Mae Bwyd a Diod Cymru Llywodraeth Cymru wedi cynnal derbyniad Qatari gyda chynhyrchwyr blaenllaw, wrth i’r paratoadau ddechrau ar gyfer Cymru yn cymryd y rhan yng Nghwpan y Byd Qatar 2022 ymhen pedair wythnos.
Fe’i cynhaliwyd yn Llysgenhadaeth Prydain yn Doha a’i gyflwyno gan Lysgennad EF i Qatar, Jon Wilks CMG, roedd y cinio a’r arddangosfa o fwyd a diod o Gymru yn cychwyn cyfres o ddigwyddiadau proffil uchel wrth i Lywodraeth Cymru ddefnyddio ymddangosiad Cymru yng Nghwpan y Byd i helpu i godi ei broffil ar draws y byd.
Mae’r rhain yn cynnwys gweithgareddau a gynhelir yng Nghymru, Qatar ac Unol Daleithiau America, gyda Chronfa Gymorth Partneriaid Cwpan y Byd Llywodraeth Cymru yn darparu £1.8m o gyllid i helpu i rannu diwylliant, celfyddydau a threftadaeth Cymru ar draws y byd mewn ymgais i hybu ei heconomi a’i phroffil.
Mae marchnad Qatari yn parhau i fod yn bwysig i ddiwydiant bwyd a diod Cymru, gan ei bod yn un o’r gwledydd cyfoethocaf yn y byd ac yn mewnforio’r mwyafrif helaeth o’i gofynion bwyd. Yn bresennol yn y derbyniad oedd rhai o ffigyrau blaenllaw bwyd a diod Qatari, gan gynnwys cynrychiolwyr masnach dylanwadol o westai, archfarchnadoedd a bwytai, gyda'r nod o ddyfnhau cysylltiadau rhwng y ddwy wlad.
Roedd y ddirprwyaeth o Gymru yn cynnwys cynhyrchwyr sy'n allforio i'r rhanbarth ar hyn o bryd ac yn awyddus i gryfhau cysylltiadau masnach ymhellach. Roedd y rhain yn cynnwys Hybu Cig Cymru yn arddangos Cig Oen Cymru PGI, Calon Wen, Tŷ Nant, Penderyn, Rachel’s Organic a diodydd Stillers.
Hefyd yn bresennol o’r ddirprwyaeth oedd y cogydd enwog o Gymru, Chris Roberts, a fu’n rhoi gwledd wych o farbeciw Cig Oen Cymru i westeion. Yn ei gynorthwyo o Goleg Caerdydd a’r Fro roedd Tony Awino, cogydd a darlithydd lletygarwch, a’r cogydd iau Joshua Campbell-Taylor, a oedd yn arddangos y cyfleoedd a gynigir gan yrfa mewn lletygarwch a’r diwydiant bwyd ehangach.
Daw’r digwyddiad wrth i ffigurau dros yr haf ddangos bod allforion bwyd a diod o Gymru wedi cyrraedd y lefel uchaf erioed yn 2021, sef £640m. Yn tanlinellu’r ymdrechion i dyfu’r diwydiant allforio ymhellach mae’r ffaith bod gan Gymru hefyd y cynnydd canrannol mwyaf yng ngwerth allforion bwyd a diod allan o bedair gwlad y DU rhwng 2020 a 2021, gan godi £89 miliwn sy’n cynrychioli twf o 16.1%.
Dywedodd Gweinidog Llywodraeth Cymru dros Faterion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, Lesley Griffiths:
“Rydym i gyd yn gyffrous iawn i weld Cymru yng Nghwpan y Byd, am y tro cyntaf ers 64 mlynedd. Mae hefyd yn gyfle gwych i hyrwyddo bwyd a diod o Gymru i brynwyr allweddol yn Qatar.
“Mae ein diwydiant bwyd a diod llewyrchus yn stori o lwyddiant sy’n perthyn i lwyfan y byd.
“Roedd y cynhyrchion a’r busnesau a gafodd sylw yn y digwyddiad yn cynnig cipolwg o’r ansawdd sydd gennym i’w gynnig. Mae’r ffaith bod allforion bwyd a diod o Gymru yn parhau i dyfu i’r lefelau uchaf erioed yn tanlinellu ansawdd ein cynhyrchwyr a sut mae’r diwydiant yn gweithio’n galed i gryfhau cysylltiadau â phartneriaid masnachu ledled y byd.”
