem ni’n bwriadu arddangos ein gwahanol gynigion bwyd. Fodd bynnag, o ganlyniad i gyfyngiadau Covid-19 digwyddodd ein dathliad ar ffurf y llyfr coginio hwn gyda straeon ac mewn iaith a ddylai fod yn ddigon hawdd i ni i gyd eu dilyn, eu hailadrodd a'u mwynhau.

"Mae cymaint o amrywiaeth a gwead sy'n gwneud ein bwydydd yn wahanol, ond yn rhyfeddol o flasus. Adlewyrchir hyn yn y bobl, felly wrth i chi ddysgu iaith bwyd a dechrau'r siwrne flasus, gall y daith o ddod i adnabod y bobl y tu ôl i wahanol fwydydd ddylanwadu arnoch chi. Ni ddylai ein gwahaniaethau ynysu, dylen nhw addysgu.

"Wrth i chi roi cynnig ar y ryseitiau yn fy llyfr newydd, rwy'n gobeithio y byddwch yn dechrau deall ychydig mwy am yr ieithoedd a'r blasau amrywiol a'r holl amrywiaeth mae'r gymuned Pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn ei gynnig i'n cymunedau ledled Cymru."

Lansiwyd llyfr coginio The Melting Pot heddiw, (18 Mawrth), gan Weinidog Llywodraeth Cymru dros yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig Lesley Griffiths mewn lansiad llyfr rhithwir,

"Mae'n bleser mawr gen i lansio'r llyfr hynod bwysig hwn sy’n adlewyrchu'r Gymru amrywiol rydym ni’n byw ynddi. Mae'n gymaint mwy na llyfr coginio, mae’n arddangosfa o Gymru gyfoes drwy lygaid y rhai yn y gymuned Pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol sy'n gwneud cyfraniad gwerthfawr i ddiwydiant bwyd a diod Cymru.

"Mae ein diwylliant yng Nghymru yn gyfoethog ac yn amrywiol ac mae ein natur yn un o freichiau agored a chroeso – o gynnig ymdeimlad o berthyn. Mae'r llyfr hwn yn atgyfnerthu'r safbwyntiau hynny ac rwy'n eich annog i gyd i roi cynnig ar y ryseitiau, darllen y straeon a gwerthfawrogi ein gwlad amrywiol."

Mae Maggie, sydd â’i gwreiddiau yn Nigeria, yn byw yng ngogledd Cymru, ac yn rhedeg busnes o'r enw 'Maggie's An African Twist to your Everyday Dish', yn gwneud cynhyrchion bwyd Affricanaidd, fel sbeisys a sawsiau.

Graddiodd Maggie o Brifysgol Lagos yn Nigeria gyda Bsc Anrhydedd mewn Microbioleg. Yna enillodd PgD mewn Rheoli Lletygarwch, yn ogystal â PgCE mewn Arbenigedd Bwyd. Mae wedi gwneud sawl swydd reoli o fewn a thu allan i'r diwydiant bwyd. Yna symudodd ymlaen i sefydlu a rhedeg ei busnes ei hun.

Y llynedd, penodwyd Maggie Ogunbanwo yn aelod o Fwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru a daw â'i phrofiad o weithio gyda BBaChau a gwybodaeth amrywiol am fwydydd Affricanaidd a byd-eang.

Share this page

Print this page