Bydd cefnogaeth busnesau bach Cymru i gymunedau yn ystod pandemig C-19 yn cael ei dathlu mewn ffilm - diolch i brosiect Garddwriaeth Cymru Prifysgol Glyndŵr Wrecsam.

Mae'r prosiect wedi comisiynu cyfres o ffilmiau byrion i ddathlu llwyddiant y busnesau, a dangos yr amrywiaeth eang o ffyrdd y mae busnesau - pob un yn aelodau o'r prosiect - wedi cefnogi cymunedau ledled Cymru yn ystod y cyfnod clo ym mis Mawrth - ac ar ôl hynny.

Mae'r ffilmiau yn serennu busnesau o bob cwr o Gymru, o'r Bont-faen ym Mro Morgannwg yr holl ffordd i Sir y Fflint yng ngogledd-ddwyrain Cymru. Mae eu straeon amrywiol yn dangos sut y canfu busnesau o bob math â chysylltiadau â garddwriaeth eu hunain yn addasu eu harferion i oresgyn heriau pandemig y coronafeirws.

Bydd Canolfan Arddio a Siop Fferm Camlan, wedi'i lleoli ym mhrydferthwch Parc Cenedlaethol Eryri, yn trafod sut y gwnaethant newid eu gweithrediadau, nid yn unig i fodloni canllawiau swyddogol - ond i gwrdd â'r galw am ddanfoniadau o fwyd hanfodol i gartrefi hefyd, yn ogystal ag adnoddau ar gyfer tyfu gartref wrth i ddiddordeb cwsmeriaid dyfu.

Roedd rhaid iddynt hefyd barhau i ddatblygu eu safle yn barod i agor caffi, a oedd wedi cael ei ohirio dros dro.  Mae'r perchnogion, Lisa ac Ian Allsop, yn gwerthu cynnyrch bwyd gan gynhyrchwyr o Gymru; a phlanhigion a dyfir yng Nghymru a Lloegr.

Dywedodd Ian: "Cawsom ein synnu gan yr ystod eang o gynnyrch safonol o Gymru pan symudom i Gymru, ac roeddem eisiau adlewyrchu hyn gyda'n busnes - rydym yn falch o'r amrediad rydym yn ei werthu nawr."

Mae Siop a Chaffi Cymunedol Cletwr, Machynlleth, wedi'i lleoli ar hen safle gorsaf betrol, ac yn ystod y pandemig, roedd y staff yn gweithio'n galed i sicrhau ei fod yn parhau i fod yn siop gymunedol fywiog, yn gwerthu llysiau a saladau wedi'u tyfu'n lleol, a hyfforddi gwirfoddolwyr drwy rolau yn y siop a chaffi cymunedol. 

Dywedodd y rheolwr, Karen Evans: "Newidiom yn gyflym i gynnig bwyd i fynd a gwasanaeth clicio a chasglu.   "Newidiom yn gyflym i gynnig bwyd i fynd a gwasanaeth clicio a chasglu.

Yn Llangollen, canfu Zingiber Wholefoods y newidiadau a berodd y pandemig yn gryn her - ond gwnaethant sicrhau bod eu siop gyfeillgar, dan arweiniad y cwsmer, yn gallu parhau i ddarparu'r cyffyrddiadau personol hynny y mae'n ymfalchïo ynddynt.

Dywedodd y perchennog, Chris Baker: "Daliom ati drwy'r pandemig, ond

"Daliom ati drwy'r pandemig, ond I ddechrau, gwnaethom gyfyngu ar nifer y cwsmeriaid yn y siop i ddau ar y tro, ond unwaith y dechreuodd y cyfnod clo, gwnaethom atal cwsmeriaid rhag dod i mewn yn gyfan gwbl. Yn hytrach, roeddem yn eu gweini o gownter dros dro ym mynedfa'r siop.

"Yn bennaf, byddai cwsmeriaid yn anfon eu harchebion atom drwy e-bost, neges destun neu dros y ffôn; byddem yn llunio eu harcheb; a byddent yna'n galw heibio i gasglu a thalu.

"Sylweddolom yn fuan pwy oedd eisiau menyn pysgnau esmwyth neu greisionllyd, a tahini tywyll neu olau, a phwy oedd yn ffafrio popeth yn organig lle oedd hynny ar gael!

"Roedd galw mawr am nifer o gynnyrch - yn cynnwys bagiau blawd yn benodol - ac felly roedd yn anodd eu cael gan gyfanwerthwyr yn ddibynadwy. Pan nad oedd sachau blawd i'w cael gan ein cyflenwyr arferol, camodd ein becws lleol i'r adwy a'n cyflenwi!

"Ar un adeg roedd gennym salad wedi'i dyfu'n lleol a llysiau eraill ond, yn anffodus, nid oedd modd iddynt barhau i'n cyflenwi, felly mae tipyn o fwlch yno.  Hoffem allu llenwi'r bwlch hwnnw.

"Byddai'n wych clywed gan dyfwyr lleol, cynhyrchwyr lleol.  Rydym bob amser yn barod i gael golwg ar yr hyn rydych chi'n ei gynnig, ac efallai y byddwn yn gallu ei stocio."

Fodd bynnag, nid busnesau â chyswllt uniongyrchol â'r cyhoedd yn unig a gafodd eu heffeithio gan y pandemig.

Yn Aberteifi, mae Charles Warner o Quinky Young Plants, yn tyfu perlysiau a phlanhigion addurnol o safon uchel i'w gwerthu mewn canolfannau garddio ledled Cymru. Mae'n tyfu ei blanhigion o doriadau a hadau, mewn compost sy'n rhydd o fawn, heb ddefnyddio unrhyw blaladdwyr. 

