Mae adroddiad newydd a gyhoeddwyd yr wythnos hon yn dangos bod Prosiect HELIX, menter a ddatblygwyd i hybu arloesedd ac effeithlonrwydd yn niwydiant bwyd a diod Cymru, eisoes wedi cael effaith o dros £110 miliwn, ers ei lansio dair blynedd yn ôl.
Mae’r cynllun yn defnyddio cyfleusterau gweithgynhyrchu sydd ar flaen y gad, ac mae wedi darparu cymorth technegol a hyfforddiant wedi ei deilwra sydd wedi helpu datblygu cannoedd o gynnyrch newydd, helpu busnesau i arloesi a bod yn fwy cynhyrchiol, gwella sgiliau a lleihau gwastraff yn y gadwyn gyflenwi.
Mae Prosiect HELIX, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r UE, yn fenter strategol ar gyfer Cymru gyfan, a ddarperir gan Arloesi Bwyd Cymru, sy’n bartneriaeth rhwng tair canolfan fwyd yng ngogledd, canolbarth/gorllewin a de Cymru.
Hyd yma mae Prosiect HELIX wedi darparu buddiannau clir i’r sector gan gynnwys:
- Creu 298 swydd a diogelu 1302 swydd arall
- Cefnogi 156 busnes newydd
- Cynorthwyo 276 menter
- Cyrchu 241 marchnad newydd, a
- Datblygu 366 cynnyrch newydd
Wrth wneud sylwadau ar y llwyddiant hwn, dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig:
“Mae llwyddiant Prosiect HELIX yn dangos sut y gall cydweithio rhwng academia, arbenigwyr y diwydiant, y llywodraeth a chynhyrchwyr ar lawr gwlad wneud gwahaniaeth mawr.
“Gyda hwb o £110 miliwn, creu swyddi newydd a diogelu rhai eraill, datblygu cynnyrch newydd, lansio busnesau newydd, gweithlu mwy medrus – mae hyn oll yn helpu cyfoethogi enw da cynyddol Cymru yn y diwydiant bwyd a diod rhyngwladol ymhellach.
“Wrth inni baratoi am yr heriau a ddaw gyda Brexit, mae arloesedd yn gwneud y diwydiant bwyd a diod yn fwy gwydn ac mae’n chwarae rhan allweddol yn ein llwyddiant ni yma yng Nghymru. Rydw i’n annog cynhyrchwyr a gwneuthurwyr i ddarganfod pa gefnogaeth sydd ar gael drwy Prosiect HELIX a sut y gall ei arbenigedd a’i gyfleusterau technegol blaengar fod o fudd iddyn nhw.”
Ymysg y busnesau sydd eisoes wedi derbyn cymorth gan Prosiect HELIX mae Boss Brewery, a dywedodd Sarah John o’r bragdy,
“Mae’r cymorth rydyn ni wedi ei dderbyn wedi bod yn allweddol i’n helpu ni gael achrediad SALSA, cam pwysig iawn yn ein siwrne fel gwneuthurwr diodydd. Gwnaethon nhw ein mentora, ein harwain a’n hyfforddi ni drwy’r holl broses, ac roedd y cyfan yn amhrisiadwy inni fel cwmni.”
Ychwanegodd Peter Rice o Prima Foods,
“Heb y gefnogaeth rydyn ni wedi ei derbyn, byddai’r busnes wedi cymryd llawer hirach i gwrdd â’r gofynion o ddod yn gyflenwr ail-haen i nifer o fanwerthwyr a busnesau o’r radd flaenaf. Mae’r cyngor, y datblygu staff cydweithrediadol a’r cyfoeth o gefnogaeth sydd ar gael wedi galluogi Prima i wneud yr hyn mae’n ei wneud orau gyda hyder a sicrwydd.”
Daw’r ffigyrau diweddaraf yn fuan ar ôl y cyhoeddiad bod Arloesi Bwyd Cymru wedi dod yn bartner rhwydwaith o Sefydliad Ewropeaidd Arloesedd a Thechnoleg (EIT) Bwyd, prif fenter arloesi bwyd Ewrop. Gyda chymorth cyllid gan Lywodraeth Cymru, bydd hyn yn sefydlu presenoldeb EIT Bwyd pwrpasol yng Nghymru, gan gysylltu diwydiant Cymru â chonsortiwm ehangach o bobl allweddol y diwydiant, busnesau sy’n cychwyn, canolfannau ymchwil a phrifysgolion ledled Ewrop.
Mae’r Athro David Lloyd, ar ran Arloesi Bwyd Cymru, wrth ei fodd â’r ffigyrau diweddaraf:
“Drwy hybu arloesedd, effeithlonrwydd a dull strategol o wneud busnes, mae Prosiect HELIX wedi gallu cael effaith sylweddol yn sector bwyd a diod Cymru, gan greu a diogelu swyddi ledled y wlad.
“Mae’r sector bwyd a diod yn hanfodol i economi Cymru a bydd y cydweithio parhaol rhwng Llywodraeth Cymru, academia a gwneuthurwyr yn helpu’r sector i arloesi a ffynnu yn y dyfodol.”
Yn ystod y flwyddyn nesaf ac ar ôl hynny, bydd Arloesi Bwyd Cymru yn parhau i gefnogi busnesau bwyd a diod Cymru i dyfu’n broffidiol drwy arloesedd drwy ddatblygu cynnyrch a marchnadoedd newydd; rhoi mynediad at arloesedd sydd ar flaen y gad i ddiwydiant bwyd a diod Cymru; darparu allgynhyrchion Prosiect HELIX a chefnogi Llywodraeth Cymru gyda chyfleusterau o safon ac arbenigedd byd-eang i ddarparu hinsawdd ble gall cwmnïau bwyd a diod ffynnu.