Un o bartneriaid arweiniol y ddirprwyaeth oedd Hybu Cig Cymru (HCC), sy’n awyddus i dyfu eu cysylltiadau masnach yn y rhanbarth ymhellach.
Mae Qatar, ynghyd â chenhedloedd eraill yn y Dwyrain Canol, wedi bod yn farchnad lewyrchus yn ddiweddar, gydag allforion yn cynyddu a sawl bwyty a manwerthwr o safon uchel yn stocio Cig Oen Cymru. Tyfodd gwerth allforion Cig Oen Cymru i Qatar bum gwaith yn ystod y ddwy flynedd yn arwain at 2020 a bu cynnydd o 367% yng ngwerth ariannol allforion i Qatar hyd yn hyn yn 2022 o gymharu â’r un cyfnod yn 2021.
Mae'r digwyddiad yn rhan o ymgyrch hyrwyddo ehangach, a gefnogir gan grant o £97,000 gan Lywodraeth Cymru, i godi proffil Cig Oen Cymru yn Qatar ac Unol Daleithiau America, sy'n farchnad allweddol newydd yn dilyn codi gwaharddiad allforio yn gynharach eleni.
Yn ôl HCC, mae datblygu'r farchnad yn Qatar a'r rhanbarth ehangach yn flaenoriaeth strategol. Dywedodd Jon Parker, Pennaeth Cadwyni Cyflenwi yn HCC,
“Mae’r Dwyrain Canol yn farchnad o flaenoriaeth uchel i Gig Oen Cymru, ochr yn ochr â chynnal ein marchnadoedd gwerthfawr ym Mhrydain ac Ewrop, a datblygu masnach gydag Asia a Gogledd America.
“Mae cig oen yn boblogaidd ar draws y rhanbarth, ac oherwydd yr hinsawdd mae’n rhaid i wledydd y Dwyrain Canol fewnforio llawer o’u bwyd ffres. Mae’r sector arlwyo a lletygarwch yn cynnig marchnad bwysig ar gyfer cig o ansawdd uchel, sydd â stori gref o gynaliadwyedd, ac mae’n faes y mae gan Gymru stori arbennig o dda i’w hadrodd.
“Rydym yn ddiolchgar am y gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru wrth drefnu’r digwyddiad yn Qatar, ynghyd â’r cyllid ehangach o amgylch Cwpan y Byd, sy’n caniatáu i ni godi proffil Cig Oen Cymru ymhellach a helpu i sicrhau marchnadoedd a siopau newydd ar gyfer un o brif gynhyrchion Cymru.
Ymhlith y cynhyrchwyr eraill yn y digwyddiad roedd Distyllfa Penderyn, sy’n cynhyrchu wisgi brag a gwirodydd arobryn wrth odre Bannau Brycheiniog. Dywedodd Stephen Davies, Prif Weithredwr Distyllfa Penderyn,
“Mae Penderyn wedi ennill enw da yn fyd-eang yn gyflym am ein hamrywiaeth o wisgi ac rydym yn gwmni sy’n edrych tuag allan ac sy’n awyddus i agor cyfleoedd mewn marchnadoedd newydd. Mae’r ffaith bod Penderyn bellach ar gael mewn dros 50 o wledydd yn dyst i hyn.
“Roeddem yn falch iawn o fod yn rhan o’r digwyddiad yn Doha, ac rydym yn gwbl gefnogol i nodau Llywodraeth Cymru i ehangu gorwelion diwydiant bwyd a diod Cymru a manteisio hefyd ar y cyfleoedd a gynigir gan ymddangosiad Cymru yng Nghwpan Pêl-droed y Byd.”
Ymhlith y cynhyrchwyr eraill yn y digwyddiad roedd y detholiad o ddiodydd Stillers o Ddistyllfa Old Coach House Distillery. Wedi’i sefydlu yn 2019 gyda’r awydd i greu diodydd botanegol cwbl naturiol, di-alcohol wedi’u distyllu, dywedodd y Cyfarwyddwr Cameron Mackay,
“Mae ein cynhyrchion yn ddiodydd soffistigedig y gellir eu mwynhau fel dewis arall gwych i beidio ag yfed alcohol, ac mae ganddynt nifer o fanteision iechyd hefyd.
“Rydym yn teimlo bod ein cynnyrch di-alcohol yn gweddu’n berffaith i farchnad y Dwyrain Canol, ac rydym yn ddiolchgar am y cyfle a roddwyd i ni gan Lywodraeth Cymru i’n helpu i agor marchnadoedd newydd fel y rhain.”