Dysgodd ddisgyblion o dair ysgol yn Ne Cymru am gyfleoedd gyrfa yn y diwydiant bwyd a diod yng Nghymru ar 23-24 Ionawr 2024, fel rhan o Daith Ysgolion a drefnwyd gan Sgiliau Bwyd a Diod Cymru / Food & Drink Skills Wales i ddod a disgyblion i Bencampwriaethau Coginio Rhyngwladol Cymru yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru, Casnewydd (ICC Wales).
Mynychodd cyfanswm o 95 disgybl o Ysgol Uwchradd Casnewydd, Ysgol Gymraeg Plasmawr, Caerdydd ac Ysgol Uwchradd Fitzalan yng Nghaerdydd y digwyddiad. Yn ystod y diwrnod, cafodd y disgyblion gyfle i ddatblygu eu sgiliau cyflwyno, iaith y corff a sgiliau chyfathrebu efo Rob Hookman o Gwmni Hyfforddiant Cambrian a cyflwynwyd nhw i’r byd technolegwyr bwyd gan Leanne Ellis o Ganolfan Ddiwydiant Bwyd Zero2Five. Roedd cyfleoedd hefyd i ddatblygu sgiliau megis plygu napcyn, gwneud omlet a chymysgu moctêls.
Trefnwyd y digwyddiad i gyd-fynd â Phencampwriaethau Coginio Rhyngwladol Cymru, oedd yn cynnal cystadlaethau Cogydd Ifanc Cymru, Cogydd Cenedlaethol Cymru a Chigydd Cymreig y Flwyddyn, yn ogystal â dosbarthiadau sgiliau, pob un yn cael eu rhedeg gan Culinary Association of Wales.
Trefnwyd y digwyddiad i gyd-fynd â Phencampwriaethau Coginio Rhyngwladol Cymru, ac oedd yn cynnwys cyfres o gystadleuthau agored i brentisiaid yn hyfforddi a gweithio yn y diwydiant. Roedd yn galluogi disgyblion wylio’r cogyddion yn cystadlu a’r cogyddion dan hyfforddiant ar waith, a thrafod efo arddangoswyr yn y prif neuadd lle roedd y cystadlaethau’n digwydd.
Dywedodd Arwyn Watkins OBE, Llywydd Culinary Association of Wales:
“Symudon ni’r Pencampwriaethau Coginio Rhyngwladol Cymru i Ganolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru i greu digwyddiad arddangos lletygarwch tri diwrnod. Am y tro cyntaf mae Pencampwriaethau Coginio Rhyngwladol Cymru wedi dod a chogyddion Cymreig, cigyddion, prensitiaid lletygarwch a sector bwyd a diod Cymru at eu gilydd i rwydweithio ac adeiladu perthnasau busnes.
“Rydym yn falch i weithio mewn partneriaeth efo Sgiliau Bwyd a Diod Cymru/Food & Drink Skills Wales i groesawu disgyblion technoleg bwyd ym Mhencampwriaethau Coginio Rhyngwladol Cymru. Cafodd y disgyblion gyfle i roi cynnig ar rai o'n dosbarthiadau sgiliau a dysgu'n uniongyrchol am y sector lletygarwch a chyfleoedd gyrfa yn ein diwydiant yn y dyfodol."
Dywedodd Elen Rebeca Jones, Rheolwr Ymgysylltu Sgiliau Bwyd a Diod Cymru / Food & Drink Skills Wales:
“Roedd yn bleser pur cynnig y digwyddiad yma a chael gweld disgyblion yn cael amser da. Mae gan Gymru ddiwydiant bwyd a diod anhygoel o fywiog sydd yn cynnig ystod eang o gyfleoedd swyddi cyffrous.
“Roedd y disgyblion wedi eu hysbrydoli ac wedi cael cyfle i rwydweithio a dod i adnabod pa gyfleoedd a gwahanol adnoddau hyfforddi sydd ar gael yn y diwydiant bwyd a diod. Er na fydd pob disgybl a fynychodd yn ymuno â’r diwydiant bwyd a diod, gobeithiwn y bydd rhai ohonynt yn dilyn y llwybr hwn - a dysgodd pob un ohonynt rhywbeth newydd yn ystod y diwrnod. Rhoddodd foddhad mawr i mi fel Rheolwr Ymgysylltu i gyfrannu at gyflawni hynny iddynt.