Canfu Charles ei hun yn gorfod addasu ei fusnes ddwywaith - yn gyntaf i lai o alw, ac yna i ymateb wrth i bobl ddod i arfer â'r cyfnod clo - a galw newydd gynyddu.

Dywedodd: "Ar ddechrau'r cyfnod clo ym mis Mawrth, bu'n rhaid i mi daflu nifer o'r planhigion a oedd wedi cael eu tyfu dros y deuddeg mis diwethaf i'w gwerthu yn ystod y tymor arferol sy'n dechrau ym mis Mawrth ac yn parhau tan fis Mehefin.

"Gyda'r manwerthwyr ar gau, roedd dyfodol y busnes yn edrych yn ansicr iawn. Dechreuodd rhai canolfannau arddio ddod o hyd i ffyrdd newydd o fasnachu ar ôl rhai wythnosau ac er nad oedd modd cynhyrchu a danfon yn broffidiol, gweithiais bob dydd o fis Mawrth i fis Gorffennaf mewn ymgais i achub y busnes. 

Mae ton o ddiddordeb gan fanwerthwyr a'r cyhoedd yn cwtogi'r cadwyni cyflenwi a phrynu'n lleol wedi rhoi'r hyder i Charles fuddsoddi mewn ardal dyfu fwy i fodloni'r galw uwch y mae'n ei ragweld yn y dyfodol.

Ychwanegodd: "Mae'r tymor wedi ymestyn y tu hwnt i dymor blwyddyn arferol ond gyda llai o drosiant eleni, bydd goroesi'r gaeaf yn anodd ond os gallwn wneud hynny byddwn yn dechrau'r flwyddyn nesaf yn gryfach a chyda chapasiti ac amrediad o blanhigion cryn dipyn yn fwy."

Yn y Bont-faen, ym Mro Morgannwg, roedd Cowbridge Physic Garden yn fusnes bach arall a ganfu'r pandemig yn her ar y dechrau - gan y gofynnwyd i ymwelwyr gadw draw.

Fodd bynnag, llwyddodd yr ardd, a ddisgrifir fel 'gwerddon o lonyddwch' yn y dref farchnad hynafol, i ddefnyddio'r amser I addasu fel nifer o fusnesau Garddwriaeth eraill yng Nghymru.

Dywedodd un o ymddiriedolwyr yr ardd, Martyn Hurst: "Yn ystod cyfnod clo'r Coronafeirws, roedd ein gardd ar gau ond roedd grwpiau bychain o wirfoddolwyr yn cael dod i ofalu am yr ardd, y tu ôl i ddrysau caeedig.

"Ers ailagor, mae nifer fawr o ymwelwyr wedi dweud pa mor dda mae'r ardd yn edrych, a sut mae crwydro lle mor arbennig - a threulio amser yn mwynhau haelioni natur yn codi eu calon."

Ym mhen arall Cymru, yn Sir y Fflint, roedd grŵp bychan o arwyddwyr hefyd yn gweithio ar draws tri safle yn y sir ar gyfer Flintshare - gan addasu eu harferion gweithio i barhau i dyfu ffrwythau a llysiau organig - a chaniatáu i nifer cynyddol o'u haelodau gymdeithasu yn gyfrifol.

Dywedodd Janet Wainwright o'r grŵp Flintshare: "Rydym yn grŵp o arddwyr ffrwythau a llysiau cymunedol sy'n gweithio ar draws tri safle amrywiol yng ngogledd Cymru. Rydym wedi bod yn rhannu ein ffrwythau a llysiau a dyfir yn organig dros y 10 mlynedd diwethaf yn ein hwb wythnosol i aelodau, sy'n fwy na 'pwynt casglu' llysiau, mae'n gyfle i aelodau gymdeithasu ag aelodau ar draws y safleoedd gwahanol a bwyta teisen - ni allwn anghofio'r deisen!

"Nid oeddem am adael i Pandemig Covid-19 ein rhwystro, rydym wedi addasu ein harferion gweithio'n llwyddiannus er mwyn parhau i dyfu ffrwythau a llysiau lleol, cynaliadwy i'n haelodau.

"Yn wir, yn ystod y pandemig mae ymchwydd wedi bod yn ein haelodaeth gyda'r ffigwr oddeutu 100 bellach."

Dywedodd Laura Gough, Pennaeth Menter ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam: "Rydym yn cydnabod yr heriau mae busnesau ein haelodau wedi'u hwynebu dros y misoedd diwethaf, ac roeddem eisiau cofnodi'r rhain gyda chyfres o ffilmiau byrion, yn amlygu eu gwytnwch a'u hymateb i'r pandemig.
 

"Gan gydweithio â FilmCafe, mae'r ffilmiau hyn yn arddangos sut mae tyfwyr, garddwyr a chynhyrchwyr lleol wedi cydweithio, cadw eu cymunedau'n ddiogel a chyflenwi nwyddau a chynnyrch lleol i Gymru."

Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog dros yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: "Hoffwn longyfarch yr holl gynhyrchwyr a busnesau o bob rhan o Gymru y tynnwyd sylw at eu gwaith diolch i'r prosiect hwn.

"Mae'r penderfyniad a'r arloesedd y maent wedi'u dangos wrth addasu i'r heriau a achosir gan y pandemig Covid-19 yn nodweddiadol o natur wydn y sector hwn, ynghyd â'r ymdrech y maent wedi'i wneud i gefnogi eu cymunedau lleol."

 

 

Share this page

Print this page